/

Mewn sectorau â ddominyddir yn draddodiadol gan ddynion fel chwaraeon a busnes, yn hanesyddol, mae menywod wedi’u tangynrychioli mewn rolau arweiniol. Fodd bynnag, mae newid sylweddol ar y gweill wrth i fwy o fenywod dorri rhwystrau a chamu i mewn i swyddi dylanwadol. Trwy ddod â byd chwaraeon a busnes at eu gilydd, mae’r rhaglen hon yn creu gofod amhrisiadwy i fenywod rannu profiadau, goresgyn heriau, a datblygu’r sgiliau, hyder, a gwybodaeth hanfodol i lwyddo mewn arweinyddiaeth.
Amcanion y Rhaglen:
Mae’r fenter wedi’i chynllunio i rymuso menywod mewn rolau arweiniol ymhellach ar draws y byd chwaraeon a busnes:
- Meithrin ymdeimlad o asiantaeth bersonol a hyder fel menywod yn y gweithle.
- Codi ymwybyddiaeth o ddeinameg rhywedd a realiti bob dydd eu hamgylcheddau proffesiynol.
- Cynorthwyo cyfranogwyr i adeiladu cynghreiriau, rhwydweithiau cymorth a phartneriaethau strategol.
- Datblygu’r sgiliau i ddadadeiladu ac i ail-greu amgylcheddau proffesiynol yn seiliedig ar ffactorau sefyllfaol.
- Gwella gallu cyfranogwyr i lywio a ffynnu mewn amgylcheddau gwaith â rhywedd.
Strwythur y Rhaglen:
Bydd y rhaglen yn para blwyddyn, gan gynnwys pedair sesiwn breswyl deuddydd, yn cwmpasu’r themâu allweddol canlynol:
- Y Dirwedd Gymdeithasol.
- Datblygu ei Hunain a Datblygu Eraill.
- Adeiladu Cyd-destunau a Datblygu Asiantaeth.
- Bywyd y dyfodol: Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol a Datblygiad Parhaus.
Yn ogystal, bydd pedair sesiwn ar-lein gan gynnwys sesiwn llythrennedd ariannol gyda RBC Brewin Dolphin.
Nodweddion Unigryw:
Daw’r rhaglen i ben gyda chyfres ddeinamig o gyfweliadau a thrafodaethau panel yn cynnwys anrweinwyr benywaidd ysbrydoledig o fyd busnes a chwaraeon. Bydd y sgyrsiau hyn yn rhoi mewnwelediadau ac ysbrydoliaeth amhrisiadwy i gyfranogwyr wrth iddynt lywio eu teithiau arweinyddiaeth eu hunain.
Sut i wneud cais:
Gweler isod y ffurflenni cais yn Gymraeg a Saesneg. Anfonwch rhain wedi’u cwblhau gyda dogfennau neu ffeiliau ategol i nominations@teamwales.cymru
Ffurflen Gais Rhaglen LeadHERship (Cymraeg)
LeadHERship Programme Application Form (English)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31st Mawrth 2025
Nodyn briffio yn Gymraeg a Saesneg isod:
Nodyn Briffio Rhaglen LeadHERship (Cymraeg)
LeadHERship Programme Briefing Note (English)
