Guest Blog: “Next stop – Lesotho!”
Croeso mawr i Charley ac Olivia – ein hinterniaid ar gyfer 2019/2020!
Bu Charley ac Olivia'n ddigon lwcus i ymweld â Lesotho yr haf yma i gynrychioli Gemau'r Gymanwlad Cymru fel rhan o'u hinterniaeth gyda ni. Mae'r ddwy yn gyfarwydd â Thîm Cymru, ar ôl ymuno â ni ar leoliad 10 wythnos yn gynharach eleni. Cawson nhw gymaint o foddhad fe wnaethon nhw gais i fod yn interniaid am flwyddyn lawn!
Darllenwch fwy am daith y merched i brydferthwch Lesotho:
"Roedd ymweld ag Affrica yn freuddwyd i'r ddwy ohonom, a phwy fyddai'n dychmygu y bydden ni'n ddigon ffodus i ymweld – yn enwedig fel rhan o'n hinterniaeth gyda Gemau'r Gymanwlad Cymru!
Roedden ni ar ein ffordd i Lesotho am wythnos gyffrous; cwrdd â phobl newydd, dysgu am y Gymanwlad, a chyflwyno ein cynlluniau gwaith i'n gilydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd pacio ar gyfer ein taith yn dasg braidd yn anodd. Gan ein bod yn teithio ym mis Awst, y cyfan y gallem ei ddychmygu oedd hinsawdd boeth, heulwen llachar a thymheredd uchel. Ond, doedden ni ddim yn sylweddoli taw mis Awst oedd y gaeaf yn Affrica! Fe wnaethon ni gymryd rhai siwmperi wrth gefn, a pharatoi ar gyfer ambell i noswaith oer (ond fe wnaethon ni wneud yn siŵr ein bod yn pacio ein siorts, hefyd!).
Diwrnod 1
Gan ddechrau yng Nghaerdydd, roeddem yn barod ar gyfer y daith hir o'n blaenau.
Aethom i Heathrow, ymlaen i Johannesburg, ac yna i Lesotho.
Yn Heathrow, fe gawsom gyfarfod ag intern Tîm Lloegr, Tim. Roedden ni i gyd ar yr awyren, felly roedd hi'n braf treulio ychydig o amser ychwanegol gyda rhywun y bydden ni'n gweithio'n agos ag ef dros y flwyddyn i ddod.
11 awr yn ddiweddarach, fe gyrhaeddon ni Jo'burg, cyn yr hediad byr i Lesotho.
Wrth ddal yr awyren i Lesotho, roedden ni'n gwybod y bydden ni'n teithio ar awyren fach – ond, doedden ni ddim wedi rhagweld pa mor fach oedd hi! Roedden ni'n teimlo fel enwogion yn dringo i fwrdd jet preifat!
Ar ôl diwrnod a noson hir o deithio, roedden ni’n falch iawn o lanio ym maes awyr Lesotho – y maes awyr lleiaf a welsom erioed! Roedd y llain lanio'n wag ar wahân i'r awyren roeddem ynddi, a dim ond un ystafell oedd gan y maes awyr ei hun, lle'r oedd y swyddogion pasbortau, mewnfudo, casglu bagiau a thollau i gyd. Roedd yn wrthgyferbyniad ardderchog i'r ciwiau hir rydym fel arfer yn eu dioddef mewn unrhyw faes awyr yn y DU!
Cawsom ein croesawu gan Baleseng, yr intern o Lesotho, ac fe helpodd ni i'r bws mini a'n cyflwyno ni i Ginoca; yr intern o Mozambique.
Ar ôl gorffwys am ychydig, aethom am swper gyda'n tîm o interniaid. Cyflwynwyd Tim, Ginoca a'r ddwy ohonom ni i Sera, o Uganda a Denise o Zambia, a fyddai’n rhan o’n tîm interniaid am yr wythnos. Cawsom noson o fwyta, chwerthin a dod i adnabod ein gilydd cyn i'n diwrnod cyntaf ddechrau'n swyddogol.
