GC2018: Day 10 Highlights

YR ARFORDIR AUR 2018: Y PERFFORMIAD GORAU ERIOED GAN DÎM CYMRU

Cyfanswm o 10 o fedalau aur i Gymru yn sgil buddugoliaethau i Lee a Price yn y bocsio

Aur i Mike Wixey yn y Trap Olympaidd

Medalau i Dani Rowe a Jon Mould yn y beicio ffordd

Stacey yn ennill y fedal efydd yn y tenis bwrdd

Cyfanswm o 36 o fedalau erbyn hyn (10 Aur, 12 Arian, 14 Efydd), a dwy gystadleuaeth ar ôl

Yr un faint â Glasgow – cyfanswm o 36 o fedalau

Yr un faint ag Auckland 1990 – 10 medal aur gyda nifer fwy o fedalau arian ac efydd

Mae Cymru’n awr yn 7fed yn y tabl medalau, yn uwch na’r Alban a Nigeria.

 

BOCSIO

Roedd hi'n noson hanesyddol i fyd chwaraeon Cymru – ac i focsio yng Nghymru yn arbennig – wrth i’r genedl ddathlu’r perfformiad mwyaf llwyddiannus erioed yng Ngemau’r Gymanwlad.

Cyrhaeddodd Cymru eu record o ran y nifer o fedalau a enillwyd erioed yn y Gemau (36) a’r nifer o fedalau aur (10). Daeth hyn yn sgil saith medal a enillwyd ddydd Sadwrn, yn cynnwys dwy fedal aur a medal arian yn y bocsio.

Mae Lauren Price eisoes wedi cael gyrfa chwaraeon ysgubol, yn cynnwys ennill teitl cic-focsio’r byd bedair gwaith pan oedd hi yn ei arddegau a chynrychioli Cymru yn y pêl-droed. Hi hefyd oedd y ferch gyntaf i ennill medal i Gymru am focsio yng Ngemau'r Gymanwlad, a hynny yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.

Ond heno ychwanegodd fedal aur y Gymanwlad at ei rhestr o lwyddiannau.

Curodd yn erbyn Caitlin Parker o Awstralia yn dilyn dyfarniad rhanedig i ennill y fedal aur yn nosbarth 75kg y merched.

"Roeddwn i’n gwybod y byddai’n anodd cystadlu yn erbyn bocsiwr o Awstralia a hynny ar stepen ei drws, ond mi lwyddais i wneud hynny,” meddai Price.

“Fi yw’r fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad ac rwy’n hapus iawn gyda hynny."

Tro Sammy Lee ydoedd wedyn i gipio buddugoliaeth dros Gymru. Ei fedal aur ef oedd yr un a sicrhaodd mai Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur oedd y Gemau mwyaf llwyddiannus erioed i Dîm Cymru.

Cafodd Lee, sy’n 19 mlwydd oed, fuddugoliaeth unfrydol dros Ato Plodzicki-Faoagali o Samoa yn rownd derfynol 81kg y dynion.

Daeth y fuddugoliaeth lai na blwyddyn ar ôl iddo ennill y fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas.

Roedd Lee yn ei chael yn anodd dod o hyd i eiriau i ddisgrifio’r hyn a gyflawnodd: “Wn i ddim beth i’w ddweud. Nes i erioed feddwl y byddwn yn ran o foment mor hanesyddol ond dyma fi. Mae wedi bod yn fraint cynrychioli Cymru.”

Yn gynharach, y fyfyrwraig 21 oed Rosie Eccles oedd y bocsiwr cyntaf yn y cylch. Roedd hi’n wynebu Sandy Ryan o Loegr yn rownd derfynol 69kg y merched. Brwydrodd yn arwrol ond bu’n rhaid iddi setlo am y fedal arian ar ôl dyfarniad rhanedig.

 “Mi wnes i fy ngorau heno. Rydych yn dysgu wrth golli ac mae hynny’n eich gwneud yn gryfach.”

Gorffennodd Tîm Cymru’r gystadleuaeth gyda chyfanswm o bedair medal gan saith bocsiwr.

