Borobi visits Wales

Mae Borobi, mascot Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018, yn ymweld â Chymru yfory fel rhan o’i daith o amgylch y DU cyn lansio Baton y Frenhines yr wythnos nesaf (13 Mawrth).

Bydd yn ymweld â’r brifddinas ac ardaloedd cyfagos, gan ddod â’i ddawns unigryw a’i gymeriad hoffus i ysrbydoli cefnogwyr Tîm Cymru wrth i ni edrych ymlaen at Gemau 2018.

Amserlen:

10-11am – Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Porth

Bydd Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips ac Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC yn ymuno yn yr hwyl, lle bydd Borobi yn dysgu ei ddawns i’r plant ac yn cael perfformiad gan gôr yr ysgol. 

12-12.30pm – Stadiwm y Principality 

Bydd Borobi yn cael ei dywys y tu ôl i’r llenni yn y Stadiwm wrth i’r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn nes ymlaen.

2-3pm – Promenâd y Bari 

Bydd ysgolion cynradd lleol yn cwrdd â Borobi ar y prom lle bydd yn dysgu ei ddawns nodweddiadol iddyn nhw. Bydd seren rygbi saith bob ochr Cymru Sian Williams, sy’n gobeithio cael cystadlu yn yr Arfordir Aur, yn dod i roi tipyn o dips rygbi i Borobi. Bydd yr ymweliad â Chymru yn dod i ben gyda pherfformiad o ganeuon Cymraeg traddodiadol gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Bro Morgannwg.