Y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siaradwr gwadd Clwb Busnes

Y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siaradwr gwadd Clwb Busnes Tîm Cymru

Cynhaliwyd trydydd Clwb Busnes Tîm Cymru, a’r cyntaf yn 2024, yng Nghlwb Golff y Celtic Manor, gyda’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am chwaraeon a gwleidyddiaeth. Soniodd Tanni, un o Baralympiaid gorau’r byd, sydd wedi ennill 16 o fedalau paralympaidd mewn 5 o Gemau Olympaidd, am uchafbwyntiau ei gyrfa, ei chyflwyniad i chwaraeon a’r heriau y mae wedi’u hwynebu ac wedi ymgyrchu drostynt i sicrhau bod pawb yn cael cydraddoldeb; mewn chwaraeon, yn y gweithle ac mewn bywyd pob dydd.

Ymunodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies, â Tanni, sydd hefyd yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru, ar y llwyfan, a rhoi cipolwg ar redeg Chwaraeon Cymru a’i amcanion.

Cyflwynodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Tîm Cymru, y digwyddiad ochr yn ochr â Sumaya Khan, y Cynorthwyydd Ymgysylltu. Agorwyd y noson gan y Prif Weithredwr, Rebecca Edwards-Symmons, a daeth y Cadeirydd Gareth Davies â’r digwyddiad i ben, gyda’r canwr Mal Pope yn diddanu’r gwesteion.

Dywedodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, ‘Am ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn! Mae Tanni mor ysbrydoledig, ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar iddi am roi o’i hamser i ymuno â ni heno, i rannu ei thaith ym myd chwaraeon a gwleidyddiaeth. Roedd yn ddiddorol iawn clywed ganddi hi a Brian am Chwaraeon Cymru hefyd – rhoddodd bersbectif gwirioneddol i’n gwesteion o’r hyn y mae’r sefydliad yn ei olygu’.