SAETHU

Gorffennodd saethwyr Tîm Cymru eu perfformiad gorau erioed yng Ngemau’r Gymanwlad gyda medal aur i Mike Wixey yng nghystadleuaeth trap olympaidd y dynion.

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Peirianneg 46 oed o’r Fenni yn well na’i sgôr ar y diwrnod cyntaf gan saethu 74 clai allan o 75, a chymhwyso gyda’r ranc uchaf ar gyfer y rownd derfynol. Ag yntau’n amlwg yn mwynhau bod ar y brig, aeth ymlaen i ennill ffeinal gyffrous a chipio’r fedal aur.

Roedd hynny’n ddiwedd i wythnos arbennig i Mike a’i wraig Sarah a enillodd y fedal efydd yng nghystadleuaeth trap y merched ddoe.

Gorffennodd Jon Davis, a gafodd anaf i’w ben-glin ddeuddydd cyn ei gystadleuaeth, yn y 26ain lle allan o 40.

Daeth Mike Bamsey o fewn pwynt i gymhwyso, fel ddigwyddodd i’w gyd-saethwr

Sian Corish yng nghystadleuaeth y merched ddoe. Daeth Mike yn 9fed, yr un peth â’i safle yn Glasgow ond gwnaeth yn well o ran perfformiad o 8 pwynt.

Cwblhaodd Gaz Morris & Chris Watson eu cystadlaethau unigol yng ngwobr y frenhines gyda nifer debyg o bwyntiau i’r enillwyr yn y saethu pell. Daeth Gaz yn 10fed a Chris yn 16eg a hynny mewn cystadleuaeth lle llwyddodd 5 o’r saethwyr gorau i dorri record flaenorol y Gymanwlad.

Allan o 11 o athletwyr, bydd y tîm saethu yn dychwelyd adref gyda 5 medal i Gymru, y pedwerydd berfformiad gorau o blith yr holl genhedloedd.

BEICIO

Ychwanegodd tîm beicio Cymru ddwy fedal arall at eu casgliad, wrth i Dani Rowe hawlio’r efydd yn ras ffordd y merched a Jon Mould gipio’r arian yn sbrint y dynion.

Bedair blynedd yn ôl, cystadlodd Rowe (King gynt) dros Dîm Lloegr yn y ras ffordd, ras ‘scratch’, ras unigol a’r ras bwyntiau.

Ond â hithau’n briod yn awr â Chymro, rhoddodd grys Cymru amdani a chystadlu yn y sbrint gan ddilyn ei chyd-feicwraig Elinor Barker, a enillodd y ras bwyntiau’r wythnos ddiwethaf gyda help gan Rowe.

Roedd Rowe yn ddiolchgar i Barker am ddychwelyd y ffafr ar y ffordd heddiw.

“Mae’n teimlo’n anhygoel. Mae Gemau’r Gymanwlad wedi bod yn nod gen i ers amser maith iawn. Felly rwy’n hapus iawn fod yr holl waith caled wedi talu,” meddai.

Hefyd yn cynrychioli Cymru ar y ffordd roedd Megan Barker, Manon Lloyd, Jess Roberts a Hayley Jones.

“Fe berfformiodd y merched yn gwbl anhygoel, pob un ohonyn nhw. Roedd yn bwysig gwneud yn sicr fod Elinor a minnau bob amser ar y blaen wrth ddechrau dringo fel na fydden ni’n colli unrhyw beth.”

“Ond roedd Awstralia’n rheoli’r ras o’r dechrau i’r diwedd. Felly roedd rhaid canolbwyntio ar orffen yn gryf.”

Yn ddiweddarach, enillodd Jon Mould y fedal arian yn ras ffordd y dynion ar ôl i  gorffen y tu ôl i Steele von Hoff o Awstralia – y diwedd perffaith i’r cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae cyfanswm y medalau a enillwyd gan feicwyr Cymru yn 6 ar ôl ennill y medalau hyn heddiw – sef dwy fedal yn fwy na Gemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014.

