Welsh weightlifters secure Team Wales place for 2018 Commonwealth Games

Cyhoeddwyd heddiw bod 12 o godwyr pwysau wedi sicrhau eu lle gyda Thîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi rhyddhau enwau’r athletwyr a fydd yn cynrychioli Cymru mewn campau codi pwysau yn y Gemau.

Yn cystadlu yng nghategorïau’r dynion bydd: Seth Casidsid (56kg), Gareth Evans (69kg), Harry Misangyi (85kg), Joshua Parry (94kg), Jordan Sakkas (105kg) a Rhodri West (+105kg).

Ac yng nghategorïau’r merched bydd: Hannah Powell (48kg), Catrin Jones (53kg), Christie Williams (58kg), Faye Pittman (69kg), Laura Hughes (75kg) a Tayla Howe (90kg).

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Llongyfarchiadau i’r codwyr pwysau sydd wedi cymhwyso a chael eu dewis i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur.  

“Mae’r fraint o gael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn brawf o’u hymroddiad fel unigolion a hefyd y gefnogaeth wych a gânt gan eu hyfforddwyr, teuluoedd, Chwaraeon Anabledd Cymru a’u cyrff llywodraethu. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw i gyd wrth baratoi ar gyfer Gemau 2018.”

Dywedodd Simon Roach, Rheolwr Chwaraeon gyda Codi Pwysau Cymru: “Mae’n ardderchog gweld tîm mor gryf yn cael ei ddewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018. Mae’r athletwyr wedi gweithio’n hynod galed i gael eu dewis. Maen nhw’n arbennig o falch o gael y cyfle i gynrychioli eu cenedl yn y Gemau. Pob lwc i bob un o’r athletwyr wrth baratoi ar gyfer yr Arfordir Aur.”