Commonwealth Day 2020

Ddoe, bu miliynau o bobl yn dathlu Diwrnod y Gymanwlad – digwyddiad blynyddol i nodi cyflawniadau, datblygiadau, democratiaeth gyffredin a nodau ar gyfer y dyfodol rhwng teulu'r Gymanwlad; sy'n cynnwys 54 o wledydd.

Wrth i Brydain gynnal ei dathliad blynyddol yn Abaty Westminster, roedd dathliad llai ond yr un mor nerthol hefyd yn digwydd ar arfordir hardd Cymru, gyda llawer o ganu, chwifio baneri lliwgar, barddoniaeth a straeon ysbrydoledig i nodi diwrnod pwysig rhwng cenhedloedd y Gymanwlad.

Trefnwyd seremoni Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, gan Gemau'r Gymanwlad Cymru, ac roedd yn cynnwys areithiau gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Prif Weithredwr Gemau'r Gymanwlad, Chris Jenkins ac enillydd dwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd, Jazz Carlin.

Mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog wedi bod yn lleoliad eiconig yng Nghymru ers y tridegau, gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon a blociau llety ar gael. Mae wedi dod yn enwog fel cyrchfan teithiau ysgol byr yng Nghymru, lle gall disgyblion gymryd rhan mewn amserlen ddyddiol llawn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwaraeon – fel Gwibgartio, Marchogaeth a Nofio.

Roedd y dathliad yn cynnwys perfformiadau byw gan y gantores a'r seren o'r West End, Sophie Evans; ymunodd Côr Ysgol Bro Teifi â hi ar y llwyfan ar gyfer perfformiad arbennig o 'Calon Lân'. Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gynradd Bro Teifi, Ysgol Gynradd Aberaeron, Ysgol Gynradd T Llew Jones ac Ysgol Gynradd Aberteifi hefyd i ddathlu'r diwrnod, ac aeth pawb ati i gymryd rhan yn y gweithgareddau amrywiol a oedd yn cael eu cynnig ar y diwrnod.

Ymunodd rhai o athletwyr Tîm Cymru yn y dathlu draw yn Llangrannog hefyd; gan gynnwys y sêr Rygbi Saith bob Ochr, Jaz Joyce a Hannah Jones; y Bencampwraig Bowlio Lawnt, Anwen Button; y Para-athletwyr, Rhys Jones a Nathan Stephens; y Gerddwraig Rasio, Bethan Davies; a'r enillydd medal aur am Saethu, David Phelps.

Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu gan yr athletwyr mewn sesiwn holi ac ateb ddifyr, a chymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon unigryw dan arweiniad athletwyr Tîm Cymru, hyfforddwyr yr Urdd a hyfforddwyr rhyngwladol. Roedd y sesiynau'n cynnwys Cerdded Rasio, Pêl-fasged mewn Cadeiriau Olwyn, Pêl-rwyd, Rygbi Cyffwrdd, Hoci a Badminton.

Cafodd enillydd cystadleuaeth Bardd Tîm Cymru, sef Deryn o Ysgol Uwchradd Pen y Dre, ei gwahodd i fod yn rhan o'r seremoni, ac adroddwyd ei cherdd fuddugol ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad i'r gynulleidfa gan neb llai na'r actor o Gymru, Michael Sheen.

Meddai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae bod yn aelod-wladwriaeth o'r Gymanwlad yn bwysig iawn i ni yng Nghymru – ac mae heddiw'n gyfle i ddathlu hyn gyda'n teulu amrywiol o 54 o genhedloedd y Gymanwlad. Ro'n i wrth fy modd yn ymuno â'r athletwyr, y bobl ifanc, yr ysgolion a'r perfformwyr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog heddiw ar gyfer gwasanaeth ysbrydoledig. Rydyn ni am weld rhagor o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, ac am weld Cymru iach a bywiog – ac mae athletwyr Tîm Cymru yn fodelau rôl rhagorol o ran dangos beth allwn ni ei gyflawni drwy chwaraeon."

Meddai Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru,

"Dyma'r ail ddigwyddiad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad a gafodd ei gynnal gan Gemau'r Gymanwlad Cymru, ac roedd hi'n wych gweld digwyddiad ffantastig arall. Mae'n bwysig i ni ein bod ni nid yn unig yn dathlu'r Gymanwlad, ond yn parhau i hyrwyddo chwaraeon, sut i gynnal ffordd egnïol o fyw ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Mae ganddon ni dîm o athletwyr o Gymru sy'n gwneud gwaith anhygoel o arddangos y negeseuon allweddol yma, ac mae'n wych eu bod nhw yma ac yn gweithio gyda'r disgyblion. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau blynyddol yma yng Nghymru i ddathlu ein lle yn y Gymanwlad."

Nod Diwrnod y Gymanwlad yw tynnu sylw at sut mae pob gwlad yn dod at ei gilydd i arloesi, i gysylltu ac i drawsnewid y nodau yma, a'r thema eleni yw "Cyflawni Dyfodol Cyffredin".

Uchafbwyntiau o Ddiwrnod y Gymanwlad 2020 Tîm Cymru.