Cynorthwy-ydd Marchnata newydd CGW

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn falch o groesawu Sumaya Khan fel intern newydd Prifysgol De Cymru.

Mae Sumaya yn ymuno â’r tîm ar interniaeth am 12 mis, wrth iddi gwblhau blwyddyn olaf ei BA (Anrh) mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

Ei rôl fydd cynorthwyo’r tîm marchnata i greu cynnwys a manteisio ar gyfleoedd marchnata. Bydd hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid Tîm Cymru.

Dywedodd Sumaya, “Rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau dros y 12 mis nesaf a manteisio ar y cyfleoedd gwych sy’n rhan o’r interniaeth, gan gynnwys trip i Fotswana.”

Mae Sumaya newydd ddychwelyd o Fotswana fel rhan o raglen interniaeth CGF eqUIP. Mae hi wedi bod yn gweithio gydag interniaid eraill o bob rhan o’r Gymanwlad drwy gynnal gweithdai, ymarferion adeiladu tîm ac wrth ddatblygu’i chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn.

Dywedodd goruchwyliwr Sumaya, Cathy Williams (Pennaeth Ymgysylltu CGW):

“Rydym yn falch iawn o groesawu Sumaya ac rydw i’n siwr y bydd hi’n ffynnu yn ystod yr interniaeth. Mae’r wythnos hon ym Motswana wedi bod yn gyfle gwych iddi ddatblygu sawl sgil, o gyfathrebu i gynllunio a datrys problemau, yn ogystal â chael cyfarfod ag interniaid eraill o bob rhan o’r Gymanwlad.”“.