Team Wales qualifies for first ever Commonwealth Games women’s rugby 7s tournament
Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cadarnhau bod tîm rygbi saith bob ochr merched Cymru wedi sicrhau lle yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.
Bydd merched Cymru yn cystadlu ochr yn ochr â 7 o genhedloedd eraill yn y twrnament rygbi saith bob ochr y flwyddyn nesaf.
Dyma’r tro cyntaf erioed i rygbi saith bob ochr merched gael ei gynnwys yn rhaglen chwaraeon Gemau’r Gymanwlad. Bydd y twrnament dynion yn cael ei gynnal am y chweched tro ers i’r gamp gael ei chyflwyno gyntaf yn Ngemau Kuala Lumpur yn 1998.
Bydd sgwad y merched yn ymuno â thîm dynion Cymru sydd hefyd wedi cymhwyso ar gyfer Gemau 2018, fel y cyhoeddwyd gan Dîm Cymru dros yr haf.
Y llynedd, derbyniodd Undeb Rygbi Cymru gyllid gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad (y CGF) a phwyllgor yr Arfordir Aur 2018 a sicrhawyd gan Dîm Cymru i baratoi sgwad saith bob ochr merched Cymru ar gyfer y Gemau.
Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rydyn ni’n arbennig o falch o gyhoeddi y bydd tîm rygbi saith bob ochr merched Cymru yn cystadlu yng Ngemau’r Arfordir Aur. Mae’n hynod gyffrous y bydd gan Dîm Cymru bresenoldeb yn y twrnament merched cyntaf erioed yn hanes y Gemau. Mae cynnwys rygbi merched yn y rhaglen chwaraeon yn gam pwysig tuag at wneud Gemau’r Gymanwlad hyd yn oed yn fwy cynhwysol.”
Ychwanegodd: “Mae yna dwf ardderchog wedi bod mewn rygbi merched yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn longyfarch Undeb Rygbi Cymru am yr holl waith sydd wedi cael ei wneud i ddatblygu a pharatoi sgwad Cymru i gymhwyso ar gyfer Gemau 2018.
“Dyma fydd y tro cyntaf i chwaraewyr fel Jaz Joyce – a oedd yn aelod o sgwad rygbi saith bob ochr cyntaf erioed Tîm GB yng Ngemau Olympaidd Rio – gael y cyfle i gynrychioli eu cenedl fel rhan o Dîm Cymru.”
Meddai Nick Wakley, Prif Hyfforddwr gydag Undeb Rygbi Cymru: “Rwy’n hapus tu hwnt fod y tîm wedi sicrhau lle yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae’r sgawd yn gwbl haeddiannol o le yn y Gemau ar ôl yr holl waith caled gyda phencampwriaethau rygbi saith bob ochr Ewrop yn Rwsia a Ffrainc, gyda Chymru’n cyrraedd y safle uchaf erioed.
“Mi fyddwn ni’n wynebu timau cryf iawn yng Ngemau’r Gymanwlad, ond byddwn ni yno i gystadlu gyda’r gorau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gystadlu yn erbyn timau proffesiynol Cyfres y Byd, ac rwy wedi herio’r chwaraewyr i wneud rhywbeth bob dydd i sicrhau eu bod ar yr awyren i Awstralia y flwyddyn nesaf. Maen nhw’n aberthu llawer yn barod, ac mi fyddwn ni i gyd yn gweithio’n galed iawn dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd i baratoi ar gyfer uchafbwynt gyrfaol y chwaraewyr hyd yma.”
Bydd sgwadiau
rygbi saith bob ochr merched a dynion Cymru yn cael eu
cyhoeddi cyn y Gemau y flwyddyn nesaf.