TENIS BWRDD

Joshua Stacey ddaru ennill y 31ain medal i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Enillodd y fedal efydd yn nosbarth TT6-10 y para-tenis fwrdd ar ôl curo Theo Cogill o Dde Affrica o 3-2.

Cogill enillodd y gêm gyntaf a hynny o 11 – 8, ond wnaeth Stacey ddim gwastraffu unrhyw amser yn adennill tir gan gipio’r ddwy gêm nesaf gyda’i berfformiad.

Byddai’n rhaid i’r Cymro deunaw oed o Gaerdydd ennill y gêm nesaf er mwyn sicrhau’r fedal efydd.

Bu rhaid i Stacey aros ychydig yn hirach wrth i’w wrthwynebydd ennill y bedwaredd gêm.

Wrth i’r bedwaredd gêm gychwyn, roedd gan hyfforddwr Stacey, y chwaraewraig tenis bwrdd Charlotte Carey, neges syml iawn: “Cymer dy amser, dyma dy gyfle.”

A dyna’n union a wnaeth wrth gipio’r bumed gêm – yr olaf – o 11 – 8 a hawlio lle ar y podiwm.

“Pob parch i Theo, mi roedd yn gêm agos iawn ond wrth gwrs rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad.”

Ac mae ei olygon eisoes ar y dyfodol.

“Rwyf wrth fy modd. Alla i ddim disgwyl tan Gemau Birmingham 2022 yn awr, a gobeithio y gallaf wella rhywfaint ar liw y fedal.” 

RYGBI 7 BOB OCHR

Bu bron i dîm rygbi saith bob ochr dynion Cymru beri sioc a hanner yn erbyn y Pencampwyr Olympaidd Fiji mewn gêm bwll gyffrous yn Stadiwm Robena.

Roedd y ddwy ochr wedi curo Uganda a Sri Lanka yng ngemau agoriadol pwll D, a greodd sefyllfa lle byddai’r enillwyr yn ennill y grŵp a chymhwyso ar gyfer y rowndiau cynderfynol gyda siawns am fedal bosibl.

Goroesodd Cymru fygythiad cynnar pan wrthodwyd cais gan Fiji, cyn i Owen Jenkins, mab cyn fachwr carfan Cymru Garin, bweru ymlaen a chychwyn y sgorio. Ni lwyddodd Angus O'Brien i drosi’r cais. Croesodd Ravouvou ddau funud yn ddiweddarach, a throsiodd ei gais ei hun, i roi’r Ynyswyr ar y blaen o 7-5 ar hanner amser.

Rhoddodd Vakurinabili gychwyn perffaith i Fiji i’r ail gyfnod wrth iddo roi ei dîm ar y blaen o naw phwynt. Ond tarodd Luke Morgan yn ôl yn syth, gan roi sbrint tua’r gornel a rhoi’r bêl ar y llawr. Yna, rhoddodd Ben Roach gip i Gymru ar fuddugoliaeth bosibl gan sgorio cais, a droswyd wedyn gan O'Brien, a rhoi mantais 17-14 iddynt.

Yn y munud olaf, dangosodd Fiji pam fod ganddynt statws eiconig yn y gamp, wrth iddynt daro’n ôl gyda throsgais Kunatani a’u rhoddodd yn ôl ar y blaen.

Yn yr ychydig eiliadau olaf, lansiodd Cymru gyrch mentrus o'u llinell gôl eu hunain, gyda Justin Tipuric yn amlwg, yn hanner Fiji. Ond syrthiodd y bêl ar ôl i'r corn ganu, gan adael chwaraewyr Cymru'n siomedig tu hwnt o golli’r cyfle i ennill medal y Gymanwlad o drwch blewyn. Sgôr derfynol Cymru 17 Fiji 21.

Meddai’r Capten Adam Thomas: “Fe ddaru ni berfformio’n dda iawn fel carfan a gweithredu’n cynllun. Fe roddon ni bopeth ar y cae. Nid oedd pethau ar ein hochr ni heno.”

“Mae’r profiad cyffredinol yng Ngemau’r Gymanwlad wedi bod yn wych â bod yn onest. Rydym wedi tyfu fel carfan, a gobeithio y gallwn fynd â’r nodweddion da yma i gyfres y byd.”

