Y tîm hoci yn mynd i Birmingham 2022!

Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn cadarnhau bod Hoci Cymru wedi ennill lle yn y gemau yr haf hwn

Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad wedi cyhoeddi heddiw y bydd Tîm Hoci Cymru yn ymuno â’r rhestr o dimau cymwys ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022. Hon fydd seithfed Gemau’r gamp, gyda Hoci yn rhan o bob Gemau ers iddi ymddangos gyntaf yn Kuala Lumpur yn 1998, yn ogystal ag ymddangos yng Ngemau Ieuenctid cyntaf y Gymanwlad yn 2000.

“Mae wastad yn braf gweld ein lle yn cael ei gadarnhau, fel y gallwn edrych ymlaen yn bendant at y cyfnod sy’n arwain at Birmingham 2022, er, gyda’r 2021 cadarnhaol a gafodd y ddau dîm hŷn, ffurfioldeb cyfforddus oedd hyn yn y pen draw. Bydd gan Gemau’r Gymanwlad wastad le pwysig yng nghalonnau ein chwaraewyr oherwydd i lawer mae’n brofiad carreg filltir i fod yn rhan ohonyn nhw. Mae cyffro yn sicr yn amlwg wrth i’r digwyddiad agosáu. Rydym ni eisoes yn teimlo’r wefr wrth feddwl am ddod ynghyd â chwaraeon eraill Cymru i greu grŵp ‘Tîm Cymru’. Mae gan garfanau dynion a merched ddyhead clir i sicrhau mai hon yw ein Gemau’r Gymanwlad gorau ar y cae, gyda’r gwaith caled eisoes wedi hen ddechrau.” Kevin Johnson, Cyfarwyddwr Perfformiad Hoci Cymru

Mae’r timau Dynion a Merched wedi ennill lle ar gyfer Birmingham 2022, lle maen nhw’n gobeithio adeiladu ar eu safle cryf yng ngemau blaenorol Yr Arfordir Aur 2018, lle enillodd y ddau dîm gêm yr un, a gorffen yn y 9fed safle.

“Mae’n bleser mawr cyhoeddi bod ein merched a’n dynion wedi ennill lle ar gyfer Birmingham. Mae cynrychioli eich gwlad mewn digwyddiad fel Gemau’r Gymanwlad yn gymaint o anrhydedd. Dyma’r anrhydedd fwyaf i unrhyw athletwr o Gymru. Gyda’r gemau yn Birmingham eleni, mae hyd yn oed yn fwy arbennig gan y dylai deimlo fel Gemau cartref gyda mwy o deulu a ffrindiau yn gallu mynychu a chefnogi.” Ria Burrage-Male, Prif Weithredwr Hoci Cymru

Mae’r ddau dîm yn awyddus i gyrraedd y Gemau ar ôl rhediad llwyddiannus ers Yr Arfordir Aur 2018, a gyda’r Gemau mor agos at adref, mae’n siŵr y bydd eu cefnogwyr ffyddlon yn tyrru dros y ffin.

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins; “Mae’n newyddion gwych bod y ddau dîm hoci wedi ennill lle ar gyfer y Gemau unwaith eto. Oherwydd y pandemig mae cymaint o ansicrwydd wedi bod o fewn y byd chwaraeon, mae’r cynllunio a’r gwaith maen nhw wedi’i wneud yn ystod cyfnod mor anodd yn destament i Hoci Cymru, ac mae’r canlyniadau cadarnhaol wedi bod yn amlwg dros y 12 mis diwethaf. Edrychwn ymlaen at weld y chwaraewyr yn eu dillad Tîm Cymru, yn ennyn balchder y genedl.’’

Gallwch ddarllen y rhestr lawn o dimau sydd wedi ennill lle yma

Cofiwch ddilyn taith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook, a Twitter @TeamWales