Inspirational athletes deliver Team Wales’ most successful Games in Gold Coast

Mae athletwyr Tîm Cymru yn dathlu ar ôl y perfformiad gorau erioed yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

Enillodd y tîm o oddeutu 200 o athletwyr gyfanswm o 36 o fedalau yn cynnwys 10 aur – y canlyniad gorau erioed i Gymru yn y Gemau.

Hawliodd Tîm Cymru 12 medal arian a 14 medal efydd hefyd, i’w rhoi yn seithfed ar y tabl medalau ar ddiwedd y Gemau – ar y blaen i’r Alban a oedd yn yr 8fed safle a Nigeria a oedd yn 9fed.

Cafwyd medalau mewn 11 o gampau, sy’n adlewyrchu datblygiad sylweddol ar draws nifer o chwaraeon lle na fu Cymru’n arbennig o gryf yn y gorffennol.

Sicrhawyd lle ar y podiwm mewn athletau, beicio (trac a ffordd), bocsio, bowlio lawnt, codi pwysau, gymnasteg (rhythmig ac artistig), nofio, saethu, sboncen, tenis bwrdd, a reslo.

Meddai Chef de Mission Tîm Cymru Yr Athro Nicola Phillips:

“Rydyn ni ar ben ein digon ar ôl yr hyn sydd wedi ei gyflawni yma. Gofynnwyd i’r athletwyr ganolbwyntio ar roi o’u gorau wrth berfformio yn y Gemau, yn hyderus y byddai’r medalau yn dod yn sgil hynny. A dyna ddigwyddodd. Mae pawb wedi gweithio fel tîm ac mae’r athletwyr wedi dangos angerdd ac ymroddiad. Does dim amheuaeth y byddan nhw wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Mae yna stori ehangach y tu ôl i’r tabl medalau, gyda rhestr faith o oreuon personol a safleoedd uchel – perfformiadau gwell nag erioed. Llwyddodd llawer o’r athletwyr ieuengaf i gyrraedd y rowndiau terfynol yn eu Gemau cyntaf erioed, a llwyddodd eraill i ennill gyda sylw rhyngwladol sylweddol arnyn nhw.

“Mae’r cyrff llywodraethu cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, wedi paratoi’r athletwyr yn well nag erioed o’r blaen. Ac mae staff Tîm Cymru wedi gweithio’n galed i greu’r awyrgylch gorau bosibl i sicrhau llwyddiant ar yr Arfordir Aur.

“Mae’r perfformiadau anhygoel ar draws y chwaraeon yn dangos fod Cymru’n gallu cystadlu mewn mwy nag ambell i gamp.

“Er fod rhai o’r athletwyr yn hyfforddi ac yn cystadlu’n llawn amser, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwneud hynny ochr yn ochr â gweithio neu astudio. Yn ddi-eithriad, mae’r athletwyr wedi paratoi’n ddiflino ac wedi rhoi o’u gorau, a dyna’r cyfan oedd yn ofynnol ohonyn nhw.”

Meddai Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:

“Mae Tîm Cymru wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd cynhwysol. Mae hynny wedi cyfrannu at yr hyder a’r gefnogaeth y mae pawb, yn cynnwys y cenhedloedd eraill, wedi sylwi arno yn ystod y Gemau.

“Ein nod oedd ysbrydoli eraill i berfformio ac i gyflawni eu gorau, a thrwy hynny gryfhau’r diddordeb mewn chwaraeon yng Nghymru yn arbennig ymhlith pobl ifanc. Does gen i ddim amheuaeth ein bod wedi cyflawni hynny – trwy berfformiadau’r athletwyr wrth gystadlu a’u hagwedd a’u hymddygiad y tu hwnt i’r gystadleuaeth.

“Mae ein llwyddiant yng Ngemau’r Arfordir Aur 2018 yn brawf o’r arweinyddiaeth gref y mae Nicki fel ein Chef de Mission wedi’i dangos, a’r gefnogaeth ardderchog a gafwyd gan staff Gemau’r Gymanwlad Cymru a swyddogion Tîm Cymru.

“Daw’r llwyddiant hefyd yn sgil ymroddiad aruthrol gan yr athletwyr eu hunain a chefnogaeth gadarn gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol, hyfforddwyr a staff Chwaraeon Cymru.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n noddwyr CGI a Phrifysgol De Cymru, ac i Lywodraeth Cymru, sydd wedi’n cefnogi ar hyd y daith.”

Bydd athletwyr a staff Tîm Cymru yn dychwelyd adref ar ôl Seremoni Gloi Gemau’r Gymanlwad 2018 yn Stadiwm Carrara.


AUR (10)

Athletau:

Hollie Arnold

Gwaywffon F46 y merched

Olivia Breen

Naid hir T38 y merched

Beicio (trac):

Elinor Barker

Ras bwyntiau 25km y merched

Bocsio:

Sammy Lee 

81kg y dynion

Lauren Price 

75kg y merched

Bowlio lawnt:

Daniel Salmon & Mark Wyatt

Parau’r dynion

Codi pwysau:

Gareth Evans

69kg y dynion

Nofio:

Alys Thomas

200m dull pili-pala’r merched

Saethu:

David Phelps

50m Prone Rifle y dynion

Michael Wixey

Trap y dynion

ARIAN (12)

Beicio (Ffordd):

Jonathan Mould 

Ras ffordd y dynion

Beicio (Trac):

James Ball

B&VI 1000m TT y dynion

James Ball

Sbrint B&VI y dynion

Lewis Oliva

Keirin y dynion

Bocsio:

Rosie Eccles

69kg y dynion

Bowlio Lawnt:

Laura Daniels

Senglau’r merched

Gymnasteg (Artistig):

Latalia Bevan

Ymarferion llawr y merched

Gymnasteg (Rhythmig):

Laura Halford

Cylch

Nofio:

Daniel Jervis

1500m dull rhydd y dynion

Reslo:

Kane Charig 

65kg y dynion

Saethu:

Ben Llewellin

Skeet y dynion

Gaz Morris & Chris Watson

Gwobr y Frenhines i barau

EFYDD (14)

Athletau:

Olivia Breen 

100m T38 y merched

Melissa Courtney 

1500m y merched

Bethan Davies

Ras Gerdded 20km y merched

Beicio (Ffordd):

Dani Rowe

Ras Ffordd y merched

Bocsio:

Mickey McDonagh

60kg y dynion

Bowlio Lawnt:

Julie Thomas & Gilbert Miles

Parau B2/B3 cymysg

Codi pwysau:

Laura Hughes

75kg y merched

Nofio:

Georgia Davies

50m dull cefn y merched

Chloe Tutton

200m dull brest y merched

Georgia Davies, Kathryn Greenslade, Alys Thomas & Chloe Tutton

Ras gyfnewid 4x100m y merched

Reslo:

Curtis Dodge

74kg y dynion

Saethu:

Sarah Wixey

Trap y merched

Sboncen:

Tesni Evans

Senglau’r merched

Tenis Bwrdd:

Joshua Stacey

TT6-010 y dynion