Cae Rasio Ffos Las yn croesawu Clwb Busnes Tîm Cymru
Teithiodd Tîm Cymru i’r gorllewin i gynnal eu digwyddiad Clwb Busnes diweddaraf ar gae rasio enwog Cymru, Ffos Las.
Cafwyd panel holi ac ateb llwyddiannus arall, gyda’r gwesteion Daniel Abbott o Watkin Davies, a Chris Williams o Mauve Group; mae’r ddau sefydliad yn bartneriaid i Dîm Cymru. Gwnaethon nhw rannu gweledigaeth ac amcanion eu cwmni, ynghyd â’u teithiau gyrfa personol.
Croesawodd Rheolwr Cyffredinol Ffos Las, Kevin Hire, y gwesteion a rhoddodd gyfle unigryw iddynt rwydweithio mewn amgylchedd hamddenol a difyr.
Cafodd gwesteion Tîm Cymru dips rasio gan arbenigwr y cwrs, a daeth Sean Bowen, joci o Sir Benfro, i mewn am sesiwn holi ac ateb cyn diwrnod llwyddiannus o rasio.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru, ‘Am ddiwrnod! Roedd y lleoliad yn wych, gofalodd Kevin, sy’n rheoli’r cae, amdanom yn arbennig, ac mae ein gwesteion wedi cael diwrnod cynhyrchiol yn rhwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a rhannu straeon ei gilydd, ac yn amlwg rydym wedi dod ag elfen hwyliog i mewn i ddigwyddiad heddiw, ychydig yn fwy anffurfiol na digwyddiadau eraill y Clwb Busnes, sydd wedi bod yn wych. Rydyn ni’n ceisio cynllunio a darparu digwyddiadau sy’n unigryw ac yn wahanol i’w gilydd.’