GC2018: Day 8 Highlights

CYMRU’N CYRRAEDD 25 O FEDALAU – YR UN FAINT AG Auckland 1990

Curtis Dodge yn ennill y fedal efydd yn y reslo

Ail fedal i Olivia Breen yn y sbrint 100m T38

Kerfoot-Robson yn cystadlu am y tro cyntaf yn y beicio traws gwlad

Diwedd da i dimau pêl-rwyd a hoci merched Cymru

Heslop yn ffeinal y sbringfwrdd 3m  

Cyfanswm Cymru: 25 o fedalau (7 Aur, 8 Arian, 10 Efydd) gyda sicrwydd o leiaf bedair medal arall. Mae Cymru’n parhau yn yr wythfed safle yn y tabl medalau.


RESLO

Enillodd Curtis Dodge, sy’n 26 oed ac a gystadlodd dros Gymru yn y jiwdo yng Nglasgow, fedal efydd yn y gystadleuaeth reslo 74kg ar ôl curo Ebimienfaghe Assizecourt o Nigeria.

Roedd yn rhaid iddo frwydro ei ffordd trwy’r rowndiau terfynol a gynhaliwyd fore heddiw. Trechodd Fernando Suresh o Sri Lanka yn ei gêm gyntaf, ond cafodd grasfa gan Johannes Botha o Dde Affrica a olygai fod yn rhaid i Dodge ennill ei gêm olaf er mwyn sicrhau medal.

Doedd y pwysau ychwanegol yn ddim problem i Dodge a llwyddodd i guro Abdulai Salam o Sierra Leone i hawlio’r efydd.

ATHLETAU

Enillodd Olivia Breen ei hail fedal wrth iddi gipio’r fedal efydd yn ras derfynol y 100m T38 i ferched.

Rhedodd Breen mewn 13.35 i orffen y tu ôl i Sophie Hahn o Loegr a Rhiannon Clarke o Awstralia, gan ychwanegu medal efydd at yr un aur a enillodd yn rownd derfynol y naid hir T38 ddydd Sul.

Yn sesiwn y bore, gorffennodd Caryl Granville yn y chweched safle yn rhagbrawf cyntaf y ras 100m dros y clwydi, a hynny mewn 13.98.

Gwnaeth James Ledger ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad, gan orffen yn drydydd yn rhagbrawf cyntaf ras 100m T12 y dynion. Roedd amser James,  sef 11.77, ei orau o’r tymor ond nid oedd yn ddigon i sicrhau lle iddo yn y rownd derfynol.

BEICIO

Gwireddwyd breuddwyd y beiciwr mynydd Dylan Kerfoot-Robson o gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn ras feicio traws gwlad y dynion yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nerang.

Kerfoot-Robson yw’r beiciwr mynydd cyntaf i gystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ers 2006. Gorffennodd yn 12fed allan o 20 o gystadleuwyr, gydag amser o 1:26:37 a chyflymder cyfartalog o 22.305km/h.

Samuel Gaze o Seland Newydd hawliodd y fedal aur, gydag Anton Cooper, hefyd o Seland Newydd, ac Alan Hatherly o Dde Affrica hefyd yn sicrhau lle ar y podiwm.

PÊL RWYD

Gorffennodd Cymru yn yr 11eg safle yn y gystadleuaeth pêl rwyd Arfordir Aur ar ôl buddugoliaeth o 81 -32 yn erbyn Ffiji.

Cymerodd Cymru reolaeth o’r cychwyn cyntaf, gyda Sarah Llewelyn yn parhau i berfformio’n ardderchog. Rhoddodd Cymru bwysau ar chwaraewyr canol cwrt Ffiji, gan roi digon o gyfle i Chelsea Lewis agor y bwlch i 21-5 ar ôl y chwarter cyntaf.

Parhaodd Cymru i ddominyddu pan ddaeth Leila Thomas a Cara Lea Mosely ar y cwrt yn yr ail ran, i gymryd lle Kelly Morgan a Llewelyn. Ar hanner amser, roedd Cymru’n ennill o 43-17.

Daeth cyfnod gorau Ffiji ar ddechrau’r trydydd chwarter, ond ni allent gynnal y momentwm wrth i Georgia Rowe eu rhoi dan bwysau.

Llwyddodd Nia Jones i gynnal y tempo ar ganol y cwrt a dechreuodd perfformiad Ffiji  ddirywio. Yn fuan, llwyddodd Cymru i basio 63 gôl, eu sgôr uchaf erioed mewn gêm yng Ngemau’r Gymanwlad (v Sri Lanka ym 1998). 

HOCI

Mae tîm merched Cymru wedi dod yn nawfed yn nhwrnamaint hoci Gemau’r Gymanwlad ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Ghana.

