Cyhoeddiad Nofio Tîm Cymru

Tîm Cymru yn Cyhoeddi’r Tîm Nofio ar gyfer Trinbago 2023

Heddiw, mae Tîm Cymru yn cyhoeddi’r athletwyr a ddewiswyd fel rhan o’r tîm Nofio ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, a gynhelir yng nghenedl dwy ynys Trinidad a Tobago o 4 -11 Awst yr haf hwn.

Bydd gan nofio 10 o nofwyr ymhlith y tîm o 40 o athletwyr ac 20 o staff cymorth a fydd yn cystadlu ar draws pedair camp; Athletau, Nofio, Rygbi Saith bob ochr Merched a Seiclo.

Dywedodd Arweinydd Tîm Nofio Cymru Trinbago, Graeme Antwhistle ‘Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yw’r llwyfan perffaith i’r athletwyr ifanc addawol hyn ddatblygu nid yn unig fel nofwyr, ond fel pobl, trwy eu profiad cyntaf o gystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol. Mae eu bod wedi cael eu dewis yn dyst i’w gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod cyfnod prysur o\u bywydau, a dylen nhw fod mor falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Gallan nhw nawr gofleidio’r her o brofi eu hunain yn erbyn rhai o’r nofwyr ifanc gorau un o bob cwr o’r byd, tra’n cynrychioli Tîm Cymru.’

Bydd mwy na 1,000 o athletwyr a phara-athletwyr rhwng 14 -18 oed ar draws y 72 o genhedloedd a thiriogaethau o amgylch y Gymanwlad yn cystadlu ar draws 7 camp yn y Gemau yr haf hwn;

Campau Dŵr (Nofio), Athletau ac Para-athletau, Seiclo (Rasys Ffordd, Treialon Amser a Thrac) a Triathlon, yn ogystal â Pêl-rwyd FAST5, Rygbi Saith-bob-ochr a Phêl-foli Traeth.

Dywedodd Ross Nicholas, Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru: ‘Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn gyfle prin i nofwyr gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd a hoffwn longyfarch pob athletwr sy’n mynd i Trinidad a Tobago. Er y bydd pob athletwr yn benderfynol o berfformio’u gorau, dylen nhw hefyd fwynhau’r profiad a gwneud y gorau o bob munud gan eu bod wedi gweithio’n anhygoel o galed i gyrraedd y Gemau hyn. Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn gam allweddol ar lwybr datblygu cyffrous ar gyfer yr athletwyr hyn, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw.’

 

Ers ei lansio yn 2000, mae’r Gemau Ieuenctid wedi parhau i dyfu i ddarparu cyfle unigryw i brofi chwaraeon elît ar y llwyfan rhyngwladol, hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu cyfeillgarwch gydol oes ar draws y Gymanwlad.

Yn y Gemau Ieuenctid diwethaf yn y Bahamas 2017, daeth Tîm Cymru â 13 medal adref ar draws chwe camp, gyda nofio yn sicrhau 4. Enillodd Lewis Fraser fedal Aur gyntaf Tîm Cymru yn y Gemau yn y 100m strôc pili-pala a’r efydd yn y strôc pili-pala 50m. Enillodd Medi Harris arian yn y 50m strôc cefn ac yna ei hail fedal gydag efydd yn y 200m strôc cefn, gan dorri record iau Cymru, a oedd gan y nofiwr Olympaidd a’r Gymanwlad Georgia Davies.

Ychwanegodd Llywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE ”Mae ein nofwyr yn y gemau diweddar bob amser wedi rhagori, wedi dangos undod fel tîm ac wedi cofleidio gemau aml-chwaraeon yn broffesiynol iawn. Er ei fod yn ddigwyddiad ieuenctid, mae gan y tim brofiad anhygoel gyda phobl fel Lewis Fraser, Media Harris a Becky Sutton a oedd yn rhagorol yn y gemau ieuenctid diwethaf yn 2017, maen nhw’n enghraifft o bwysigrwydd y gemau hyn fel llwyfan i gystadlu ym mhrif Gemau’r Gymanwlad a digwyddiadau hŷn eraill. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r 10 nofiwr, a’u bod yn mwynhau eu profiad yn y Gymanwlad.’

Cyflwyno Nofio Tîm Cymru

Holly Marshall: Amryw

Mabli Collyer: Amryw

Sophie Brassington: Amryw

Sophie Davies: Amryw

Theodora Taylor: Amryw

Joshua O’Brien: Amryw

Maxwell Anderson: Amryw

Rhydian Arch: Amryw

Solomon Williams: Amryw

Tyler Melbourne-Smith: Amryw