Tîm Cymru yn datgelu eu gwisg ffurfiol wedi’i dylunio gan Julien Macdonald

Gyda 24 awr i fynd, mae Tîm Cymru wedi datgelu eu gwisg ffurfiol ar gyfer Seremoni Agoriadol Birmingham 2022, wedi’i dylunio gan y dylunydd ffasiwn byd-enwog o Gymru, Julien Macdonald

Bu Julien Macdonald yn gweithio gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru, y corff sy’n gyfrifol am fynd â Thîm Cymru i Gemau’r Gymanwlad, ac athletwyr Tîm Cymru i ddylunio a chynhyrchu gwisg ffurfiol ar gyfer y seremoni agoriadol.

Mae draig ddigamsyniol Cymru i’w gweld eto, ond gyda thro y tro hwn. Ysbrydolwyd y dyluniad gan faner Cymru, gyda’r ddraig yn ymddangos ar ysgwydd y siwt smart yn ogystal â’r tei coeth.

Mae’r negeseuon Cymreig i’w gweld yn ddyfnach yn y cynllun cyffredinol, gyda Chlogau Gold yn dylunio bathodyn pin pwrpasol i gyd-fynd â chreadigaeth Julien.

Julien Macdonald:

“Mae mor gyffrous bod yn rhan o brosiect mor bwysig a gweithio’n agos gydag athletwyr Tîm Cymru. Mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel.

At ei gilydd, mae’r dyluniad yn rhywbeth Cymreig iawn ac yn cynnwys llawer o symbolau a lliwiau Cymreig sy’n cynrychioli Cymru. Mae’n rhywbeth rydw i wedi mwynhau ei wneud yn fawr ac yn amlwg rydw i wedi ychwanegu ychydig o hudoliaeth Julien Macdonald.”

Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu, sydd wedi gweithio’n agos gyda Julien ar y prosiect,

“Mae wedi bod yn daith gyffrous iawn, o’r drafodaeth gychwynnol o gydweithio, creu briff gyda Chomisiwn Athletwyr Tîm Cymru, i weld y cynnyrch gorffenedig o’r diwedd.

Roedd yn hollbwysig i ni fod y Comisiwn Athletwyr yn chwarae rhan fawr yn y cydweithio â Julien a’i dîm. Nhw yw llais yr athletwyr sy’n mynd i’r gemau, a thra bod ein gwisg Arfordir Aur 2018 yn lliwgar a bywiog, roedden nhw’n hyderus y byddai gwedd glasurol a thrwsiadus yn cyd-fynd yn well â gemau Birmingham 2022.

Mae wedi bod yn siwrnai gyffrous yn sicr, ac rwy’n siŵr y bydd gweithio ochr yn ochr â Julien, sydd wedi gwisgo wynebau enwocaf y Byd, yn cryfhau ymhellach y gefnogaeth a gaiff y tîm yn y Gemau.

Cael cyfle i weithio hefyd gyda Ben Roberts, Cyfarwyddwr Clogau sydd wedi dylunio a chynhyrchu Bathodyn Pin mor unigryw a hardd i gyd-fynd â chynllun siwt Julien y bydd y tîm yn ei wisgo yn y Seremoni Agoriadol. Mae’n bendant wedi bod yn brosiect rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweithio arno, ac mae’n rhaid i ni ddiolch i Julien, Ben a’u timau am wneud hwn yn brofiad unigryw i Dîm Cymru”

Gellir gweld datgelu’r dillad ffurfiol yma