Gemau’r Gymanwlad yn dychwelyd i Glasgow
23 Gorffennaf i 2il Awst
Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad wedi cyhoeddi y bydd Gemau 2026 yn dychwelyd i’r Alban, 12 mlynedd ers i’r ddinas gynnal y digwyddiad aml-gamp yn 2014.
Cynigiodd Gemau Gymanwlad Yr Alban ddull arloesol heb unrhyw arian cyhoeddus, gan fanteisio ar y cyfleusterau sydd yno eisoes, a dilyn llwyddiant Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014, sef y digwyddiad aml-gamp mwyaf erioed yn yr Alban gyda bron i 5000 o athletwyr ar draws 71 o wledydd a thiriogaethau.
Bydd y Gemau’n cael eu hariannu gan fuddsoddiad Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, ac mae Cymdeithas Gemau’r Gymanwlad Awstralia wedi addo buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i bontio unrhyw ddiffyg ariannol. Mae’r Alban wedi cynllunio dewis gwahanol hyfyw ar gyfer Gemau 2026 a bydd yn cyflwyno gwedd newydd ar gyfer y digwyddiad aml-gamp. Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, ynghyd â Gemau Gymanwlad Yr Alban, wedi canolbwyntio ar greu model cydweithredol a chynaliadwy, gyda cyn lleied o gost â phosibl, a lleihau’r ôl troed amgylcheddol.
Nid yw’r amserlen chwaraeon wedi’i chwblhau eto ond yn sicr bydd yn llai na Birmingham 2022, ac er bod y Gemau olaf yn ninas yr Alban wedi cynnal 18 o gampau, bydd model newydd Gemau’r Gymanwlad dipyn yn llai, gan lunio dyfodol y Gemau.
Y campau a gadarnhawyd yw Athletau a Phara Athletau, Nofio a Phara Nofio, Pêl-fasged 3 x 3 a Para Pêl-fasged Cadair Olwyn, Bocsio, Beicio Trac a Phara Beicio, Gymnasteg Artistig, Jiwdo, Bowlio a Phara Bowlio, Codi Pwysau a Phara-codi Pŵer, a Phêl-rwyd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gemau’r Gymanwlad.