Team Wales works with fashion students on Commonwealth Games kit

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru i gynllunio elfennau o’r cit a fydd yn cael ei wisgo gan athletwyr Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia. Bydd Cymru yn anfon tîm o tua 200 o athletwyr i’r Gemau, ac mae leggings sydd wedi eu cynllunio gan y fyfyrwraig Meghan Bentley a’u cynhyrchu yma yng Nghymru yn un o’r eitemau y byddan nhw’n ei wisgo. 

Cynhaliwyd cystadleuaeth cynllunio leggings ar gyfer myfyrwyr ffasiwn mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru. Meddai Cathy Williams, Rheolwr Gemau gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Roedden ni’n ymwybodol o safon uchel gwaith cynllunio myfyrwyr y Brifysgol ac roedden ni’n awyddus i gynnwys cynulleidfa ehangach na chefnogwyr chwaraeon ym mharatoadau Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018 – felly roedd hwn yn gyfle perffaith. Mae’r prosiect yma’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n hynod falch hefyd bod y leggings yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Cymreig. ”

Meddai’r Prif Ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, Patricia Brien: “Roedd ymateb i frîff go iawn a chael profiad o weithio i gleient allanol yn gyfle cyffrous hynod werthfawr i’n myfyrwyr. Mae’n arbennig o gyffrous y bydd leggings Meghan yn cael eu cynhyrchu’n lleol ym Mhenarth ac yn cael eu gwisgo gan athletwyr Cymru ar lwyfan ryngwladol.”

Roedd y gystadleuaeth yn seiliedig ar y dasg o greu cynllun a fyddai’n ymgorffori gwerthoedd Tîm Cymru – balchder, angerdd, undod a ffydd. Ar y panel beirniadu roedd: Patricia Brien, Prif Ddarlithydd Ffasiwn a Chynllunio 3D Prifysgol De Cymru; Kath Grimmitt, perchennog The Power of Greyskull, cwmni Cymreig sy’n arbenigo mewn cynhyrchu leggings; a Bethan Dyke, chwaraewraig pêl-rwyd ryngwladol dros Gymru ac aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru.

Meghan Bentley enillodd y gystadleuaeth. “Cefais fy ysbrydoli gan falchder ac angerdd Cymru, ynghyd â lliwiau a bwrlwm yr Arfordir Aur,” meddai. “Rwy bob amser yn tueddu i greu cynlluniau lliwgar, gyda phrintiau cryf, ar gyfer dillad chwaraeon gan fod hynny’n gwneud i chi sefyll allan.” Mae Meghan, sy’n byw yn Maidenhead, ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd ennill y gystadleuaeth yn hwb mawr iddi gan mai ei huchelgais ar ôl graddio yw gweithio yn y byd cynllunio dillad chwaraeon.

Mae casgliad Meghan ar gyfer ei blwyddyn olaf yn y Brifysgol hefyd yn adlewyrchu ei diddordeb mewn cynllunio ar gyfer chwaraeon gan iddi greu dillad chwaraeon ar gyfer pobl gydag anableddau. Ymhlith y modelau a ddefnyddiwyd ar gyfer y casgliad hwnnw roedd yr athletwyr paralympaidd a phencampwriaethau’r byd Tony Mills a Kyron Duke, sy’n aelodau o Chwaraeon Anabledd Cymru. 

Yn ogystal â’r fraint o weld y leggings yn cael eu gwisgo yn y Gemau’r flwyddyn nesaf, bydd Meghan hefyd yn cael treulio pythefnos o brofiad gwaith gyda chynllunydd ffasiwn adnabyddus o Gymru.

Cynhyrchwyd y leggings gan The Power of Greyskull Athleisurewear, ym Mhenarth, sy’n cynllunio ac yn cynhyrchu pob math o ddillad chwaraeon. Roedden nhw’n ddewis perffaith ar gyfer y prosiect gan eu bod wedi eu lleoli yma yng Nghymru ac yn cynhyrchu dillad o ansawdd. Meddai’r perchennog Kath Grimmitt: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Phrifysgol De Cymru a Gemau’r Gymanwlad Cymru. Mae cynllun Meghan yn adlewyrchiad gwych o werthoedd Tîm Cymru ac mae’n fraint – a ninnau’n gwmni Cymreig – medru eu cynhyrchu yma.” 

Mae Bethan Dyke yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru, sy’n cysylltu’r athletwyr a fydd yn cystadlu dros gymru ar yr Arfordir Aur gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru, y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddewis ac anfon athletwyr i gystadlu yn y Gemau. Meddai Bethan: “Bydd y leggings yn ychwanegiad gwych at y dillad hamdden. Bydd cynllun unigryw Meghan yn gwneud i Gymru sefyll allan ymhlith y cenhedloedd eraill. Os bydda i’n ddigon lwcus i gael fy newis ar gyfer y Gemau, mi fydda i’n falch iawn o gael gwisgo’r leggings y flwyddyn nesaf.”