Swimmers and powerlifters complete Team Wales para squad for GC2018

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cadarnhau heddiw bod dau nofiwr a thri o godwyr pŵer wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru, gan gwblhau’r sgwad para-chwaraeon yn Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur fis Ebrill.  

Mae’r nofwyr Jack Thomas ac Alex Rosser wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth dull rhydd 200m i ddynion (categori S14).

Enillodd Jack fedal efydd yng nghystadleuaeth S14 y 200m dull rhydd yn Glasgow 2014 ac aeth ymlaen i sicrhau dwy fedal arian yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Eindhoven yn y 100m dull cefn a’r 200m cymysg unigol, yn ogystal ag efydd yn y 200m dull rhydd. Yn wreiddiol o Abertawe, mae Jack yn hyfforddi gyda’i hyfforddwr Chris Davies yng Nghanolfan Nofio Llandudno, lle mae hefyd yn gwirfoddoli yn ei amser rhydd.

Cychwynnodd Alex, sy’n 21 oed ac o Dorfaen, gystadlu pan oedd yn ddim ond saith oed gan ddilyn yn ôl troed ei rieni sydd ill dau’n nofwyr rhyngwladol. Pinacl ei yrfa hyd yma yw gorffen yn bedwerydd yn rownd derfynol Cyfres Para-Nofio y Byd yn Berlin fis Gorffennaf eleni. Mae Alex yn astudio ar gyfer gradd Chwaraeon a Gwyddoniaeth Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hefyd yn hyfforddwr nofio rhan amser gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Bydd y codwyr pŵer Nathan Stephens, Sean Gaffney a Nerys Pearce hefyd yn ymuno ag athletwyr eraill Tîm Cymru yng Ngemau 2018.

Mae’r athletwr aml-dalentog Nathan Stephens o Ben-y-bont ar Ogwr, a fydd yn dathlu ei benblwydd yn 30 oed yn ystod Gemau 2018, wedi cael ei ddewis i gystadlu yn y gamp pwysau ysgafn i ddynion (i fyny at ac yn cynnwys 72kg). Mae wedi dal record byd ac wedi bod yn Bencampwr Byd yn nosbarth F57 y waywffon, ac wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd deirgwaith – mewn hoci sled yng Ngemau’r Gaeaf 2006, mewn disgen, taflu maen a gwaywffon yn 2008 ac mewn gwaywffon yn Llundain 2012. Dim ond ers mis Ionawr 2017 mae Nathan wedi bod yn codi pŵer ac mae’n edrych ymlaen at gystadlu dros Gymru am y tro cyntaf erioed mewn Gemau’r Gymanwlad.

Mae Sean Gaffney, 46 oed o Ellesmere Port, sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yng Ngorsaf yr Awyrlu Brenhinol yn Yeovilton, wedi colli ei goes chwith o dan y pen-glin ar ôl cael anaf yn 1999 wrth wasanaethu. Fwy nag ugain o lawdriniaethau’n ddiweddarach, cystadlodd Sean yng Ngemau Invictus 2016 ac enillodd gasgliad anhygoel o bedair medal – gan gynnwys aur yn y codi pŵer ac yn y rhwyfo un munud. Bydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth pwysau trwm i ddynion (dros 72kg).

Yn cystadlu yn y pwysau trwm i ferched (dros 61kg) bydd Nerys Pearce, 36 o Ascot. A hithau wedi ennill deg medal yn y Gemau Invictus, bydd Nerys yn teithio i Awstralia gyda’i llygad ar le ar y podiwm unwaith eto. Mae hi’n barod wedi hen ddechrau hyfforddi ac yn canolbwyntio ar ymarfer er mwyn rhoi’r perfformiad gorau i Gymru y flwyddyn nesaf. Mae hi hefyd yn hyfforddi ei chyd-godwr pŵer Sean Gaffney.

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’n wych medru cyhoeddi y bydd y nofwyr a’r codwyr pŵer yn ymuno â’r para-athletwyr eraill sydd eisoes wedi cael eu dewis i gystadlu mewn athletau, beicio, bowls a thenis bwrdd. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw wrth hyfforddi a pharatoi ar gyfer Gemau 2018.

“Does dim llawer o amser i fynd tan y Gemau fis Ebrill, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi gweddill Tîm Cymru fis Ionawr a gweld ein hathletwyr yn perfformio eu gorau dros Gymru unwaith eto.”

Meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid: “Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn hynod falch fod y para-nofwyr a’r codwyr pŵer yma wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru. Bydd mwy o bara-chwaraeon nag erioed o’r blaen yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur, ac mae’n wych gweld fod tîm mor gryf o bara-athletwyr wedi cael ei ddewis. Mae’r tîm yn cynnwys cyfuniad o bencampwyr y byd, sêr Paralympaidd, ac athletwyr newydd sy’n adlewyrchu cymaint o waith datblygu para-athletwyr sydd yn digwydd yma yng Nghymru.”

Meddai Ross Nicholas, Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol gyda Nofio Cymru: “Mae’n newyddion ardderchog bod Jack ac Alex wedi cael eu dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur. Mae’r ddau ohonyn nhw yn gwbl haeddiannol o’u lle ar ôl gwneud yn hynod o dda yn ystod tymor 2017. Dyma fydd tro cyntaf Alex yn y Gemau, ond bydd Jack yn cystadlu am yr eildro.  Enillodd fedal yn Glasgow, a bydd yn paratoi hyd eithaf ei allu i sicrhau lle ar y podiwm unwaith eto. Mae’n hynod gyffrous fod gan Gymru ddau bara-nofiwr sydd â’r gallu i gystadlu yn erbyn goreuon gwledydd y Gymanwlad.”

Meddai Simon Roach, Rheolwr Chwaraeon Codi Pwysau Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod tri o’n para-athletwyr wedi cael eu dewis ar gyfer yr Arfordir Aur. Mae eu hymroddiad a’u perfformiad trwy gydol 2017 wedi bod yn anhygoel ac mae cael eu dewis yn gydanbyddiaeth o’r hyn mae’n nhw wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn dangos ffrwyth y gwaith sydd wedi ei wneud gan Godi Pwysau Cymru i sicrhau bod y gamp yn fwy cynhwysol. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn cystadlu dros Gymru fis Ebrill, a dymunaf y gorau iddyn nhw gyda’u paratoadau yn y cyfamser.”