Team Wales strengthens leadership ahead of 2018 Games

Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi dau apwyntiad arall i ymuno â’r uwch dîm reoli a fydd yn arwain atheltwyr Cymru i Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018.

Mae Ashleigh Crowter wedi ei benodi’n Rheolwr Tîm Cyffredinol gyda chyfrifoldeb dros gyfathrebu, a Gerwyn Owen yn Rheolwr Tîm Cyffredinol yn gyfrifol am berfformiad. Bydd Gerwyn hefyd yn cyflawni rôl ychwanegol fel Chef de Mission cynorthwyol. Bydd y ddau yn gweithio’n agos gyda Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips, ynghyd â Bwrdd a staff Gemau’r Gymanwlad Cymru cyn, yn ystod ac yn dilyn y Gemau.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ddiweddar mai Dr Gareth Jones fydd y Prif Swyddog Meddygol yn arwain y Tîm Gwasanaethau Meddygol, gyda Sian Knott yn Brif Ffisiotherapydd.

Bydd Gerwyn ac Ashleigh yn cyflawni’r swyddi gwirfoddol hyn yn ogystal â’u swyddi llawn amser gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a BBC Cymru.

Mae Gerwyn wedi bod yn Rheolwr Academi gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ers 2007, ac ers hynny mae wedi cefnogi mwy na 30 o athletwyr Cymreig i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd. Mae’r Academi hefyd wedi cynhyrchu nifer o athletwyr talentog fel Aled Sion Davies a Rhys Jones sydd wedi mynd ymlaen i ennill medalau i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Cychwynnodd Gerwyn ei yrfa ym maes datblygu chwaraeon yn 2002, i ddechrau fel Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru gyda Chyngor Gwynedd, ac yn ddiweddarach fel Swyddog Datblygu Nofio Anabledd Cenedlaethol i’r corff. Yn y rôl honno, bu hefyd yn rheolwr gydag amrywiol dimau yn cynnwys sgwad Cymru a Phrydain, gan deithio ar hyd a lled y byd. Yn 2006 fe’i penodwyd yn Rheolwr Tîm Para Nofio i Dîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Melbourne. Bu hefyd yn Rheolwr Para Chwaraeon i Gymru yng Ngemau Delhi yn 2010 a Glasgow yn 2014.

Mae Ashleigh yn wyneb cyfarwydd i gefnogwyr chwaraeon yng Nghymru. Mae bellach yn Rheolwr Materion Allanol gyda BBC Cymru, ac mae wedi treulio mwy na dwy ddegawd o’i yrfa gyda’r darlledwr cenedlaethol. Hyd y llynedd, roedd yn ohebydd a chyflwynydd chwaraeon i raglen BBC Wales Today gan ddarlledu straeon am chwaraeon cymunedol ac elitaidd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gohebu ar lwyddiant Cymru yn y Gemau Olympaidd yn Beijing ac yn Llundain, yn ogystal â’r perfformiad gorau erioed i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow, dau deitl y Chwe Gwlad i Gymru, Cwpan Rygbi’r Byd a llwybr hanesyddol Cymru i Bencampwriaeth Ewro 2016. Fel cynhyrchydd i BBC Sport Wales, lansiodd fwletin newyddion chwaraeon Cymreig i’r gwasanaeth digidol BBC 2W ac chynhyrchu’r gyfres gyntaf o raglen Sport Wales i BBC Two Wales.

Cathy Williams, a fu’n gweithio fel aelod o staff Gemau’r Gymanwlad Cymru ers Mehefin eleni, fydd y trydydd Rheolwr Tîm Cyffredinol. Bydd hi’n gyfrifol am agweddau gweithredol. Graddiodd Cathy o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gradd mewn Datblygu Chwaraeon. Cychwynnodd ei gyrfa fel Hyfforddwr Personol ac yn ddiweddarach fel athro Addysg Gorfforol cyn symud i fyd newyddiaduraeth a darlledu, yn fwyaf diweddar gyda’r BBC. Mae wedi cyflwyno a gohebu o nifer o ddigwyddiadau chwaraeon sylweddol, yn cynnwys Gemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014.

Meddai’r Athro Nicola Phillips: “Rydyn ni’n hynod falch gyda’r penodiadau diweddaraf yma. Mae Gerwyn ac Ashleigh yn dod â phrofiad helaeth i’r Tîm ac mae’r ddau yn hynod frwd dros chwaraeon Cymru. Maen nhw hefyd wedi cael profiad ymarferol o Gemau’r Gymanwlad. Ynghyd â sgiliau rheoli a threfnu Cathy, mae hwn yn dîm cryf iawn i arwain a chefnogi ein hathletwyr ar y ffordd i Gemau 2018.”

Meddai Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Er mwyn sicrhau bod gan Dîm Cymru y cyfle gorau bosibl i ennill medalau yn 2018, mae’n hanfodol fod gennym gronfa gref o sgiliau ac arbenigedd y tu ôl i’r athletwyr i greu’r amgylchiadau angenrheidiol ar gyfer llwyddiant. Rydyn ni’n lwcus iawn o gael Nicki wrth y llyw fel Chef de Mission ac rydyn ni fel Bwrdd yn arbennig o falch o weld tîm rheoli mor gryf yn cael ei adeiladu o amgylch ei rôl hi. Does dim amheuaeth y bydd y penodiadau hyn yn newydd da iawn hefyd i athletwyr Cymru, eu hyfforddwyr a’r cyrff llywodraethu sy’n gweithio gyda nhw i baratoi ar gyfer y Gemau.”