Y dylunydd ffasiwn rhyngwladol, Julien Macdonald OBE, yn dylunio dillad ffurfiol Tîm Cymru

Y Cymro byd-enwog, Julien Macdonald OBE yw dylunydd swyddogol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham 2022

Ers i’r trafodaethau ddechrau chwe blynedd yn ôl, mae Julien a’i dîm wedi gweithio’n agos â Gemau’r Gymanwlad Cymru a Chomisiwn Athletwyr Tîm Cymru i ddylunio a chreu dillad ffurfiol i Dîm Cymru. Bydd yr athletwyr yn gwisgo’r wisg i Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022 yn Stadiwm Alexander ar 28 Gorffennaf.

Wedi’i eni a’i fagu ym Merthyr Tudful, mae Julien yn ymfalchio yn ei wreiddiau Cymreig, ac mae wedi gwisgo nifer o Gymry enwog gan gynnwys y Fonesig Shirley Bassey, Katherine Zeta-Jones, a Katherine Jenkins. Mae’r cyfle i wisgo athletwyr Tîm Cymru, gan gyfuno sgiliau dylunio byd-enwog Julien â’i falchder angerddol tuag at Gymru, wedi bod yn brofiad newydd i’w groesawu i’r dylunydd.

Julien commented that ““Mae bod yn rhan o brosiect mor bwysig yn gyffrous dros ben, ac mae gweithio gyda Thîm Cymru yn gyfle mor anhygoel, yn enwedig i mi fel dylunydd ffasiwn. Dyma fy nghyfle cyntaf i gydweithio o fewn y byd chwaraeon, ac mae dylunio gwisgoedd i’r athletwyr wir wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rwyf wedi mwynhau bod yn ôl adref yng Nghymru”, meddai Julien.

Birmingham 2022 fydd yr ail dro ar hugain i Gemau’r Gymanwlad gael eu cynnal ers i’r gemau ddechrau yn 1930. Cymru yw un o’r chwe gwlad yn unig sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau, ochr yn ochr â’r Alban, Seland Newydd, Canada, Lloegr ac Awstralia.

Bydd y Gemau yr haf hwn, a gynhelir gan Loegr, yn cyflwyno dwy gamp newydd i’r calendr cystadlu – Criced T20 Menywod, a Phêl-fasged 3 x 3 (gan gynnwys Pêl-fasged cadair olwyn 3 x 3). Birmingham 2022 fydd â’r rhaglen chwaraeon benywaidd a pharalympaidd fwyaf mewn hanes, gyda 136 o ddigwyddiadau medal i fenywod ar draws 19 o gampau.

Bydd y Seremoni Agoriadol yn gweld 72 o Wledydd a Thiriogaethau yn gorymdeithio yn y stadiwm, gan roi cyfle unigryw i Gymru arddangos y tîm ar lwyfan byd-eang.

Mae’r negeseuon Cymreig yn treiddio’n ddyfnach i’r dyluniad cyffredinol, gydag Aur Clogau yn dylunio bathodyn pin pwrpasol i gyd-fynd â chreadigaeth Julien.

Ychwanegodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol:‘Mae seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad ar 28 Gorffennaf, bob amser yn achlysur arbennig i Dîm Cymru. Ymfalchïwn fel gwlad gan uno ac chefnogi’r tîm; ni ddylem fyth danseilio gwerth cefnogaeth cenedl o ran ysbrydoli ein hathletwyr pan fyddant yn dechrau cystadlu yn Birmingham22. Mae’r seremoni agoriadol yn galluogi Tîm Cymru i greu argraff o’r cychwyn cyntaf ac yn ddatganiad o fwriad ar gyfer y Gemau; mae cynnig Julien i ddylunio’r wisg yn creu cyfuniad cyffrous o ffasiwn a chwaraeon Cymru ar eu gorau.

Working with Julien, a very passionate Welshman, who has really listened to what the athletes want and what it means to compete on a world stage for your country. We are very grateful to Julien for giving is time voluntarily to design for Team Wales. Julien is know worldwide and it’s been a real honour to work with him to create something very special for the team. We can’t thank Julien and his team enough for all the hard work they have dedicated to this project. Whether you enjoy sport or follow fashion, we hope everyone will come together and join Team Wales on their journey to Birmingham.

Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu sydd wedi gweithio’n agos gyda Julien ar y prosiect:“Mae wedi bod yn daith gyffrous iawn, o’r drafodaeth gychwynnol ar gydweithio, gan greu brîff gyda Chomisiwn Athletwyr Tîm Cymru i weld y cynnyrch gorffenedig o’r diwedd. Roedd yn hollbwysig i ni fod y Comisiwn Athletwyr yn cydweithio’n agos gyda Julien a’i dîm. Dyma gynrychioli llais yr athletwyr sy’n cystadlu, ac er bod ein gwisg ar gyfer Gemau’r Arfordir Aur 2018 yn lliwgar ac yn llachar roedden nhw’n hyderus y byddai golwg glasurol a thrwsiadus yn gweddu’n well ar gyfer Gemau Birmingham 2022. Mae wedi bod yn daith gyffrous heb os, ac rwy’n siŵr y bydd gweithio ochr yn ochr â Julien, sydd wedi gwisgo enwogion y Byd, yn cryfhau ymhellach y gefnogaeth i Dîm Cymru yn y Gemau.’’

Caiff dyluniad Julien ei ddatgelu dros yr wythnosau nesaf… cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.