Birmingham 2022 unveils venue for 3×3 basketball and beach volleyball to mark ‘two years to go’!

Yn y cyhoeddiad heddiw, union ddwy flynedd cyn Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022, mae'r trefnwyr yn dathlu'r garreg filltir bwysig hon drwy ddatgelu lleoliad Smithfield, a fydd yn cynnal dwy arena bwrpasol ochr yn ochr â'i gilydd i lwyfannu cystadlaethau pêl-fasged 3×3, pêl-fasged cadair olwyn 3×3 a chystadlaethau pêl-foli'r traeth.

Daw'r newyddion wrth i ni ddathlu bod dim ond 730 diwrnod i fynd tan seremoni agoriadol y digwyddiad chwaraeon mwyaf i'w gynnal yn y DU ers Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Mae Smithfield, sef hen safle marchnadoedd cyfanwerthu Birmingham, wedi'i leoli yng nghanol y ddinas a bydd yn creu canolfan drefol nid nepell o ganolfan siopa enwog y Bullring yn Birmingham.

Mae cyrtiau dros dro ar gyfer y ddwy gamp wedi'u codi ar y safle fel rhan o ddathliadau'r ddwy flynedd i fynd, gan roi'r cyfle cyntaf i ddarpar sêr y ddwy gamp ac i roi blas ar yr hyn y gall cefnogwyr ei ddisgwyl yn 2022.

Yn ôl Ian Reid, Prif Swyddog Gweithredol Birmingham 2022: "Mae heddiw'n nodi dwy flynedd union cyn y seremoni agoriadol swyddogol ar gyfer Birmingham 2022 ac mae ein cynlluniau'n mynd rhagddynt i gynnal digwyddiad penigamp a fydd nid yn unig yn rhoi llwyfan i Birmingham a Chanolbarth Lloegr ond a fydd hefyd yn rhan annatod o gynllun adfer y rhanbarth yn dilyn y pandemig byd-eang, gan ddod â swyddi i bobl leol a chontractau i fusnesau lleol.

"Mae Smithfield yn lleoliad gwych ar gyfer y ddwy gamp yma, a bydd yn ein galluogi ni i ddenu miloedd o bobl leol a chefnogwyr o bell ac agos a'n helpu ni i greu canolbwynt allweddol i'r Gemau yng nghanol y ddinas. Mae'n gynfas gwag ar hyn o bryd sy'n ein galluogi i drawsnewid y lleoliad hwn yn lleoliad bywiog ar gyfer dwy gamp gyffrous a fydd yn sicr o ddod ag awyrgylch yr ŵyl i Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham 2022."

Yn ôl Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru;

"Mae amser yn hedfan ac rydyn ni eisoes yn dod at ein gilydd i ddathlu bod dim ond dwy flynedd i fynd tan Gemau nesaf y Gymanwlad yn Birmingham. Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn falch iawn o glywed y newyddion am Smithfield a bydd hyn yn cynyddu'r cyffro hyd yn oed yn fwy ymysg yr athletwyr ar draws y Gymanwlad.

"Mae chwaraeon, a Gemau'r Gymanwlad yn gynhwysol, ac rydyn ni'n falch y bydd Birmingham 2022 yn darparu llwyfan i hynny drwy'r gwahanol gampau a'r digwyddiadau, ac am y tro cyntaf, drwy gyflwyno pêl fasged 3×3 a phêl-fasged cadair olwyn i'r Gemau. Gan mai ein cymydog agosaf yw'r wlad sy'n cynnal y Gemau, rwy'n hyderus y bydd gennym fyddin gref o gefnogwyr o bob rhan o Gymru. Mae'n gyfle perffaith i weld drostom ein hunain faint o athletwyr talentog sydd gennym yng Nghymru."

Mae'r fersiwn pêl-fasged 3×3 yn ymddangos am y tro cyntaf fel camp yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham. Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i bêl-fasged cadair olwyn mewn unrhyw fformat ymddangos yng Ngemau'r Gymanwlad, camp y disgwylir iddi fod yn un o uchafbwyntiau'r rhaglen chwaraeon para integredig – y mwyaf erioed yn ei hanes ar gyfer y digwyddiad aml-gamp, gydag wyth camp i'w gweld yn Birmingham 2022.

Bydd pêl-foli'r traeth yn cael ei hail ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad ar ôl i'r gamp gael ei hychwanegu at raglen Birmingham 2022 yr haf diwethaf. Bydd safle Smithfield, sydd yng nghanol dinas Birmingham yng nghanol Lloegr, yn gyferbyniad diddorol i ymddangosiad cyntaf y gamp yng Ngemau'r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia. Fodd bynnag datgelodd y trefnwyr mai ei phoblogrwydd gyda chynulleidfa iau oedd un o'r prif resymau dros ddewis ychwanegu'r gamp, gan nodi bod hyn yn gweddu'n dda i ddinas sydd ymhlith yr ieuengaf yn Ewrop, gyda 60% o'i thrigolion yn 30 oed neu'n iau.

Dywedodd y Fonesig Louise Martin DBE, Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad: "Mae heddiw'n nodi dwy flynedd i fynd tan Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022. Mae'n teimlo fel ddoe pan ddyfarnodd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yr hawl i'r ddinas lwyfannu Gemau rhif XXII, pan, mewn gwirionedd, roedd y cyhoeddiad hwnnw yn ôl ym mis Rhagfyr 2017!

"Mae Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn gwneud cynnydd ardderchog tuag at gynnal cystadleuaeth wych i athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr fel ei gilydd, ar draws y Gymanwlad.

"Mae Birmingham yn un o ddinasoedd mwyaf amrywiol yn ddiwylliannol yn y DU, yn gartref i 187 o genhedloedd sy'n golygu bod Gemau'r Gymanwlad 2022 yn teimlo fel Gemau cartref ar gyfer pob un o'n 71 o genhedloedd a thiriogaethau. Mae'n ddinas Gymanwlad ynddi'i hun. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r byd i Orllewin Canolbarth Lloegr mewn cwta dwy flynedd."

 Mae rhagor o wybodaeth am yr holl leoliadau ar gyfer Gemau Gymanwlad Birmingham 2022, sydd wedi'u lleoli yn y ddinas ac ar draws rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, ar gael yn www.birmingham2022.com