Swyddi Bwrdd
Mae Helen Phillips MBE, y Cadeirydd sy’n ymadael a ni yn lansio proses recriwtio ar gyfer ei holynydd yn ogystal â nifer o swyddi eraill ar gyfer Cyfarwyddwyr Anweithredol i ymuno â’r Bwrdd wrth i’w chyfnod hi ac eraill ddod i ben.
Yn ôl Helen Phillips: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i Gemau’r Gymanwlad Cymru a dwi’n falch dros ben o fod wedi cael arwain y sefydliad yn ystod y 9 mlynedd diwethaf, gan ddechrau am gyfnod dros dro, ac yna fel Cadeirydd yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf. Hoffwn ddiolch i’r aelodau am eu cymorth diwyro a hefyd i gyfarwyddwyr y gorffennol a’r presennol – bu’n bleser cael gweithio gyda nhw. Mae’r gwaith yn gofyn am Gadeirydd sy’n angerddol dros Gymru ac sy’n angerddol dros chwaraeon – rhywun sydd â dymuniad diwyro i wneud y gorau dros ein hathletwyr a chwaraeon cysylltiol eraill. Rydym wedi cyflawni cymaint. Mae’r cyfle gennym i gyflawni llawer mwy. Ar ôl i ni recriwtio Rebecca Edwards-Symmons fel ein Prif Swyddog Gweithredol newydd yn ddiweddar, fe fydd hi’n bosib pennu strategaeth newydd ar gyfer y sefydliad. Bydd hyn yn gyfle i adeiladu ar y gwaith gwych sy’n cael ei gyflawni gan bob un o’n rhanddeiliaid. Bydd yn gyfle gwych i greu sefydliad a fydd â chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o arwain datblygiad chwaraeon yng Nghymru ac yn y Gymanwlad.”
Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol a gynhaliwyd yn ddiweddar, gyda chymorth ein partneriaid, fe ddiweddarwyd yr Erthyglau Cymdeithasu fydd yn ein galluogi yn awr i sefydlu dulliau llywodraethu da. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym fwrdd rheoli cytbwys sy’n seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth. Un o’r newidiadau hynny yw newidiadau yng nghyfansoddiad y Bwrdd sef:
- 1 Cadeirydd Anweithredol Annibynnol, a hysbysebir ac a benodir gan y bwrdd
- 2-6 o Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol, a hysbysebir ac a benodir gan y bwrdd.
- 3 o Gyfarwyddwyr Anweithredol Etholedig, a enwebir ac a benodir gan yr aelodau
- 2 o Gyfarwyddwyr Athletwyr Penodedig (Un o’r rhain yw Cadeirydd ein Comisiwn Athletwyr)
Fe ychwanegodd Helen: “Bydd y rolau newydd hyn â rhan hollbwysig yn nyfodol Gemau’r Gymanwlad Cymru. Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ac yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad. Mae Gemau’r Gymanwlad yn ddigwyddiad sy’n ymwneud â llu o wledydd a nifer fawr o chwaraeon. Caiff y Gemau eu cynnal bob pedair blynedd a bydd athletwyr elît Gwledydd y Gymanwlad yn cymryd rhan ynddyn nhw. Fel arfer, mae tua 4,500 o athletwyr yn mynychu Gemau’r Gymanwlad. Bydd y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn arwain Gemau’r Gymanwlad Cymru ac yn ysgwyddo rôl weithredol yn natblygiad strategol y sefydliad ar gyfer y dyfodol, ar lefel y Bwrdd, gan gysylltu â rhanddeiliaid a chynorthwyo Prif Swyddog Gweithredol a thîm gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru. Mae aelodau’r bwrdd yn ymwybodol o’r newidiadau o ran y trefniadau pontio fydd yn dilyn i ran eu swyddogaethau hollbwysig. Maen nhw wedi bod yn cynllunio ar gyfer creu olyniaeth yn ystod y cyfnod hwn er mwyn paratoi ar gyfer y penodiadau a’r etholiadau fydd yn dilyn. Hefyd, mae’r bwrdd yn bwriadu sicrhau y rhoddir cymorth a chefnogaeth effeithiol i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Cadeirydd newydd mewn perthynas â throsglwyddo gwybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer pob rôl yw 24 Chwefror, 2023. Mae’r manylion ar gyfer pob rôl i’w gweld isod:th February and you can find the links to all roles below:
For further information:
Briff Ymgeisydd Cadeirydd http://bitly.ws/AmHN
Cyfarwyddwyr Anweithredol http://bitly.ws/AmI3
Cynrychiolydd Athletwyr http://bitly.ws/AmHN
Briff Ymgeisydd Cadeirydd – http://bitly.ws/AmH
Briff yr Ymgeisydd Cyfarwyddwyr Bwrdd Anweithredol- http://bitly.ws/AmI3
Briff Ymgeisydd Cyfarwyddwr Anweithredol – Cynrychiolydd Athletwyr http://bitly.ws/AmHN