Fe’ch gwahoddir i fod yn bartner teithio swyddogol i Dîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad XXIII yn Glasgow 2026.
Mae gan Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW) gyfrifoldeb dros baratoi, dewis ac arwain ymgyrch Cymru i gymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.
Bydd CGC yn gosod yr adnoddau, y seilwaith a’r bobl wych sydd eu hangen i gyflawni ein huchelgais ddiedifar o uchel, a rhoi profiad bythgofiadwy i athletwyr, swyddogion, ein partneriaid a’r genedl.
Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad aml-gamp y mae Cymru’n cystadlu ynddo fel cenedl ac o ganlyniad mae’n flaenoriaeth uchel i lawer o gampau ac athletwyr sy’n aelodau. Mae’n gyfle i bob cymuned yng Nghymru ddangos eu hangerdd am chwaraeon a chael eu hysbrydoli gan lwyddiant y tîm.
Bydd CGC yn rhoi profiad o’r Gemau a fydd yn ysbrydoli gan gyflwyno tîm cystadleuol i gymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Ieuenctid. Byddwn yn sicrhau bod athletwyr, hyfforddwyr a’r campau yn credu bod gwaith CGC wedi ychwanegu gwerth at eu perfformiad a’u profiad o’r Gemau.
Rydym yn ymroi i leihau’r effaith mae ein gwaith yn ei gael ar yr amgylchedd ac felly mae cynaliadwyedd yn agwedd allweddol ar ein gwaith.
Yn ogystal â Glasgow 2026, efallai y gofynnir i’r sawl sy’n tendro’n llwyddiannus gydlynu trefniadau teithio’r tîm ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad sy’n debyg o ddigwydd yn 2027, ond mae’r lleoliad a’r dyddiadau i’w cadarnhau.
Gofynion Tendro
Nid yw’r union ddyddiadau a niferoedd yr athletwyr ar gyfer Glasgow 2026 yn hysbys ar hyn o bryd ond byddwn yn teithio yno tua diwedd mis Gorffennaf ac yn teithio yn ôl ym mis Awst. Maint y tîm yn fras fydd 150.
Rhaid i gynigion tendro gynnwys amlinelliad o sut yr ydych yn bwriadu cludo tua 150 o aelodau’r tîm, ynghyd â gwesteion, i Glasgow ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2026 ac yn ôl adref i Gymru ar ôl y Gemau. Bydd angen bod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y cyfnod cyn y Gemau, rhoi cymorth uniongyrchol mewn hybiau teithio a chymorth yn y fan a’r lle yn Glasgow.
Mae angen i gyflwyniadau tendro ddangos yn glir a fyddwch yn croesawu partneriaeth ffurfiol. Mae modd cael eich dynodi’n bartner swyddogol ac mae’r math hwn o bartneriaeth fasnachol yn cael ei ffafrio. Felly, nodwch eich asedau dewisol yn gyfnewid am y math hwn o bartneriaeth.
Gwnewch yn siŵr bod:
- Ffi partneriaeth a/neu gefnogaeth VIK wedi’i gynnwys.
- Opsiynau gwahanol ar gyfer taith y tîm i Glasgow ac yn ôl wedi’u gyflwyno.
- Ystyriaeth wedi ei roi i drefniadau bod y tîm yn teithio mewn nifer o grwpiau ar wahanol ddyddiadau.
- Cynlluniau yn cael eu cyflwyno ar gyfer grwpiau sy’n teithio o Ogledd Cymru a dau leoliad yn Ne Cymru (Caerdydd ac Abertawe).
- Ystyriaethau hygyrchedd wedi’u cynnwys wrth i bara-chwaraeon gael eu hintegreiddio i Gemau’r Gymanwlad.
- Ystyriaeth i’r ffaith bod angen cludo nifer sylweddol o fagiau ac offer.
- Y cymorth arfaethedig fydd yn cael ei roi wrth gynllunio teithiau’r tîm a sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu wedi’i ddangos yn glir.
- Cynnig ar gyfer rhedeg gwasanaeth gwennol rhwng llety a’r lleoliadau cystadlu yn Glasgow ar gyfer gwesteion drwy gydol y Gemau yn cael ei amlinellu.
- Eich polisi cynaliadwyedd wedi ei gyflwyno.
Cofiwch gynnwys enwau a chyfeiriadau dau gwsmer diweddar sy’n hapus i weithredu fel canolwyr i chi; hefyd, unrhyw wybodaeth bellach yr ydych chi’n teimlo y bydd yn cefnogi eich cais.
Y Broses Dendro
- Anfonwch eich dogfen dendro wedi’i chwblhau, ynghyd â dogfennau ategol at Rebecca Edwards-Symmons drwy e-bost – redwardssymmons@teamwales.cymru
- Dylid derbyn ceisiadau erbyn 28fed Chwefror 2025 fan bellaf.
- Bydd cyflwyniad a chyfweliad i ymgeiswyr ar y rhestr fer yn ystod mis Mawrth 2025.
- Ar ôl derbyn tendrau, mae gan CGC yr hawl i ofyn i dendrwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer drafod materion gweithredol o ran opsiynau teithio, logisteg a chostau, ond ni fydd hyn yn cael ei ystyried yn dderbyniad o’r tendr.
- Bydd y sawl sy’n tendro’n llwyddiannus yn cael yr hawl i drafod newidiadau mewn prisiau os oes newid yn niferoedd y tîm.
- Bydd y tendrau a gyflwynir yn cael eu gwerthuso yn seiliedig ar ansawdd a phriodoldeb yr opsiynau a gyflwynir, y gefnogaeth a gynigir, ffi’r bartneriaeth a gwerth am arian.
- Y Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Gweithrediadau’r Gemau fydd yn arwain y broses o benderfynu. Bydd Bwrdd Cyfarwyddwyr CGC yn cadarnhau’r argymhelliad.
Rhaid anfon unrhyw ymholiadau am y wybodaeth a gyflwynir yn y ddogfen hon drwy e-bost at matt.cosgrove@teamwales.cymru