Rhagor o Athletwyr Tîm Cymru yn Ennill eu Lle!

Gemau’r Gymanwlad Cymru yn cadarnhau’r 11 Para-athletwyr cyntaf a fydd yn cystadlu yn Birmingham yr haf hwn

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn falch o gyhoeddi bod un ar ddeg o athletwyr wedi cymhwyso i gynrychioli Cymru yn y cystadlaethau Para-Nofio, Tenis Bwrdd, Triathlon, a Bowls Lawnt IV yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022.

Bydd Grace Williams a Joshua Stacey yn cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Para-Tenis Bwrdd, a gynhelir yn yr NEC. Birmingham 2022 fydd ymddangosiad cyntaf Grace i Dîm Cymru, tra bod Joshua Stacey wedi sicrhau medal efydd ar yr Arfordir Aur yn 2018.

Hyfforddwr Cenedlaethol Tenis Bwrdd Cymru Josh Morgan:“Rydyn ni yn Tenis Bwrdd Cymru yn falch iawn o gael Grace a Josh yn rhan o’n tîm ar gyfer Birmingham 2022. Mae’n glod i’r gwaith caled mae’r chwaraewyr a’u tîm hyfforddi wedi’i wneud, sydd wedi golygu eu bod yn ennill lle yn y gemau. Cafodd Josh ganlyniad gwych, gan ennill medal efydd, 4 blynedd yn ôl yn Awstralia ac rydyn ni’n falch bod ein cynrychiolaeth Para wedi tyfu ar gyfer Birmingham.”

Bydd Para-Nofio yn digwydd yng Nghanolfan Dŵr Sandwell, a’r pedwar athletwr sydd wedi cymhwyso yw; Lily Rice yn 100m Nofio ar y Cefn S8 y Merched, Dylan Broom yn 200m Dull Rhydd S14 y Dynion, gyda Rebecca Lewis a Meghan Willis ill dwy’n cystadlu yn 200m Dull Cymysg SM10 Unigol y Merched.

Dywedodd Ross Nicholas, Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru:

Rydyn ni’n hynod falch o’r nofwyr para sydd wedi ennill eu lle ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad y nofwyr a’u timau hyfforddi. Mae gweld pedwar nofiwr para yn dod o dri o’n Clybiau Perfformio wir yn dangos y dyfnder a’r ansawdd o fewn ein rhwydwaith Clwb Perfformio, ac allwn ni ddim aros i’w gweld yn rasio yn Birmingham yr haf hwn. Rydyn ni wedi neilltuo cryn dipyn o amser ac adnoddau i ddatblygu Para-Nofio yn genedlaethol ac rydyn ni’n ymlaen at gefnogi’r nofwyr hyn fel rhan o’r tîm ehangach sy’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Ychwanegodd Matt Kendrick, Rheolwr Llwybr Para Cenedlaethol Nofio Cymru:

Mae hyn yn gamp wych i Dylan Broom, Meghan Willis, Lily Rice a Rebecca Lewis a fydd yn cynrychioli Cymru yn Birmingham yng Ngemau’r Gymanwlad. Rydyn ni wedi gweld cyfnod o dwf sylweddol mewn para-nofio yn genedlaethol ac rydyn ni’n hynod falch o gael cynrychiolaeth ar draws nifer o ddosbarthiadau a nifer o ddigwyddiadau yn y Gemau yr haf hwn. Rwyf am gydnabod a diolch i hyfforddwyr y Clwb Perfformio sy’n gweithio gyda’n nofwyr para cymwys; Nick Russell (Nofio Sir Benfro), Keith Morgan (Sgwad Nofio Perfformiad Rhondda Cynon Taf) ac Ian Rosser (Dolffiniaid Torfaen) sydd i gyd wedi cofleidio ac ysgogi diwylliant cynhwysol o berfformiad uchel o fewn eu rhaglenni clwb priodol. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i gydnabod y gwaith rhagorol y mae ein Hyfforddwr Para-Nofio Arweiniol, Aled Davies, wedi’i wneud i sicrhau bod ein para-nofwyr yn y sefyllfa hon.

