Borobi the blue koala visits Rhondda, Cardiff and Barry Island ahead of 2018 Gold Coast Games
Cafodd plant a thrigolion yn y Rhondda, Caerdydd a’r Barri gyfle prin i gwrdd â choala glas heddiw (dydd Gwener, 10 Mawrth), pan ddaeth Borobi – mascot Gemau’r Gymanwlad 2018 – i Gymru.
Gyda dim ond ychydig dros 12 mis i fynd tan Gemau’r Gymanwlad yn yr Arfordir Aur, Awstralia, cafodd y mascot cyfeillgar groeso Cymreig gwresog. Cafodd hefyd brofiad o’r cyffro sydd eisoes wedi cychwyn yng Nghymru wrth edrych ylmaen at Gemau 2018.
Yn cadw cwmni i Borobi roedd cynrychiolwyr o Dîm Cymru. Cychwynnodd yr ymweliad gyda chanu a dawnsio yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Porth lle cafodd Borobi ei gyfarch gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Kirsty Williams AC a Chadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips.
Yn dilyn hynny, cafodd ei dywys o amgylch y brifddinas, gan stopio yn Stadiwm y Principality i gael cipolwg y tu ôl i’r llen cyn y gêm rhwng Cymru ac Iwerddon yn nes ymlaen.
I gloi’r ymweliad, cafwyd mwy o ganu a dawnsio ar Bromenâd Ynys y Barri yng nghwmni plant o Ysgol Bro Morgannwg ac Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Daeth seren rygbi saith bob ochr Cymru, Sian Williams, sy’n gobeithio cael cystadlu yn yr Arfordir Aur i ymuno yn yr hwyl a chwarae tipyn o rygbi ar y traeth.
Meddai Helen Phillips o Gemau’r Gymanwlad Cymru, sy’n gyfrifol am ddethol Tîm Cymru a pharatoi ar gyfer y cystadlu yn Awstralia: “Roedd hi’n bleser cael cwmni Borobi heddiw. Anaml y byddwch chi’n gweld coala glas – neu unrhyw fath o goala o ran hynny – yng Nghymru!
“Mae ymweliad Borobi’n enghraifft o sut y gall chwaraeon ysbrydoli a dod â phobl at ei gilydd i fwynhau a dathlu.
“Gobeithio fod Borobi wedi mwynhau canu’r plant gymaint ac y gwnaeth pawb fwynhau dysgu ei ddawns arbennig!”
Ychwanegodd Helen: “Dim ond ychydig dros flwyddyn sydd i fynd tan y bydd Tîm Cymru yn cystadlu yn Gemau’r Gymanwlad 2018, felly mae’n hynod bwysig fod cefnogwyr ledled Cymru a thu hwnt y tu ôl i’n hathletwyr.
“Roedd cael Borobi gyda ni am y diwrnod yn hwb mawr i’r ymgyrch hwnnw.”
Meddai’r Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams AC: “Rwy’n hynod falch o fod yma heddiw i ddathlu chwaraeon. Rwy’n siwr fod pawb yn gytun fod gwylio arwyr chwaraeon Cymru yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn ysbrydoliaeth i blant ar hyd a lled Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at wylio Gemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf ac at weld athletwyr Cymru’n cystadlu, ac efallai’n gwneud hyd yn oed yn well na’r 36 o fedalau a enillwyd i Gymru yng Nglasgow yn 2014.”