Record numbers for Team Wales with the Youth Engagement Programme

Y Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid, menter ddeinamig sy’n dod ag athletwyr elît y Gymanwlad yn uniongyrchol i ysgolion ledled Cymru. Fel rhan o’r rhaglen hon, mae Tîm Cymru yn ysbrydoli ac yn grymuso’r genhedlaeth nesaf drwy sesiynau rhyngweithiol a gweithgareddau difyr. Yn ogystal â’n sesiynau chwaraeon, mae’r rhaglen yn ehangu i roi cyflwyniadau, gwasanaethau a sesiynau Holi ac Ateb sy’n ymchwilio i bynciau pwysig fel bwyta’n iach, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, perfformiad a chyfleoedd am yrfaoedd mewn chwaraeon. Mae’r trafodaethau hyn yn hyrwyddo lles corfforol ac yn meithrin dealltwriaeth. Gellir cyflwyno ein holl sesiynau yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Ddwyieithog. Rhwng Hydref 2023 ac Ebrill 2024, mae ein hymdrechion estyn allan wedi arwain at gyfanswm o 335 o sesiynau. Trwy’r sesiynau hyn, rydym wedi estyn allan at dros 22,000 o fyfyrwyr.

Mae’r ymweliadau ag ysgolion yn cwmpasu gwahanol leoliadau, o ganolfannau trefol i gymunedau gwledig, ac mae pob ymweliad wedi’i deilwra i thema neu destun diddordeb yr ysgol. Waeth beth fo’r maint na’r lleoliad, mae pob ymweliad yn gyfle i gysylltu â myfyrwyr a rhannu gwerthoedd gwaith tîm, ymroddiad a dyfalbarhad. Yn rhyfeddol, nid oedd dros 50% o’r ysgolion/clybiau y bu inni ymweld â hwy wedi cael unrhyw ymweliadau blaenorol gan unrhyw un ar wahân i bêl-droed. Mae’r ystadegyn hwn yn tanlinellu’r effaith sylweddol mae ein rhaglen yn ei chael ar hyrwyddo cynhwysiant o fewn y byd chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r athletwyr yn cynrychioli ystod eang o chwaraeon a chefndiroedd, gan ddod ag amrywiaeth i bob ymweliad. O ysgolion cynradd i golegau, ysgolion anghenion arbennig a diwrnodau gyrfa, i glybiau chwaraeon ac ieuenctid.

Mae Tîm Cymru yn mynd ar deithiau ffordd i ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru trwy’r flwyddyn. Mae hyn yn ein galluogi i ymestyn ein cyrhaeddiad a chysylltu â chynifer o bobl ifanc â phosibl ledled y wlad. Rydym wedi teithio ar hyd a lled Cymru o Lanelli i’r Rhyl, Ynys Môn ac Aberystwyth, i Aberdaugleddau a Chymoedd y Rhondda.

Mae’r rhaglen hefyd yn gyfle i ysbrydoli disgyblion am lwybrau gyrfa posibl mewn chwaraeon ac addysg uwch. Mae ein prif bartner, Met Caerdydd, yn cynnig cyrsiau chwaraeon eithriadol sy’n ysgogi cyfleoedd posibl i weithio yn y diwydiant chwaraeon. Gall myfyrwyr archwilio’r cyfleoedd gwych hyn ymhellach: Chwilio Canlyniadau (metcaerdydd.ac.uk)

Mae cynaliadwyedd yn flaenoriaeth allweddol drwyddi draw yn y rhaglen; rydym yn teithio i ysgolion mewn car trydan, a ddarperir gan ein partner, Nathaniel Cars. Mae’r dewis eco-ymwybodol hwn yn lleihau’r ôl-troed carbon ac yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrifoldeb amgylcheddol i ddisgyblion.

Yn ogystal â’r ymweliadau ag ysgolion a chlybiau, mae Tîm Cymru wedi gweithio ar y cyd â phartneriaid i gynnig cystadlaethau unigryw er budd ysgolion, megis ennill offer chwaraeon a dylunio graffeg wal pwrpasol ar gyfer ysgolion.

Mae’r rhan sy’n weddill o flwyddyn academaidd 2023/2024 bellach yn llawn, sy’n pwysleisio’r diddordeb a’r galw am raglen o’r fath mewn ysgolion a chlybiau ledled Cymru.

I archebu ymweliad ar gyfer y tymor newydd o fis Medi 2024, ewch i: https://t.co/rHFW5nSzV4