Bydd Cymru nawr yn chwarae yn erbyn yr Alban am 0130 BST yfory wrth i’r timau gystadlu am safleoedd 5 i 8. 

“Mae’n bwysig ein bod yn codi ac yn mwynhau yfory, er bod y cyfle am fedal wedi mynd. Mae’n anhebygol y bydd y grŵp hwn yn chwarae gyda’i gilydd efo, felly bydd yn wych os gallwn orffen yn gryf.” 

Wedi cael eu trechu ddwywaith ar ddiwrnod agoriadol y gystadleuaeth, collodd tîm merched Cymru 45-0 i Loegr, sydd â thîm yn llawn o chwaraewyr llwyr broffesiynol. Byddant nawr yn chwarae yn erbyn Kenya ychydig cyn 0100 BST yfory.

DEIFIO

Gorffennodd Aidan Heslop, 15 mlwydd oed, yn y chweched safle yn y Deifio o’r Platfform 10m.

Heslop yw deifiwr cyntaf Cymru mewn Gemau’r Gymanwlad am 20 mlynedd. Daeth o’r 12fed safle i gymhwyso 5ed ar gyfer y rownd derfynol, lle bu’n cystadlu yn erbyn deifwyr talentog iawn o Ganada, Awstralia a Lloegr, a sgoriodd 6.0 neu uwch sawl gwaith.

Wrth wynebu ei ddwy ymgais olaf, roedd Heslop yn safle’r fedal Efydd. Yn y pendraw gorffennodd yn y chweched safle gyda sgôr glodwiw o 395.95.

Meddai Aidan: “Mae bod yn chweched yn llwyddiant gwirioneddol i fi gan mai dyma fy ymddangosiad cyntaf mewn Gemau ac mae’n fraint cael deifio gyda rhoi o oreuon y byd. Dim ond y cychwyn yw hyn ac rwyf eisiau parhau felly gobeithio y bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu ar gyfer cystadlaethau yn y dyfodol.”

ATHLETAU

Rhoddodd Melissa Courtney, enillydd y fedal Efydd yn y 1500m, berfformiad dewr yn y ras 5000m ar ddiwrnod ola’r cystadlu trac a maes yn Stadiwm Carrara.

Cychwynnodd y ras yn bwyllog a chyson mewn tymheredd uchel, ond dechreuodd Hellen Obiri, Pencampwr y Byd o Kenya, wthio’r cyflymder wrth i’r ras fynd heibio 2km. Arhosodd Melissa yn y prif grŵp ynghyd ag athletwyr eraill o wledydd Prydain, ond erbyn y lapiau olaf, roedd mwy o fwlch rhwng y rhedwyr a llwyddodd Obiri i wibio tua’r blaen ac ennill yr Aur, gyda Margaret Kipkemboi, hefyd o Kenya, yn ennill yr Arian a Laura Weightman o Loegr yn cipio’r Efydd. Daeth Melissa’n 9fed gydag amser o 15:46.

Ar ôl y ras, roedd gan Melissa deimladau cymysg: “Des i allan yma gyda’r 5k yn flaenoriaeth, gan obeithio bod yn y 6 uchaf a chyda fy ngolygon ar Record Cymru, ond nid felly’r oedd hi i fod. Wnes i ddim disgwyl cael y fedal Efydd am y 1500m felly rwyf mor hapus gyda honno.”

“Roedd yr amodau yn anoddach allan yma nag yr o’n i wedi disgwyl er i fi hyfforddi yn Kenya a pharatoi yn dda allan yma, ond doedd y cychwyn pwyllog ddim yn fy siwtio i. Byddaf yn troi fy sylw tuag at bencampwriaethau Ewrop nawr, ac aros i weld sut mae’r tymor yn mynd cyn y bydd rhaid i mi benderfynu os byddaf yn rhedeg y 1500m ynteu’r 5000m yno.”

 

Am amserlen y diwrnod olaf (dydd Sul 15eg Ebrill) ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm