Team Wales announce star ambassadors

Gyda llai na deugain diwrnod i fynd nes bod Tim Cymru’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia, mae’r tim wedi cyhoeddi dau lysgennad enwog.

Mae Becky James, ennillydd medal aur dwbl Olympaidd a chyn feiciwr trac Cymru yn ymuno â Christian Malcolm, cyn-athletwr Cymru a hyfforddwr personol, fel llysgenhadon swyddogol Tim Cymru.

Mae’r ddau yn gobeithio rhannu eu brofiadau ac ysbrydoli’r tim o 200+ cyn digwyddiad swyddogol i ffarwelio â Thîm Cymru, sy’n digwydd yn Stadiwm y Principality ar Fawrth 1af.

Dywedodd Becky James:

“Mae’n anrhydedd i fod yn rhan o Dîm Cymru. Collais i allan o fod yn rhan o’r tim ar gyfer y Gemau yn Glasgow 2014 ac felly rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r athletwyr y tro hwn. Does dim byd tebyg i Gemau’r Gymanwlad ac rwy’n siwr bod yr holl athletwyr yn gyffrous ac yn nerfus iawn yn y mis sy’n rhedeg lan at y Gemau. Fy nghyngor fyddai i ganolwyntio, paratoi fel y byddwch fel arfer ond yn fwy na dim- mwynhewch y profiad.”

Meddai Christian Malcolm:

“Mae cynrychioli Cymru yn gyfle mor arbennig ac rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r tîm – nid yn unig fel hyfforddwr ond hefyd fel llysgennad. Gyda phrofiad, rydw i wedi dysgu bod angen credu’n gryf iawn yn eich gallu i berfformio ac mae angen mwynhau’r profiad. Mae gwisgo’r ddraig ar eich crys yn achlysur bythgofiadwy – mae’n ymwneud â bod yn un tîm sydd yn ysbrydoli cenedl nôl adref.”

Mae’r Gemau yn dechrau ar y 4ydd o Ebrill yn Awstralia ac yn gorffen ar y 15eg. Dilynwch Dîm Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.