GC2018: A look ahead to the first day

Ar ôl Seremoni Agoriadol anhygoel yn Stadiwm Carrara, edrychwn ymlaen at ddiwrnod cyntaf y cystadlu i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018…

Bydd y Capten Non Stanford yn arwain y ffordd i Dîm Cymru ar ddiwrnod cyntaf prysur o gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

Bydd y driathletwraig o Abertawe, sy’n gyn-bencampwr Cyfres y Byd, yn rasio am 0930 (0030 BST) gyda’r gobaith o ennill medal gyntaf Cymru yn y Gemau.

Bydd cyfle i ennill medalau ar y diwrnod cyntaf yn y pwll a’r felodrôm hefyd.

Mae Daniel Jervis, a enillodd fedal efydd yn Glasgow, yn anelu at gyrraedd ffeinal y ras 400m dull rhydd (1937 amser lleol; 1037 BST), a bydd Ellena Jones a Kathryn Greenslade yn cystadlu yn y 200m dull rhydd i ferched. Bydd Jack Thomas ac Alex Rosser yn cystadlu yn rhagras 200m dull rhydd categori S14 y dynion am 1113 (0213 BST) gan obeithio cyrraedd y ffeinal gyda’r nos.

Bydd James Ball a’i beilot Pete Mitchell yn anelu at le ar y podiwm yn Felodrôm Anna Meares yn Brisbane yn ffeinal y treialon amser 1000m i athletwyr gyda nam ar eu golwg (1906 amser lleol, 1006 BST).

Bydd athletwr ieuengaf Tîm Cymru, y chwaraewraig tenis bwrdd 11 oed Anna Hursey, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Gemau, wrth iddi ymuno â Charlotte Carey a Chloe Thomas mewn gêm tîm grŵp 3 yn erbyn Awstralia (1600 amser lleol; 0700 BST).

Bydd yn foment hanesyddol wrth i gapten tîm hoci’r merched, Leah Wilkinson, arwain carfan Cymru i gêm pwll A yn erbyn India (0930 amser lleol; 0030 BST). Bydd yn ennill ei 142fed cap a fydd yn ei gwneud y chwaraewraig hoci merched sydd wedi chwarae’r nifer fwyaf o gemau i Gymru. Ar yr un diwrnod bydd ei chyd-chwaraewyr Izzy Howell a Caro Hulme, sydd ill dwy ond yn ddeunaw oed, yn chwarae am y tro cyntaf i’r garfan hŷn.

Bydd tîm hoci’r dynion yn cychwyn ar eu hymgyrch yn erbyn Pakistan ym mhwll B (1932 amser lleol; 1032 BST).

Hefyd yn digwydd ddydd Iau 5ed Ebrill:

• Bydd y bocsiwr 64kg Billy Edwards, o Glwb Dyffryn ym Mae Colwyn, yn wynebu Alston Ryan o Antigua yn Stiwdios Oxenford (1232 amser lleol; 0032 BST)

• Yn y bowlio lawnt, bydd Laura Daniels yn chwarae dwy gêm Sengl, a bydd cystadleuaeth Triawdau a Pharau y dynion, Parau Cymysg B2/B3, Triawdau B6/B7/B8 a Phedwarawdau’r Merched hefyd yn cael eu cynnal.

• Bydd Tesni Evans, a gipiodd deitl pencampwr sboncen Prydain yn ddiweddar, yn cystadlu yn erbyn Taylor Fernandes o Guyana yn senglau’r merched (1430 amser lleol; 0530BST), a bydd gan Deon Saffery gêm yn erbyn Madina Zafar o Bakistan (1230 amser lleol, 0330 BST).

• Bydd Peter Creed (1230 amser lleol; 0330 BST) a Joel Makin (1350 amser lleol; 0450 BST) yn cystadlu yn senglau Sboncen y dynion.

• Yn y seiclo trac, bydd rowndiau cymhwyso sgwadiau Tîm 4000m y dynion a’r merched (o 1442 amser lleol; 0542 BST) a Sbrint Tîm y Merched (1624 amser lleol; 0724 BST).

• Cynhelir cystadleuaeth tîm Gymnasteg Artistig y dynion o 0900 amser lleol; 0000 BST.

• Yn y nofio, bydd Chloe Tutton a Beth Sloan yn cystadlu yn rhagbrofion y 50m dull pili-pala fore Iau (1138 amser lleol; 0238 BST) gyda’r rowndiau cyn- derfynol gyda’r nos. Bydd Xavier Castelli yn nofio yn rhagbrofion y 100m dull cefn am 1147 (0247 BST). Yn y 100m dull pili-pala, bydd Harriet Jones yn cystadlu yn rhagbrawf 1 ac Alys Thomas a Harriet West yn rhagbrawf 3 (yn cychwyn o 1158 amser lleol; 0258 BST.)