Guest Blog: “My trip to Botswana.”

Bob blwyddyn, bydd Gemau'r Gymanwlad Cymru yn dod ynghyd â Phrifysgol De Cymru i gynnig cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar leoliad myfyriwr am flwyddyn. Mae pob intern yn chwarae rhan allweddol yn ein sefydliad.  Dysgu am chwaraeon a diwylliant Cymru; datblygu sgiliau trefnu, rhyngbersonol a bywyd allweddol; cyfle i fod yn greadigol a chwarae rhan hanfodol yn ein digwyddiadau mawr – Gemau'r Gymanwlad, Gêmau Ieuenctid y Gymanwlad a Ras Gyfnewid Baton y Frenhines.

Gweithiodd Megan gyda ni yn ystod 2018/2019 fel rhan o'i hinterniaeth gyda Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, ac roedd yn ddigon lwcus i ymweld â Botswana am 5 diwrnod o hyfforddiant gydag interniaid eraill o Ewrop ac Affrica (…roedden ni'n eithaf cenfigennus hefyd!). Dyma hanes ei thaith anhygoel:

 

"Dw i wastad wedi breuddwydio am ymweld ag Affrica, ond feddyliais i ddim y byddwn i'n ddigon lwcus i fynd yno AC i ddweud fy mod wedi gwneud hynny tra'n gweithio i Gemau'r Gymanwlad!

 

Diwrnod 1

Drwy gydol fy interniaeth bues i'n gweithio'n agos gydag intern tîm Lloegr, Hollie. Roedden ni'n cyd-dynnu’n dda o'r cychwyn ac roedd hi'n wych cael gwybod y byddai hi'n dod i Botswana gyda fi. Roedd yn bell o adref ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu teithio gyda rhywun roeddwn i wedi dod ymlaen yn dda gyda hi yn ystod fy interniaeth. Roedd ein taith 12 awr yn ymddangos yn dipyn haws nawr gan fod fy ffrind gorau newydd wrth fy ochr!

Fe wnaethon ni lanio yn Johannesburg cyn yr hediad cyflym 30 munud i Botswana; ac o'r diwedd, roedden ni wedi cyrraedd! Felly, pam yn union roedd Hollie a fi wedi dod i Botswana?

Fel rhan o'n hinterniaeth, cawsom gwrdd â nifer o interniaid Gemau'r Gymanwlad o bob cwr o'r byd; – roedd interniaid o Zambia, Mauritius, Sierra Leone, Uganda, Tanzania, Mozambique, a hyd yn oed ychydig yn nes at adref – Gogledd Iwerddon. Fe wnaethon ni rannu manylion y prosiectau roedden ni'n gweithio arnyn nhw i'n gwledydd ni, yr heriau roedden ni wedi'u goresgyn, y pethau roedden ni wedi'u dysgu, ac yn bwysicaf oll – fe gawson ni wrando a dysgu am yr hyn roedd pawb arall yn ei wneud hefyd. Roedd hyn yn caniatáu inni rannu syniadau a mynd â syniadau newydd yn ôl gyda ni i Gymdeithas y Gymanwlad.

Y noson honno, daeth pawb at ei gilydd i chwarae gêm o griced sydyn. Er fy mod yn gweithio i fudiad chwaraeon, mae fy ngallu i yn y maes yn gyfyngedig a dweud y lleiaf! Enillodd ni ddim, ond roedd pawb wedi cael cymaint o hwyl a phawb wedi mwynhau eu hunain, sef y rhan bwysicaf heb os. Ar ôl y gêm, fe wnaethon ni eistedd gyda’n gilydd a mwynhau rhywfaint o win a phitsa– byw’r freuddwyd!

Diwrnod 2

Ar ôl brecwast blasus aethom draw i'r ganolfan gynadledda, lle cawsom gyfarfod ag interniaid o Affrica – a oedd newydd ddechrau ar eu hinterniaeth gyda Gemau'r Gymanwlad. Cawsom rannu ein profiadau â nhw a rhoi cipolwg iddynt o'r hyn y gallent ei ddisgwyl dros y flwyddyn nesaf. 

Roedd neges destun gyflym o adref yn tanlinellu pa mor lwcus roeddwn i fod mewn lle mor anhygoel. Roedd y tywydd yma yn hyfryd. Golygfeydd o'r machlud bob nos? Hyd yn oed yn well! Ac yn ôl adref roedd llwyth o eira ar lawr – waw, dyna wahaniaeth!

Cawsom fwynhau swper gyda'r interniaid o'r gynhadledd, a oedd ar fin dychwelyd adref. Roedd ein cyfarfod byr, ond hyfryd, yn anhygoel – cael y cyfle i gwrdd â chymaint o bobl; o gefndiroedd cwbl wahanol a dysgu am eu diwylliannau. Fe wnaethon ni gyd gyfnewid rhifau ffôn ac e-byst er mwyn cadw mewn cysylltiad â'n gilydd, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi hyn yn fawr; mae mor hyfryd.

 

Diwrnod 3

Drannoeth ymunais i â Thîm Lloegr a Thîm Gogledd Iwerddon, lle cefais rannu fy mhrosiect newydd cyffrous gyda gweddill y grŵp.

