50 diwrnod i fynd!

Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd nes i Dîm Cymru deithio i Trinidad a Tobago ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. 

Bydd y Gemau, sy’n cael eu cynnal yn y genedl ddwy ynys rhwng 4-11 Awst yn gweld 72 o genhedloedd ledled y Gymanwlad yn cystadlu yn 7 camp yr haf hwn. 

Bydd Tîm Cymru yn cynnwys 43 o athletwyr ac 20 aelod o staff a bydd y tîm llawn yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis hwn. 

Dywedodd Llywydd CGGC, Helen Phillips, ‘Yn gyntaf hoffwn ddiolch i’r holl gampau am eu hymroddiad wrth baratoi’r athletwyr ar gyfer y Gemau ieuenctid. Mae chwe blynedd wedi mynd heibio ers Gemau’r Bahamas yn 2017, felly rydym i gyd yn barod i weld yr athletwyr ifanc talentog yng Nghymru yn cystadlu ar lwyfan y Gymanwlad. Gyda dim ond 50 diwrnod i fynd, hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl athletwyr a staff cymorth yng nghamau olaf y paratoadau cyn Trinbago 2023.’ 

Yn 2023 bydd mwy na 1,000 o athletwyr a phara-athletwyr, rhwng 14-18 oed, o’r 72 o wledydd a thiriogaethau, yn cymryd rhan mewn cyfanswm o saith camp: 

Campau Dŵr (Nofio), Athletau a Phara Athletau, Beicio (Ras Ffordd, Treial Amser a Thrac) a Thriathlon, yn ogystal â Phêl-rwyd FAST5, Rygbi Saith Bob Ochr a Phêl-foli Traeth. 

Bydd athletwyr Tîm Cymru’n cystadlu ar draws 4 o’r campau; Athletau, Nofio, seiclo a Rygbi Merched Saith Bob Ochr a bydd arweinydd tîm ar gyfer pob camp. Maen nhw’n cynnwys cyn-neidiwr clwydi 400m y Gymanwlad Rhys Williams ar gyfer athletau, a’r hyfforddwr perfformio profiadol Graeme Antwhistle fydd yn arwain y nofwyr. Mae hyfforddwr Saith Bob Ochr Cymru, Jonathan Hooper yn dychwelyd i’r Gemau ieuenctid gyda thîm y Merched, gan obeithio ailadrodd hanes a dod â medal arall adref, a hyfforddwr yr Academi Rob Partridge fydd arweinydd y tîm Beicio. 

Dywedodd Matt Cosgrove, Chef de Mission Tîm Cymru “Nawr ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir o 50 diwrnod i fynd, mae’r paratoadau wir yn cyflymu. Ymhen ychydig ddyddiau bydd yr athletwyr terfynol fydd yn cynrychioli Cymru yn cael eu dewis. Yna byddan nhw’n mireinio eu hyfforddiant i gyrraedd Trinbago ar eu gorau. Mae Tîm Cymru yn rhoi’r cyffyrddiadau terfynol i’w cynlluniau i sicrhau bod popeth yn ei le i alluogi’r athletwyr i berfformio ar eu gorau. Alla i ddim aros i’w gweld nhw’n gwneud Cymru’n falch mewn digwyddiad a fydd yn ysblennydd., rwy’n siŵr.” 

 

Gwnaeth tîm Rygbi Saith Bob Ochr Cymru hanes yn y Gemau Ieuenctid olaf yn Bahamas 2017, gan ennill medal chwaraeon tîm cyntaf erioed Cymru (Efydd) yng Ngemau’r Gymanwlad. 

Bydd Cymru, ochr yn ochr â Trinidad a Tobago, Canada, Fiji a Kenya yn herio’r pencampwyr Awstralia yng nghystadleuaeth y merched.  

Ers eu lansio yn 2000, mae’r Gemau Ieuenctid wedi parhau i dyfu i ddarparu cyfle unigryw i brofi chwaraeon elitaidd ar y llwyfan rhyngwladol, hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu cyfeillgarwch gydol oes ar draws y Gymanwlad. 

Ychwanegodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Gareth Davies Gyda 50 diwrnod i fynd mae’n gyfle gwych i adeiladu ymhellach ar y cyffro tuag at y gemau ieuenctid yr haf hwn. Mae’n anodd credu ei bod hi’n 6 mlynedd ers y gemau olaf yn y Bahamas. I mi’n bersonol, dyma fydd fy ngemau cyntaf fel Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r pedwar camp a fydd yn gwneud Cymru’n falch. Hoffwn ddymuno pob lwc i bob athletwr sy’n cael ei ddewis.”

 

Ffeithiau am Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 

  • 4 -11 Awst 2023 yn Trinidad a Tobago 
  • Chwaraeon; Nofio, Beicio, Athletau, Triathlon, Pêl-rwyd FAST5, Rygbi Saith Bob Ochr, Pêl-foli Traeth 
  • Bydd 43 o athletwyr ac 20 aelod o staff mewn Tîm Cymru yn Trinbago 
  • Bydd 1000+ o athletwyr a dros 500 o swyddogion yn Trinbago 2023. 
  • 7fed Gemau Ieuenctid y Gymanwlad (Gemau cyntaf yn 2000, Caeredin, yr Alban) 
  • Hanes y Gemau; 2000 Caeredin, 2004 Bendigo; 2008 Pune, 2011 Ynys Manaw, 2015 Samoa, 2017 Bahamas, 2023 Trinbago 
  • Cafodd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad eu cynnal diwethaf yn y Bahamas yn 2017. 
  • Enillodd 39 o athletwyr Tîm Cymru 13 o fedalau yn y Bahamas a chreodd y tîm Rygbi Mercher saith bob ochr hanes gan ennill y tîm Medal cyntaf i Gymru mewn Gemau i athletwyr hŷn neu iau. 
  • Dewis carfan rygbi saith bob ochr ar gyfer Trinbago; Trinidad a Tobago, Canada, Cymru, Awstralia, Fiji, Kenya 
  • Cyfleoedd am fedalau yn Trinbago 2023; 

Athletau               28 medal           16-17 oed 

Para Athletau      6 medal             14-18 oed 

Beicio                   12 medal            17-18 oed 

Nofio                    35 o fedalau       14-18 oed 

Rygbi                    2 fedal                17-18 oed