Commonwealth 2021 Youth Games *RESCHEDULED*
Mae Bwrdd Gweithredol Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad wedi penderfynu ystyried dewisiadau o ran aildrefnu Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2021.
Roedd seithfed Gemau Ieuenctid y Gymanwlad i fod i ddigwydd rhwng 1 a 7 Awst 2021 ar ôl i’r Ffederasiwn ddyfarnu’r gystadleuaeth i Trinidad a Thobago ym mis Mehefin y llynedd.
Mae effaith y pandemig ar y calendr chwaraeon rhyngwladol byd-eang yn golygu bod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo wedi cael eu haildrefnu i haf 2021, yn ystod dyddiadau gwreiddiol y Gemau Ieuenctid.
Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol, mae’r Ffederasiwn wedi cytuno i ystyried yr amserlen a’r dewisiadau amgen gorau ar gyfer llwyfannu’r digwyddiad yn y dyfodol, o bosib yn 2023.
Bydd y Ffederasiwn yn rhoi ystyriaeth i Gymdeithas Gemau’r Gymanwlad Trinidad a Thobago fel y dewis cyntaf i’w cynnal.
Mae’r Anrhydeddus Shamfa Cudjoe, y Gweinidog Chwaraeon a Materion Ieuenctid yn Llywodraeth Trinidad a Thobago, wedi ymrwymo i ofyn i’r Cabinet ailystyried ei sefyllfa a darparu’r cadarnhad angenrheidiol ar gyfer cynnal Gemau Ieuenctid y Gymanwlad a’r gwariant cysylltiedig.
Meddai Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, y Fonesig Louise Martin: “Mae aildrefnu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo hefyd wedi newid y galwadau o ran trefnu ac adnoddau ar gyfer llawer o Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad a’n Ffederasiynau Rhyngwladol yn 2020 a 2021.
“Mae COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ledled y byd, a blaenoriaeth gyntaf pawb yw iechyd a llesiant eu cymunedau.”
“Mae ein penderfyniad ni wedi’i wneud er lles athletwyr, cefnogwyr a dinasyddion fydd yn cael budd o’r Gemau yma sy’n gweddnewid bywydau.
“Yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni’n ymrwymedig i edrych ar ddewisiadau a dyddiadau ar gyfer cynnal y Gemau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, fel bod y rhanbarth yn gallu parhau i chwarae rôl arweiniol fel rhan o Fudiad Chwaraeon y Gymanwlad.”
Nododd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE:
“Mae’r digwyddiadau diweddar wedi cael effaith enfawr ar lawer o ddigwyddiadau byd-eang, gyda Chwaraeon yn cael eu taro’n arbennig o galed. Er bod y newyddion yma’n siom, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn deall yn llwyr ac yn cefnogi penderfyniadau Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad i ohirio Gemau Ieuenctid 2021.
Mae ein tîm ni’n dal i gefnogi ein hathletwyr yn ystod y cyfnod yma, ac rydyn ni’n dal i fod yn bositif wrth i ni edrych ymlaen at ddyddiad newydd. Mae hyn hefyd yn caniatáu i ni ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar baratoi ar gyfer Birmingham 2022.”