Pan ddechreuais fy interniaeth ym mis Medi, rhannodd Gemau'r Gymanwlad Cymru eu huchelgais o weithio gyda phobl ifanc, nid yn unig i ysbrydoli athletwyr y dyfodol, ond i fod yn rhwydwaith cryf o gefnogaeth i athletwyr ifanc a oedd i gyd yn newydd i'r broses. Gall unrhyw antur newydd fod yn frawychus, felly byddai unrhyw beth y gallem ei wneud i helpu yn flaenoriaeth allweddol i Dîm Cymru.

Gan gydweithio â’m cyd-interniaid yn Nhîm Cymru, roeddem o’r farn y byddai'n gymorth mawr i athletwyr ifanc (rhwng 14-18 oed) ddatblygu cysylltiadau gyda'u cyfoedion er mwyn datblygu cyfeillgarwch cyn y Gemau. Gall bod mor ifanc a theithio i wlad newydd (a threulio'r rhan fwyaf o'r amser, heb eich teulu wrth eich ochr chi) fod yn frawychus iawn. Mae cysylltu â'n gilydd drwy sgwrs yn golygu y gallen ni helpu i danio cyfeillgarwch newydd, sicrhau bod wyneb cyfarwydd i'n cyfarch cyn cyrraedd gwlad anghyfarwydd, a cheisio lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau ar eu taith*.

*Ers fy nhaith i Botswana, cyhoeddwyd y byddai Gemau Ieuenctid 2021 yn cael eu cynnal yn Trinidad a Thobago, felly mae'n galonogol iawn gwybod y bydd ein hymdrechion yn helpu nifer o athletwyr ifanc sy'n cael eu dewis i gystadlu yn y Gemau i gysylltu â'i gilydd ac i deimlo'n gysurus am y siwrne sydd o'u blaenau.

Ar ôl rhannu ein syniadau â'n gilydd, fe deithion ni i Warchodfa Natur Mokolodi. Wrth i ni nesáu at y fynedfa, fe syrthiais i mewn cariad yn syth – am olygfeydd! Anhygoel. Buom yn gwylio'r machlud cyn mwynhau swper gyda'n gilydd unwaith eto am noson arall.

 

Diwrnod 4

Deffro am 4:30am…

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn gosod larwm ar eu ffôn neu gloc larwm er mwyn sicrhau eu bod yn deffro’n brydlon. Doedd dim rhaid i ni – oherwydd fe gawson ni ein deffro gan fabŵns yn curo ar y drysau ac yn siglo o'r ffenestri! Profiad newydd rhaid cyfaddef (ond roeddwn i wrth fy modd!)

Ar ein ffordd i'r ganolfan gynadledda y diwrnod hwnnw, fe gawsom gip ar hipopotamysau yn y dŵr gerllaw ein llety, a hyd yn oed jiráffs yn bwydo o'r coed! Waw – nid fy mhrofiad boreol arferol oedd hwn, ond mae'n debyg doedd dim byd 'arferol' wedi digwydd ers i ni gyrraedd Mokolodi!

Y golygfeydd o Mokolodi oedd y gorau dw i erioed wedi'u gweld. Eisteddais i edmygu'r golygfeydd am hydoedd er mwyn ceisio argyhoeddi fy hun fy mod i yma go iawn. Gan fod ein grŵp wedi gorffen ein holl waith am y diwrnod, fe wnaethon ni fanteisio ar y lleoliad a chael shŵt ffotograffiaeth ein hunain, wrth gwrs!

 

Diwrnod 5

Roedd ein diwrnod olaf yn cynnwys myfyrdodau gyda'n gilydd am y rhaglen interniaethau. Roeddem i gyd yn gytûn bod Gemau'r Gymanwlad wedi rhoi'r cyfle mwyaf anhygoel inni, ac roeddem yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael treulio'r dyddiau olaf mewn lle mor hardd.

Treuliasom y prynhawn ar daith saffari i weld Sebras, Jiraffs, Wildebeest, Impalas, Estrys a Baeddod, cyn mwynhau cinio barbeciw wrth wylio machlud anhygoel arall.

Buom i gyd yn eistedd o gwmpas y tân ar ôl swper, yn siarad am ein profiad yn Botswana, yn gwrando ar straeon ein gilydd ac yn siarad am y Gemau.

 

Diwrnod 6 – amser i fynd adref!

I'n deffro bore ma, er mawr syndod, nid y babŵns ond y storm fellt a tharanau fwyaf anhygoel! Dw i wrth fy modd yn gwrando ar fellt a tharanau ers pan oeddwn i'n blentyn, felly roedd gweld storm mor fawr yn wirioneddol anhygoel! Y fflachiadau o oleuni, y dwndwr… Waw!

Roedd hi'n brofiad chwerw-felys gadael y Warchodfa. Roeddem yn drist o fod yn gadael, ond hefyd yn hapus i fynd adref i weld ein ffrindiau a'n teulu. Dywedon ni ffarwel am y tro olaf cyn dal yr awyren am adref.

Byddaf yn fythol ddiolchgar i Dîm Cymru a Gemau'r Gymanwlad am roi cyfle mor anhygoel imi; i ymweld ag Affrica, gwneud ffrindiau newydd, ac atgofion a fydd yn para am oes. O am gael gweld golygfeydd hardd Botswana, unwaith yn rhagor!

Tan y tro nesaf, Affrica.

Meg."

 

Os hoffech wybod mwy o wybodaeth am ein cyfleoedd interniaeth a gwneud cais am rôl, cysylltwch â Cathy Williams ar cathy.williams@teamwales.cymru