Team wales appoints chef de mission for youth games

Mae Nicola Phillips wedi cael ei enwi fel Chef de Mission Tîm Cymru ar gyfer y 2015 Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Samoa.

Bydd Nicola yn arwain Tîm Cymru yn y digwyddiad chwaraeon mawr yma yn Samoa ym mis Medi, gan gymryd gyda hi gyfoeth o brofiad Gemau’r Gymanwlad ar ôl gweithio gyda Thîm Cymru mewn rolau tîm ac arweinyddiaeth dros wyth Gem, gan gynnwys bod yn Dirprwy Chef de Mission i Dîm Cymru diwethaf yn Glasgow 2014.

Mae hefyd wedi cael profiad aml-chwaraeon eraill ar ôl bod yn ffisio yn tri Gemau Olympaidd, yn ogystal â dau gwersylloedd paratoi cyn y Gemau Olympaidd diweddaraf.

Mae Nicola yn eistedd ar bwrdd Gemau’r Gymanwlad ac hefyd yn Llywydd Ffedarasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapi Chwaraeon.

“Mae’n fraint i gael fy newis fel Chef de Mission ar gyfer y Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Samoa. Mae’r gemau yn gyfle gwych i athletwyr ifanc datblygu ac i ennill brofiad aml-chwaraeon ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd chwaraeon.

Felly, rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda tîm brwdfrydig o athletwyr a swyddogion dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer mis Medi 2015.”

Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips:

“Mae’r bwrdd yn falch iawn i benodi Dr Nicola Phillips fel Chef de Mission i Dîm Cymru yn Samoa. Mae ganddi proffesiynoldeb a llwyth o brofiad amgylchedd aml-chwaraeon. Fel Dirprwy Chef de Mission yn Glasgow, mae gennyf pob hyder bydd Nicola’n cefnogi’n athletwyr yn effeithiol ac yn llwyddiannus ac bydd gyda hi llawn cefnogaeth Prif Swyddog Gweithredol, Chris Jenkins a finnau.”