Welsh Batonbearers revealed ahead of next week’s Baton Relay
Mae pencampwyr o fyd chwaraeon, cewri cymunedol a rhai o sêr Cymru ymhlith y 130+ o unigolion arbennig a fydd yn cludo Baton y Frenhines pan fydd yn dod i Gymru yr wythnos nesaf.
Dewisiwyd cludwyr y baton yng Nghymru am eu cyfraniad cymunedol a’u llwyddiannau ym maes chwaraeon, addysg a’r celfyddydau. Byddan nhw’n cymryd rhan mewn taith o amgylch Cymru dros bedwar diwrnod.
Ar ôl derbyn enwebiadau gan drefnwyr lleol, penderfynwyd ar y rhestr derfynol gan Gemau’r Gymanwlad Cymru.
Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Mae’n fraint aruthrol cael eich dewis i gludo’r baton, a dylai pawb sydd ar y rhestr deimlo balchder mawr.
“Mae pob un o gludwyr y Baton yng Nghymru yn unigolion eithriadol sy’n hyrwyddo bywyd cymunedol ac yn ysbrydoli eraill i gyflawni hyd eithaf eu gallu mewn pob math o feysydd.
“Mae gennym gludwyr o bob oed a chefndir, sy’n adlewyrchu ein hamrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol fel cenedl.”
Ychwanegodd: “Dyma’r daith hiraf yn hanes Taith Baton y Frenhines yng Nghymru. Bydd y Baton yn teithio 350 milltir trwy Gymru ac yn ymweld a’r de, y canolbarth a’r gogledd. Y nod yw creu cyffro ym mhob cwr o’r wlad wrth i ni edrych ymlaen at Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur, Awstralia y flwyddyn nesaf.”
Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines ym Mhalas Buckingham ar y 13eg o Fawrth eleni, a bydd yn teithio trwy Gymru rhwng 5-8 o Fedi.
Bydd y Baton wedyn yn ymweld ag Asia ac Ynysoedd y De cyn teithio trwy Awstralia a chyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar y 4ydd o Ebrill.
Mae rhestr o gludwyr y baton yng Nghymru ar gael yma.