100 diwrnod i fynd tan Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinbago 2023

Tîm Cymru yn cyhoeddi tîm y pencadlys i arwain y Gemau Ieuenctid yr haf hwn

Bydd y Gemau, sy’n cael eu cynnal ar ddwy ynys Trinidad a Tobago rhwng 4-11 Awst, yn gweld 72 o genhedloedd o amgylch y Gymanwlad yn cystadlu mewn 7 camp yr haf hwn.

Cafodd y Gemau, a oedd i fod i gael eu cynnal yn 2021, eu gohirio oherwydd y pandemig. Bydd y dewis terfynol o athletwyr Tîm Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin, a fydd yn cynnwys Para-Athletwyr am y tro cyntaf yn hanes Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.

Bydd Tîm Cymru yn mynd â thîm o dros 60 o athletwyr a staff yr haf hwn gyda Matt Cosgrove yn Chef de Mission ac Anna Stembridge yn Ddirprwy Chef de Mission.

Mae Anna Stembridge yn aelod presennol o Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru ac mae wedi cystadlu dros Dîm Cymru mewn dwy o Gemau’r Gymanwlad.

Bydd y Pennaeth Ymgysylltu Cathy Williams yn cymryd rôl Arweinydd y pentref ar Ynys Tobago, gyda Katy Guy yn dychwelyd yn ei rôl fel Prif Swyddog Meddygol. Cynorthwyydd Gemau GGC, Lauren Scobie fydd yr arweinydd Gweithrediadau a Hannah Llewelyn fydd Ffisiotherapydd Tîm Cymru. Yn cwblhau tîm staff pencadlys Tîm Cymru mae Kate Edwards a fydd y Doctor ar Tobago.

Ymwelodd Matt Cosgrove, Chef de Mission Tîm Cymru â’r pâr o ynysoedd fis diwethaf fel rhan o’r rhaglen ymweld â’r safle i ddeall cynllun y Gemau’n well.

Dywedodd Matt ‘Mae’r paratoadau’n prysuro gyda 100 diwrnod i fynd tan Trinbago 2023. Mae’n wych gallu penodi tîm pencadlys profiadol i gefnogi’r athletwyr i gystadlu ar eu gorau yn y Gemau. Roedd gweld drostynt eu hunain yr amgylchedd y bydd yr athletwyr yn ei brofi yn y Gemau yn ddefnyddiol iawn yn ystod yr ymweliad â’r safle. Mae’r cyfleusterau o safon fyd-eang ac mae’r lleoliad yn syfrdanol. Bydd yr athletwyr yn sicr yn cael profiad gwych yn cystadlu yn y Gemau Ieuenctid ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn gwneud Cymru’n falch.”

Bydd Trinbago 2023 yn cynnwys mwy na 1,000 o athletwyr a phara-athletwyr, rhwng 14-18 oed, o’r 72 o wledydd a thiriogaethau, yn cymryd rhan mewn cyfanswm o saith camp:

Chwaraeon Dŵr (Nofio), Athletau a Phara Athletau, Beicio (Ras Ffordd, Treial Amser a Thrac) a Thriathlon, yn ogystal â Phêl-rwyd FAST5, Rygbi Saith Bob Ochr a Phêl-foli Traeth.

Bydd gan Dîm Cymru athletwyr yn cystadlu mewn 4 o’r campau; Athletau, Nofio, Beicio a Rygbi Saith Bob Ochr Merched.

Llwyddodd tîm Rygbi Saith Bob Ochr Merched Cymru i greu hanes yn y Gemau Ieuenctid diwethaf yn y Bahamas 2017, gan ennill medal (Efydd) chwaraeon tîm cyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Bydd Cymru, ochr yn ochr â Trinidad a Tobago, Canada, Fiji a Kenya yn herio Awstralia yng nghystadleuaeth y merched.

Ers ei lansio yn 2000, mae’r Gemau Ieuenctid wedi parhau i dyfu i roi cyfle unigryw i brofi chwaraeon elitaidd ar y llwyfan rhyngwladol, hybu dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu cyfeillgarwch gydol oes ar draws y Gymanwlad.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Rebecca Edwards-Symmons ‘Mae’r Gemau Ieuenctid yn gyfle gwych i ddatblygu athletwyr ifanc. Mae llwyddiant ein hathletwyr sydd wedi mynd ymlaen i’r prif gemau a’r Gemau Olympaidd yn pwysleisio ymhellach pa mor bwysig yw amlygu ieuenctid i’r amgylchedd aml-chwaraeon hwn. Bydd Matt, Cathy a’r tîm yn parhau i baratoi a chynllunio dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i sicrhau bod gennym ni’r tîm sydd wedi paratoi orau ar gyfer y Gemau.’’

Ychwanegodd Gareth Davies, Cadeirydd newydd GGC, ‘’Mae’n amser cyffrous i mi ymuno â’r mudiad wrth i ni ddechrau ar y paratoadau ar gyfer y Gemau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi’r athletwyr, y campau a’r staff yn fy Ngemau Cymanwlad cyntaf fel Cadeirydd.’’