#BarddTîmCymru

Canllawiau'r Gystadleuaeth

  • Mae'r gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion Cynradd ac Uwchradd
  • Rhaid i geisiadau ddod o blith disgyblion sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru
  • Caniateir ceisiadau unigol, fel grŵp neu fel dosbarth
  • Gall y cais fod yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog
  • Rhaid i'r gerdd fod yn un wreiddiol a heb ei chyhoeddi
  • Dim ond un cais a ganiateir i bob person, grŵp neu ddosbarth
  • Rhaid mai thema'r gerdd yw 'Tîm Cymru' (Gemau'r Gymanwlad)
  • Anfonwch eich cais drwy e-bost neu'r post (manylion isod)
  • Dyddiad cau dydd Gwener 21 Chwefror 2020 5pm

Gwobr

  • £500 o offer chwaraeon i'r ysgol ar gyfer y cais buddugol
    • Bydd ysgol yr enillydd yn derbyn yr offer chwaraeon
    • Bydd yr offer sydd ei angen yn cael ei ddewis gan yr ysgol
  • Sesiwn hyfforddi i'r ysgol gan un o athletwyr y Gymanwlad
  • Tlws ar gyfer y cais buddugol
  • Bydd y gerdd yn cael ei datgelu yn nathliad Diwrnod y Gymanwlad Cymru ar 9 Mawrth 2020

Telerau ac Amodau

  • Drwy gyflwyno'r gerdd rydych yn cadarnhau caniatâd gan eich rhieni/gwarcheidwaid i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • Byddwch yn caniatáu i Gemau'r Gymanwlad Cymru gyhoeddi eich cerdd ar y cyfryngau cymdeithasol a'i defnyddio yn nigwyddiadau Tîm Cymru

Y cerddi buddugol:

  • Gellir sôn am yr awdur(on) buddugol wrth ei enw (eu henwau), yn amodol ar ganiatâd rhiant/gwarcheidwad
  • I'r athrawon, rhowch wybod i ni os nad ydych am i enw'r ysgol gael ei grybwyll yn yr ymgyrch

I gymryd rhan:

  • Cais dros e-bost i cathy.williams@teamwales.cymru

NEU

  • Cais drwy'r post at Cathy Williams, Gemau'r Gymanwlad Cymru, 7 Forest Grove, Campws Trefforest , Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1UB
  • Rhaid i chi gynnwys:

Enw

Oedran

E-bost (rhiant/gwarcheidwad os o dan 16)

Ysgol

Twitter yr ysgol