Welsh Netball and Men’s Rugby 7s selected for 2018 Gold Coast Commonwealth Games

Heddiw, cyhoeddodd Gemau’r Gymanwlad Cymru for y bydd tîm pêl-rwyd a rygbi 7 bob ochr dynion Cymru yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

Dyma’r ddwy gamp tîm gyntaf i gael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn y Gemau y flwyddyn nesaf, ar ôl iddyn nhw lwyddo i gyrraedd gofynion cymhwyso Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad.

Mae tîm pêl-rwyd Cymru wedi cael eu rancio’n 8fed yn y byd gan y Ffederasiwn Pêl Rwyd Rhyngwladol, sy’n golygu eu bod yn gymwys am le yng Ngemau 2018 ochr yn ochr ag 11 o dimau eraill. 

Cymhwysodd rygbi 7 bob ochr dynion Cymru fel yr 8fed o blith cenhedloedd y Gymanwlad yng Nghyfres Rygbi Saith Bob Ochr y byd eleni. 

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru a gadarnhaodd y penderfyniad heddiw: “Mae hyn yn newyddion ardderchog. Rydyn ni’n hynod falch fod pêl rwyd a rygbi 7 bob ochr dynion Cymru wedi sicrhau eu lle yn y Gemau yn 2018.

“Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous i bêl rwyd yng Nghymru, gyda’r gemau prawf yn erbyn y Silver Ferns o Seland Newydd yn ôl ym mis Chwefror yn denu’r dorf fwyaf erioed i wylio pêl-rwyd rhyngwladol yng Nghymru.

“Yn yr un modd, mae rygbi 7 bob ochr dynion Cymru yn parhau i berfformio’n dda iawn yn rhyngwladol ac roedden nhw’n anlwcus i beidio ag ennill medal yn Glasgow yn 2014.

“Mae cymhwyso ar gyfer Gemau’r Arfordir Aur yn dilyn gwaith caled ac ymroddiad gan y chwaraewyr, eu hyfforddwyr a’r staff cefnogol yng Nghymdeithas Pêl-Rwyd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

“Gyda pêl-rwyd a rygbi 7 bob ochr dynion yn sicr o’u lle yn Nhîm Cymru, edrychwn ymlaen at gyhoeddi chwaraeon tîm eraill Cymru dros y misoedd nesaf wrth iddyn nhw gymhwyso ar gyfer Gemau 2018.”  

Meddai Sarah Jones, Prif Weithredwraig Cymdeithas Pêl-Rwyd Cymru: “Rydyn ni’n aruthrol o falch a hapus o gael y cadarnhad hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur. 

“Mae yna baratoi sylweddol wedi bod er mwyn cymhwyso – yn cynnwys cyfres brawf dros dridiau yn Ne Affrica y llynedd, a Chyfres Brawf Ryngwladol Prifysgol Abertawe yn ystod y Siver Ferns sydd yn ail trwy’r byd. 

“Edyrchwn ymlaen at wella ar ein perfformiad yn Glasgow yn 2014, ac adeiladu ar sail ein llwyddiant yng Nghwpan Pêl-Rwyd y Byd yn Sydney yn 2015.”

Meddai Geraint John, Pennaeth Perfformiad Undeb Rygbi Cymru: “Mae cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad bob amser yn uchelgais fawr i ni, felly mae cymhwyso ar gyfer yr Arfordir Aur yn destun llawennydd mawr i ni. Mae’r gamp yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru, ac o dan arweiniad y prif hyfforddwr Gareth Williams a’r hyfforddwr cynorthwyol Richie Pugh, mae’r tîm cenedlaethol yn perfformio’n ardderchog gyda charfan gyffrous o chwaraewyr ifanc. 

“Yn ogystal â pherfformio’n wych yn ystod Cyfres Rygbi Saith Bob Ochr y Byd HSBC a Rygbi Ewrop eleni, mae’r tîm hefyd wedi llwyddo i atgyfnerthu mewn nifer, felly does gen i ddim amheuaeth na fyddan nhw’n gosod her sylweddol fel rhan o Dîm Cymru yn 2018.”

Whilst displaying some excellent performances in the HSBC World Rugby Sevens Series and in Rugby Europe this year, the team has also managed to increase its strength in depth, so I have no doubt they will provide a formidable challenge as part of Team Wales in 2018.”  

O dan bolisi newydd gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad mae llefydd ar gyfer campau tîm, codi pwysau a phara-chwaraeon yn cael eu pennu trwy system rancio. Bydd athletwyr unigol mewn campau eraill yn cael eu henwebu gan y Cyrff Llywdoraethu Cenedlaethol yn seiliedig ar feini prawf cymhwyster a pherfformiad.

Bydd Gemau’r Gymanwlad Cymru yn dethol athletwyr unigol ar gyfer Tîm Cymru ddiwedd y flwyddyn eleni.