Jazz Carlin flies the flag for Wales down under

Mae Tîm Cymru wedi enwi Jazz Carlin, enillydd dwy fedal Olympaidd a medal aur Gemau’r Gymanwlad, fel chwifiwr y Ddraig Goch ar gyfer seremoni agoriadol Gemau 2018.

Bydd Jazz yn arwain 200+ o athletwyr Tîm Cymru yn ystod y seremoni a fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Carrara.

Gemau’r Arfordir Aur fydd y pedwerydd tro i Jazz gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad. Yn Delhi yn 2010 enillodd y fedal arian yn y nofio rhydd 200m a’r efydd yn y 400m rhydd.

Bedair blynedd yn ddiweddarach yn Glasgow, enillodd y fedal aur yn y pwll – y fenyw gyntaf o Gymru i wneud hynny ers Pat Beavan yn 1974.

Yn 2016, enillodd ddwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn y nofio rhydd 400m a’r 800m.

Meddai Jazz Carlin: “Mae’n fraint o’r mwyaf cael y cyfle i arwain Tîm Cymru 2018 yn ystod y seremoni agoriadol. Mae’n golygu cymaint i mi gael cystadlu dros Gymru ac mi fydd hyn yn gychwyn arbennig iawn i fy mhrofiad yma yn yr Arfordir Aur.

“Mae’r hyfforddi’n mynd yn dda iawn. Dyma fydd y pedwerydd tro i mi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad felly rwy’n dechrau teimlo fel un o’r athletwyr hŷn erbyn hyn!

“Rwy’n meddwl eich bod yn gwerthfawrogi’r profiad o fod yn y Gemau yn fwy gydag oed. Mae gen i atgofion melys iawn o Glasgow, a oedd yn ddigwyddiad cwbl anhygoel. Yn amlwg, fel gydag unrhyw gystadleuaeth, rwy’n anelu am le ar y podiwm.

“Mi fuon ni’n hyfforddi’n galed iawn am gyfnod ond rydyn ni wedi bod yn cymryd pethau’n ysgafnach dros yr wythnosau diwethaf yn barod ar gyfer y cystadlu – alla i ddim disgwyl i’r Gemau gychwyn.”

Meddai Nicola Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru: “Mae chwifio’r faner dros Dîm Cymru yn brofiad unigryw ac rwy’n falch iawn fod Jazz yn cael y cyfle hwn yma yn yr Arfordir Aur.

“Ein nod fel Tîm yw ysbrydoli eraill ac mae Jazz yn sicr yn ysbrydoliaeth i lawer! Mae ei gwaith caled a’i hymroddiad yn arbennig – mae hi wedi wynebu a goresgyn heriau gan berfformio’n ardderchog ac ysbrydoli’r genedl.

“Mae hwn yn gyfle i ddathlu ei llwyddiannau a’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn ei gyrfa hyd yma. Rwy’n gobeithio y bydd gwylio Jazz a’r Tîm yn y seremoni agoriadol yn ysbrydoli ac yn ysgogi pobl yn ôl adref yng Nghymru i’n cefnogi trwy gydol y Gemau.”

Bydd Jazz Carlin yn cystadlu yn y nofio rhydd 200m, 400m ac 800m ac yn y ras gyfnewid 4x200m.

Cynhelir Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018 rhwng 4-15 Ebrill 2018.