CGW welcomes news that Birmingham is to host 2022 Games

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi croesawu’r newyddion mai Birmingham fydd lleoliad Gemau’r Gymanwlad 2022.

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad: “Rydyn ni’n hapus iawn o glywed bod Birmingham wedi cael ei dewis fel y ddinas lle bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn 2022. Rydyn ni wedi bod yn gefnogol iawn i unrhyw fid gan Loegr ers i Durban orfod tynnu’n ôl y gynharach eleni. 

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Thîm Lloegr a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses hyd yma. Dymunwn bod llwyddiant iddyn nhw ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi Gemau’r Gymanwlad Lloegr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Gemau.  

“Perfformiodd Tîm Cymru yn ardderchog yn y Gemau yn Glasgow yn 2014, sef y tro diwethaf i’r Gemau fod ym Mhrydain. Mewn partneriaeth â’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a Chwaraeon Cymru, byddwn yn awr yn anelu at wneud hyd yn oed yn well pan fydd y Gemau yn Birmingham yn 2022.

“Yn y cyfamser, ein blaenoriaeth yw paratoi ar gyfer Gemau 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia, gan sicrhau bod popeth yn ei le i alluogi ein hathletwyr i wneud eu gorau.”