CGW reaction to decision on 2026 Games

Heddiw, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau 2026.

Er yn siomedig gyda’r penderfyniad, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i flaenoriaethu adolygiad o ddarpariaeth cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru ac i ystyried cyfleoedd bidio yn y dyfodol.

Ers 2012, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid – gan gynnwys Llywodraeth Cymru – i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer bidio am, a chynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru. Roedd canlyniad yr astudiaeth hon yn gadarnhaol ac eleni gwnaethpwyd gwaith pellach ar achos busnes manwl yn cynnwys sgôp y Gemau petaent yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Meddai Helen Phillips, sy’n cadeirio Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Yn naturiol rydym yn siomedig o glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chefnogi cais i Gymru gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026. Mae Cymru yn genedl sy’n falch o garu chwaraeon ac rwy’n siŵr y byddai wedi cefnogi gwneud cais ond oherwydd ansicrwydd economaidd rydym yn deall efallai nad nawr yw’r adeg iawn.

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau chwaraeon ar draws Cymru, ac i edrych ar opsiynau ar gyfer cylchoedd bidio yn y dyfodol. Cawsom ein calonogi gan y gefnogaeth drawsbleidiol i’r uchelgais o ystyried gwneud cais a byddwn yn parhau i weithio gyda’r Llywodraeth ac eraill i edrych ar y posibilrwydd i Gymru ymgeisio ar gyfer cynnal Gemau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd: “Fe wnaethom adolygu nifer o opsiynau gan gynnwys cynnal Gemau drwy Gymru Gyfan, yn y De a Gogledd Ddwyrain Cymru, a Gemau yn y De yn unig, gan gadw mewn cof bob amser beth fyddai’n denu pleidleisiau gan Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad eraill a beth fyddai’n denu athletwyr gorau’r Gymanwlad. Mae’r holl waith caled a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos y gallai Cymru ddatblygu cais buddugol a chynnal Gemau’r Gymanwlad ffantastig. Byddai hyn yn dod â manteision i’r genedl gyfan yn enwedig o ran iechyd a lles, gyda’r rhaglen ‘Cymru Egnïol’ a fyddai’n rhan o’r daith tuag at y Gemau.”

Meddai Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru, a fu’n gweithio ar yr astudiaeth dichonoldeb: “Hoffem ddiolch i Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r datblygiadau arloesol a gynigiwyd gennym ni.

“Hoffem hefyd ddiolch i’r holl bobl yng Nghymru sydd wedi cyfrannu eu hamser ac yn anad dim eu cefnogaeth i’r astudiaeth dichonoldeb. Er bod penderfyniad y Llywodraeth ynghylch Gemau 2026 yn siom, rydym yn hyderus y bydd Cymru yn bidio yn y dyfodol – a byddwn yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o wneud i hynny ddigwydd pan ddaw’r amser iawn.”

Meddai David Grevemberg CBE, Prif Weithredwr Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad: “Rydym yn amlwg yn siomedig o glywed na fydd Cymru’n cynnig ei hun i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026 pan fydd y broses bidio’n dechrau yn 2019. Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru, mewn cydweithrediad â’i bartneriaid yn y Llywodraeth, wedi gweithio’n galed i osod sylfeini ar gyfer cyflwyno cais am Gemau deinamig, arloesol a chynhwysol a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i gefnogi eu hymdrechion i ddod â Gemau’r Gymanwlad yn ôl i Gymru yn y dyfodol. Rydym nawr yn edrych ymlaen yn frwd at weithio gyda dinasoedd a phartneriaid eraill y Gymanwlad dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r cyfnod yn arwain at broses bidio 2026.”