TÎM CYMRU’N LANSIO CLWB BUSNES

Heddiw, mae Tîm Cymru’n lansio Clwb Busnes Tîm Cymru, gyda Met Caerdydd yn brif noddwr. Mae Clwb Busnes Tîm Cymru’n gyfle unigryw i ddathlu talent a balchder athletwyr Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. 

Bydd y Clwb Busnes yn amlygu dyfnder ac ehangder y talent chwaraeon sydd ledled Cymru, gyda’r athletwyr a’r staff cymorth ymroddedig yn pwysleisio ymhellach falchder a grym brand Tîm Cymru. Ein nod yw lledaenu’r rhwydwaith busnes ar draws Tîm Cymru, campau’r aelodau a’r rhanddeiliaid ehangach er mwyn rhannu straeon ysbrydoledig, addysgu a dysgu oddi wrth ein gilydd, a gwella ein rhwydwaith ymhellach, gan ddefnyddio pŵer Gemau’r Gymanwlad. 

Cynhelir y lansiad ar 26 Medi yn y Royal Mint Experience o 5.30pm, a dyma fydd y digwyddiad cyntaf: 

“Dathlu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant – yn cynnwys sgwrs banel a fydd yn canolbwyntio ar lansio para-chwaraeon yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2023”  

Nod Clwb Busnes Tîm Cymru yw gosod busnesau Cymreig ar y llwyfan Cenedlaethol a Rhyngwladol. Creu rhwydwaith cryf o fusnesau yng Nghymru sy’n rhannu angerdd am chwaraeon niferus ledled y wlad. Gemau’r Gymanwlad yw’r unig gystadleuaeth lle mae athletwyr sydd ag anableddau ac athletwyr abl yn cael eu dewis fel un tîm cynhwysol. 

Tocynnau: £20 

I gofrestru a phrynu tocyn cliciwch YMA