Clwb Busnes Tîm Cymru yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol
Bu Clwb Busnes Tîm Cymru, mewn partneriaeth â Met Caerdydd a sylfaenydd Speakeasy Club, Simon Clark, yn canolbwyntio ar iechyd meddwl yn ystod panel llawn gwybodaeth, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ymuno â Simon ar y panel roedd Ashton Hewitt, chwaraewr rygbi gyda’r Dreigiau ac aelod o fwrdd Tîm Cymru; Dai Flanagan, Rheolwr y Dreigiau; a Gwen Crabb, chwaraewr rhyngwladol Undeb Rygbi Cymru, a gwnaethant i gyd rannu eu straeon iechyd meddwl a’u ffyrdd o ymdopi.
Yn ddiweddarach, cafodd y gwesteion wledd o fyrgyrs cartref a diodydd 0% alcohol wrth rwydweithio yn Undeb y Myfyrwyr.
Dywedodd Rebecca Edwards- Symmons, y Prif Weithredwr, ‘Roedd heddiw’n dangos grym bregusrwydd a pha mor bwysig yw hi i ni i gyd drafod hyn. Mae iechyd meddwl yn hanfodol er mwyn i ni i gyd lwyddo mewn bywyd, boed ar y maes chwarae, yn y swyddfa neu gartref. Rwy’n siŵr bod trafodaeth heddiw wedi cael effaith gadarnhaol ar y gynulleidfa a gobeithio wedi helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd mynd ati i gael cefnogaeth os, a phan fydd ei hangen.’