Diwrnod 2
Roedd ein diwrnod cyntaf o weithdai cyflwyniadol yn anhygoel. Fe ddysgon ni gymaint am Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad a llunio ein cynllun gwaith strategol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Gan y byddem yn cydweithio â'n gilydd am weddill y flwyddyn, roedd yn wych ein bod yn gallu eistedd gyda'n gilydd wyneb yn wyneb, cynllunio ein strategaeth a sicrhau ein bod i gyd yn hyderus yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud cyn i ni droi am adre ddiwedd yr wythnos.
Y noson honno, cyfarfuom â'r un interniaid roedd Meg wedi cyfarfod â nhw ar ei hinterniaeth hi yn Botswana [dolen i flogiad Meg], a oedd bellach wedi gwneud chwe mis o'u hinterniaeth nhw. Cawsom fwynhau cinio gyda'n gilydd, tra'n dysgu mwy am eu lleoliad nhw a darganfod beth oedd o'n blaenau ni dros y 12 mis nesaf!
Diwrnod 3
Gwnaethom fwynhau diwrnod llawn arall o weithdai – yn dysgu am Gemau'r Gymanwlad, cynllunio ein strategaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, a pharhau i feithrin perthynas â'n gilydd.
Roeddem yn dychwelyd i'r DU yn fuan, felly fe wnaethon ni fwynhau cinio blasus arall gyda'n gilydd, cyn mynd yn ôl i'n gwesty i bacio ein dillad a pharatoi ein bagiau.
Fe benderfynom ni na allem adael Lesotho heb weld beth oedd gan y wlad i'w gynnig, felly fe wnaethon ni godi'n gynnar iawn i fynd ar wibdaith gyflym cyn mynd i'r maes awyr.
Cyfarfuom â Tsepe, ein tywysydd o 'Tsepe Tours', a ddangosodd rannau gorau Lesotho i ni – gan gynnwys taith gerdded ar y mynydd o amgylch pentref Moshoeshoe ac ymweliad â phentref diwylliannol Thaba Bosiu. Roedd yn wych dysgu cymaint am hanes a diwylliant Maseru; prifddinas Lesotho. A bod yn onest roedd hi'n brofiad a hanner cael gweld a phrofi’r rhan hon o'r byd.
Adeg fwyaf swreal y daith oedd mynd heibio i ysgol leol wrth yrru o amgylch Lesotho. Sylwon ni ar ysgrifennu ar ochr yr ysgol oedd yn dweud, "Lumela, Croeso, Welcome." Doedden ni ddim yn gallu credu ein llygaid ni wedi teithio'r holl ffordd yma a dod o hyd i'r Gymraeg! Aethon ni allan o'r car i dynnu llun o'r adeilad, a daeth y brifathrawes i'n cyfarch gyda'r croeso hyfrytaf. Gwahoddodd ni i mewn i ddangos llyfr oedd gan ei dosbarth a oedd yn ymwneud â Chymru a'n nawddsant; Dewi Sant. Roedd hyn yn brofiad gwirioneddol arbennig, ac un y byddwn yn ei gofio am byth.
Ar ôl bore mor anhygoel, roedd hi'n amser troi am adref – ond dyna ddiweddglo perffaith i'n taith.
Dywedom ffarwel i Lesotho a dringo i'r awyren, gydag ymdeimlad llwyr o ddiolchgarwch am y cyfleoedd a roddwyd inni dros y dyddiau diwethaf.
Byddwn yn dychwelyd i Affrica ym mis Chwefror fel rhan o'n gweithdy canol tymor – allwn ni ddim aros! Y tro nesaf byddwn yn mynd i Mozambique, a byddem yn hynod o falch o rannu hanes ein taith i ran brydferth arall o Affrica gyda chi.
Charley ac Olivia."
Os ydych chi'n chwilio am gyfle interniaeth ac eisiau ymuno â Thîm Cymru, cysylltwch â Cathy Williams ar cathy.williams@teamwales.cymru