Roedd y sgôr ar ddiwedd y gêm yn 1-1, ac felly cafwyd brwydr saethu i benderfynu pa genedl a fyddai’n gorffen yn y nawfed safle

Enillodd Cymru ar ôl i Sian Fench a Sarah Jones sgorio, a hynny heb i Ghana sgorio’r un gôl.

Yn gynharach, roedd Ghana ar y blaen yn y trydydd chwarter, gyda gôl gan Boakye.

Ond sgoriodd Tina Evans ar ôl ergyd gosb o’r gornel wyth munud cyn y diwedd.

Daeth Jones, Clayton a Phoebe Richards yn agos at sgorio i gipio’r fuddugoliaeth i Gymru.

Mae’r 9fed safle yn cyfateb i’r hyn a gyflawnodd Cymru yn Glasgow ar ôl ymgyrch lle dangosodd y tîm arwyddion eu bod wedi gwella’n sylweddol yn y pedair blynedd diwethaf.

Enillodd y tîm yn erbyn India yn eu gêm agoriadol a rhoddwyd her sylweddol i Loegr sy’n yn y byd.

Dywedodd Sarah Jones: “Mae’n un o ryfeddodau’r byd chwaraeon y gallwch guro yn erbyn rhai o’r timau gorau ac yna ei chael hi’n anodd ennill yn erbyn y timau gwanach.”

GYMNASTEG

Daeth Laura Halford yn agos at ennill medal yn y gymnasteg rhythmig yng Ngemau’r Gymanwlad, gan orffen yn bumed, tra daeth Gemma Frizelle yn 12fed parchus iawn yn y gystadleuaeth.

Roedd Halford, a enillodd fedal efydd yng Ngemau Glasgow 2014, ar y trywydd iawn i ddod yn drydydd unwaith eto ar ôl tair o’r bedair camp gyda chyfarpar.

Ond llwyddodd rwtîn rhuban Amy Kwan Dict Weng o Falaysia i gipio’r efydd, wrth i Diamanto Evripidou o Gyprus ennill aur, a Katherine Uchida o Ganada ennill y fedal arian.

Roedd Halford yn llai nag un pwynt o ennill y fedal efydd, gyda chyfanswm sgôr o 50.650.

Byy Halford a Frizelle yn cystadlu eto yfory. Bydd Frizelle yn cystadlu yn y rownd derfynol gyda’r cyclch, a Halford a fydd yn cystadlu yn y rowndiau terfynol gyda’r bêl a’r rhubanau.

DEIFIO

Gwnaeth Aidan Heslop, sy’n 15 oed, argraff yn ystod ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad, gan gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y sbringfwrdd 3m i ddynion.

Gorffennodd yn 12fed gyda chyfanswm o 285.15 o bwyntiau.

Bydd yn cystadlu yn ei gystadleuaeth gryfaf, y platfform 10m i ddynion, ddydd Sadwrn.

BOWLIO LAWNT

Cyrhaeddodd pedwarawd y dynion – sef Ross Owen, Stephen Harris, Marc Wyatt a Jonathan Tomlinson – y rownd gynderfynol, ar ôl buddugoliaeth o 17 – 15 yn erbyn India yn y rownd gogynderfynol, cyn colli o 15 – 5 yn erbyn Awstralia a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Mi fyddan nhw’n awr yn chwarae yn erbyn Lloegr am y fedal efydd am 0330 BST yfory.

SBONCEN

Collodd Tesni Evans a Peter Creed yn rowndiau derfynol y dyblau cymysg yn erbyn Dipika Allikal Karthik a Saurav Ghosal (8-11, 10-11).

Mae Peter Creed a Joel Makin hefyd allan o gystadleuaeth dyblau’r dynion ar ôl colli yn erbyn Zac Alexander a David Palmer o Awstralia mewn dwy set (1-11, 6-11).

Yfory, bydd Tesni Evans a Deon Saffery yn wynebu Rachael Grinham a Donna Urquhart yn rownd gogynderfynol dyblau’r merched.

TENIS BWRDD

Sicrhaodd chwaraewr tenis bwrdd Cymru, Joshua Stacey, le yn y rownd gynderfynol gyda buddugoliaeth o 3 – 0 yn erbyn Mohammad Azwar Bakar o Falaysia yng Ngrŵp 1 y senglau TT6-10.

Ar ôl gêm gyntaf agos (12 – 10), perfformiodd Stacey yn gryf yn y ddwy gêm olaf (11 – 7, 11 – 6). Bydd Stacey yn wynebu Ross Wilson o Loegr yn y rownd gynderfynol.

Collodd Chloe Thomas a Charlotte Carey yn erbyn Sutirtha Mukherjee a Pooja Sahasrabudhe o India o 3 – 1 yn nyblau’r merched. 


Am amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Gwener 13eg Ebrill, ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm