Dyma fydd y pedwerydd tro i’r Alban gynnal y digwyddiad aml-chwaraeon, a bydd y Gemau’n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst, 2026.

Bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal ar draws pedwar lleoliad o fewn radiws cryno 8 milltir dros 10 diwrnod o gystadlu, gyda 200 o fedalau Aur ar gael ymhlith bron i 3000 o athletwyr ar draws 74 gwlad.

Mae Glasgow 2026 wedi cadarnhau y bydd y rhaglen yn cynnwys dros 80 o ddigwyddiadau ar draws 9 o chwaraeon, gyda chystadlaethau Bocsio i’w cadarnhau yn ddiweddarach.

Bydd y rhaglen chwaraeon gyffrous yn cael ei chynnal yn Arena’r Gymanwlad a Felodrom Syr Chris Hoy, y Scottish Exhibition Centre (SEC), Stadiwm Scotstoun a Chanolfan Nofio Ryngwladol Tollcross.

Bydd gan y rhaglen chwaraeon para y nifer uchaf erioed o 46 o gystadlaethau am fedalau ar draws y 6 champ yn y gemau (Para-Athletau, Para-Nofio, Beicio Trac Para, Codi Pwysau Para, Pêl-fasged Cadair Olwyn 3 x 3 a Para-Fowlio). 

Dywedodd Prif Weithredwr Glasgow 2026, Phil Batty OBE: “Yr hyn sy’n gwneud Gemau’r Gymanwlad mor arbennig i gynifer o bobl yw eu rhaglen chwaraeon gwbl integredig. Rwy’n falch y bydd Glasgow 2026 yn gweld y rhaglen fwyaf o gystadlaethau Para yn hanes y Gemau ac y bydd yn chwarae rhan mor bwysig wrth dyfu, cefnogi a hyrwyddo chwaraeon Para. Mae Glasgow 2026 yn bont i Gemau’r Gymanwlad y dyfodol ac mae gennym weledigaeth glir y bydd yn wahanol, a hynny mewn ffordd wych. Mae rhaglen chwaraeon Glasgow 2026 yn un gyffrous iawn i gefnogwyr yn ogystal ag athletwyr, gyda’r rhaglenni Beicio Trac a Nofio enfawr, ochr yn ochr â dychweliad y Filltir mewn Athletau, cyfoeth o ddisgyblaethau yn cael eu cyflwyno i’r Gemau am y tro cyntaf ar draws y rhaglenni Para-Athletau, Beicio Trac Para a Para-Nofio, heb sôn am y cynnydd mewn timau Pêl-fasged 3×3 a Phêl-fasged Cadair Olwyn 3×3. Rwy’n hyderus, gyda rhaglenni llawn gweithgareddau ar draws pob un o’r pedwar lleoliad yn y ddinas, fod rhywbeth i bawb ei fwynhau. Bydd Glasgow 2026 yn ddathliad o chwaraeon o’r radd flaenaf, yn llawn angerdd, hwyl a chwaraeon rhagorol!”

Mae nifer o newidiadau wedi bod ers y gemau diwethaf a gynhaliwyd yn Birmingham 2022, gan gynnwys dychweliad y ras ‘Miracle Mile’ mewn athletau, na chafodd ei chynnwys mewn rhaglen o gystadlaethau ers Gemau 1966, ac a wnaed yn enwog gan ras hanesyddol Roger Bannister yng Ngemau 1954 yn Vancouver, pan lwyddodd i orffen mewn amser is na 4 munud.  Mae’r rasys cyfnewid cymysg 4x400m hefyd wedi cael eu hychwanegu at y rhaglen athletau. Yn y rhaglen digwyddiadau para, mae nifer o gystadlaethau newydd wedi’u hychwanegu (7 mewn athletau, 2 nofio a 2 beicio), gydag 8 medal para ar gael. Bydd amserlen y felodrom yn fwy prysur nag yn ystod unrhyw gemau eraill, gyda chyfanswm o 26 o fedalau ar gael ar draws pob disgyblaeth. Bydd gan Ganolfan Nofio Ryngwladol Tollcross hefyd y rhaglen nofio fwyaf helaeth yn hanes Gemau’r Gymanwlad, gyda 56 medal yn cynnwys dwy gystadleuaeth newydd am y tro cyntaf, sef rasys Dull Rhydd 800m y dynion a Dull Rhydd 1500m y menywod.

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, y Prif Weithredwr: “Mae cael yr wybodaeth hon yn newyddion gwych i Dîm Cymru. Mae’r rhaglen fanwl yn help gyda’r gwaith cynllunio hanfodol i ni ac i’r chwaraeon unigol, yn ogystal ag i’r athletwyr sy’n gobeithio cael eu dethol. Mae’r amserlen cystadlaethau para estynedig yn ychwanegiad ardderchog i’r hyn sy’n argoeli i fod yn Gemau hanesyddol, gan baratoi’r ffordd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y dyfodol, gan gynnwys y digwyddiad canmlwyddiant yn 2030.”Ar gyfer y rhaglen lawn o gystadlaethau