Mae dau bâr o athletwyr o Gymru wedi cymhwyso ar gyfer y Para-Bowlio Lawnt gyda Pharc Fictoria, Royal Leamington Spa yn cynnal y digwyddiad. Bydd Julie Thomas (Cyfarwyddwr, Mark Adams) a Gordon Llewelyn (Cyfarwyddwr, John Wilson) yn cystadlu yn y Parau Cymysg VI. Enillodd Julie Thomas, a gefnogwyd gan John Wilson fel Cyfarwyddwr ar yr Arfordir Aur yn 2018, Efydd yn y Parau Cymysg VI ochr yn ochr â Gilbert Miles. Bydd Paul Brown a Chris Spriggs yn cystadlu gyda’i gilydd yn y Parau i Ddynion Para.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Julie, Gordon, Paul a Chris wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn Birmingham 2022. Mae’n gyflawniad gwych ac yn haeddiannol iawn, maen nhw’n parhau i ymrwymo i raglen baratoi lawn, ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddynt yn eu nod o ddod â medal yn ôl i Gymru. Mae pawb yn nhîm ehangach Bowlio Lawnt Cymru, yn athletwyr ac yn gefnogwyr, y tu ôl iddyn nhw ac rydyn ni’n gobeithio y bydd eu dewis yn ysbrydoli ac yn arddangos bowlio fel camp gynhwysol i bawb” Stephen Rees, Prif Hyfforddwr Para-Bowlio Lawnt Cymru

Yn y digwyddiad Para-Triathlon, mae Rhys Jones wedi cymhwyso ar gyfer PTVI y Dynion, gan ddod yn bara-triathletwr cyntaf erioed Tîm Cymru mewn Gemau. Cynhelir y digwyddiad Triathlon ym Mharc Sutton, Sutton Coldfield.

Pennaeth Perfformiad Triathlon Cymru, Louis Richards “Mae Rhys ar fin creu hanes fel Para-triathletwr cyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Bu’n fraint ei gefnogi wrth iddo weithio tuag at gymhwyso ac mae ei ymroddiad a’i broffesiynoldeb tuag at hyfforddi wedi bod heb ei ail. Mae poblogrwydd Para-triathlon yng Nghymru yn parhau i dyfu ac rwy’n gobeithio y bydd Rhys ynghyd â digwyddiad Cyfres Para-Triathlon y Byd a gynhelir yn Abertawe yn ddiweddarach eleni yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Bara-triathletwyr Cymreig.”

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod 23 o athletwyr bellach wedi’u henwi ar gyfer Tîm Cymru, gyda gweddill yr athletwyr sydd wedi ennill eu lle ac sydd wedi’u dewis yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru “Llongyfarchiadau i’r holl athletwyr sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw. Mae’r 11 athletwr ar draws y pedair camp sydd wedi cymhwyso i gystadlu yn Birmingham wedi dangos eu bod yn yr hwyl ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n creu effaith fawr yr haf hwn. Mae’n wych gweld Joshua Stacey o Tennis Bwrdd a Julie Thomas o Bowlio Lawnt yn ôl yn y tîm, y ddau wedi dod adref gyda medalau yn 2018 ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n defnyddio eu profiad o’r Gemau bedair blynedd yn ôl pan fyddant yn dechrau cystadlu yr haf hwn. Mae hefyd yn gyffrous iawn gweld cymaint o wynebau newydd yn y cyhoeddiad heddiw, mae’n glod i bob un o’r athletwyr a’u tîm cymorth eu bod wedi ennill eu lle ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.”

Gallwch ddilyn taith Tîm Cymru i Birmingham 2022 ar draws eu sianeli cyfryngau cymdeithasol: Teamwales.cymru / @TeamWales / #TeamWales / #TîmCymru