TEAM WALES SETS UP ATHLETES’ COMMISSION IN THE 500 DAY RUN UP TO GOLD COAST

Mae paratoadau Tîm Cymru wedi hen gychwyn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia, a gyda dim ond 500 diwrnod i fynd mae Comisiwn Athletwyr wedi cael ei sefydlu. Pwrpas y Comisiwn yw cysylltu athletwyr gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru, y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddethol ac anfon athletwyr elitaidd i gystadlu dros Gymru yn y Gemau. 

Bydd y grwp o athletwyr, sy’n cynrychioli gwahanol chwaraeon, yn gweithio gyda’r gymnast Frankie  Jones, sy’n aelod o Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, er mwyn rhoi adborth yn ymwneud â phob math o faterion a allai effeithio ar athletwyr. Mae’r grwp yn cynnwys Aled Sion Davies ar ran Chwaraeon Anabledd Cymru; Hannah Powell ar ran codi pwysau; Charlotte Carey, tenis bwrdd; David Phelps, saethu; Rhys Williams o athletau a Bethan Dyke ar ran pêl rwyd.

Bydd y Comisiwn Athletwyr yn trafod materion o bwys i athletwyr ac yn rhoi awgrymiadau a syniadau i’r Bwrdd trwy Frankie er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon posibl ar y ffordd i’r Arfordir Aur.

Meddai Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips: “Mae ein Comisiwn Athletwyr yn grwp cryf, sy’n cynrychioli pob math o athletwyr. Bydd hyn, heb os nag oni bai, yn sicrhau bod safbwyntiau eu cyd-gystadleuwyr yn ganolog i waith y Bwrdd wrth gynllunio ar gyfer Gemau 2018. Yn ogystal â chystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad deirgwaith, mae Frankie wedi profi ei hun yn aelod ymroddedig a medrus o’r Bwrdd. Rwy’n gwbl hyderus y bydd hi’n rhoi arweiniad i’r grwp er mwyn cyfleu barn athletwyr Cymru a chreu’r amgylchiadau gorau bosibl ar gyfer llwyddiant Tîm Cymru yn 2018.”

Y dasg gyntaf i’r Comisiwn fydd rhoi adborth ar y cit ar gyfer Gemau 2018. Wrth ymateb i’w rôl gyda’r Comisiwn, dyma a oedd gan yr aelodau i’w ddweud:

Aled Sion Davies: “Rwy’n hynod iawn o falch o gael y gwahoddiad i fod yn rhan o’r Comisiwn. Yn dilyn fy amser fel Capten Tîm yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014 rwy’n ymwybodol iawn o’r gwahanol anghenion sydd gan athletwyr yn ystod y Gemau. Bydd y profiad hwn, a fy mhrofiad personol fy hun, yn werthfawr wrth gefnogi gwaith y Comisiwn er mwyn creu’r amgylchedd gorau bosibl i athletwyr y dyfodol berfformio dros eu gwlad.”

Charlotte Carey: “Mae bod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad fel athletwr yn fraint ynddo’i hun, ond mae cael rôl gyda’r Comisiwn Athletwyr, a bod yn llais dros athletwyr Cymru i wneud y profiad yn y Gemau yn berffaith i ni gyd, hyd yn oed yn well.”

David Phelps: “Cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yw uchafbwynt fy ngyrfa mewn chwaraeon. Cynrychioli fy ngwlad, fy nghenedl, fy nhreftadaeth, fy nghamp, sy’n fy ngyrru i gyflawni a chystadlu ar y lefel uchaf y galla i. Mae’n hollol wych cael y fraint o fod yn rhan o’r Comisiwn Athletwyr, i helpu’r Tîm a fy ngwlad. Gobeithio y gallaf wneud cyfraniad cryf wrth hyrwyddo’r Gemau, Cymru a chwaraeon yn gyffredinol. Mae Cymru’n cael ei gweld fel cenedl gyfeillgar yn y Gemau – rwyf fi wir am weld hynny’n parhau, gan greu cysylltiadau ar draws gwledydd y Gymanwlad.” 

Rhys Williams: “Mae bob amser wedi bod yn fraint cael cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae bod yn rhan o’r Comisiwn Athletwyr yn rhoi cyfle i mi ymwneud ymhellach gyda Gemau’r Gymanwlad ac i rannu fy mhrofiadau a dylanwadu’n bositif ar lwyddiant timau yn y dyfodol.”

Bethan Dyke: “Mae Gemau’r Gymanwlad yn binacl argyfer ein gêm ni ac mae’n fraint bod yn rhan o’r Comisiwn Athletwyr wrth edrych ymlaen at Gemau 2018, a chael llais dros bêl rwyd ac athletwyr eraill Cymru.”

Hannah Louise Powell: “Rwyf i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r Comisiwn Athletwyr. Rwy’n wirioneddol gredu bod gan athletwyr safbwyntiau gwerthfawr iawn yn deillio o’u profiadau, ac o’u hystyried gallwn ni wneud pethau’n well byth ar gyfer y dyfodol. Mae medru helpu trwy fod yn llais i athletwyr gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gyfle gwych i mi’n bersonol ac yn ffordd i mi roi rhywbeth yn ôl. Mae Gemau’r Gymanwlad yn arbennig iawn, ac i lawer, dyma uchafbwynt eu gyrfa. Am y rheswm yma, mae’n bwysig cadw safonau sy’n cyrraedd disgwyliadau’r athletwyr. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at roi o fy ngorau i sicrhau bod gan Dîm Cymru bopeth mewn lle i gael Gemau llwyddiannus yn 2018.”