Inspirational athletes deliver Team Wales’ most successful Games in Gold Coast
Mae
athletwyr Tîm Cymru yn dathlu ar ôl y perfformiad gorau erioed yng Ngemau’r
Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.
Enillodd y tîm o oddeutu 200 o athletwyr gyfanswm o 36 o fedalau yn cynnwys 10 aur – y canlyniad gorau erioed i Gymru yn y Gemau.
Hawliodd Tîm Cymru 12 medal arian a 14 medal efydd hefyd, i’w rhoi yn seithfed ar y tabl medalau ar ddiwedd y Gemau – ar y blaen i’r Alban a oedd yn yr 8fed safle a Nigeria a oedd yn 9fed.
Cafwyd medalau mewn 11 o gampau, sy’n adlewyrchu datblygiad sylweddol ar draws nifer o chwaraeon lle na fu Cymru’n arbennig o gryf yn y gorffennol.
Sicrhawyd lle ar y podiwm mewn athletau, beicio (trac a ffordd), bocsio, bowlio lawnt, codi pwysau, gymnasteg (rhythmig ac artistig), nofio, saethu, sboncen, tenis bwrdd, a reslo.
Meddai Chef de Mission Tîm Cymru Yr Athro Nicola Phillips:
“Rydyn ni ar ben ein digon ar ôl yr hyn sydd wedi ei gyflawni yma. Gofynnwyd i’r athletwyr ganolbwyntio ar roi o’u gorau wrth berfformio yn y Gemau, yn hyderus y byddai’r medalau yn dod yn sgil hynny. A dyna ddigwyddodd. Mae pawb wedi gweithio fel tîm ac mae’r athletwyr wedi dangos angerdd ac ymroddiad. Does dim amheuaeth y byddan nhw wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan mewn chwaraeon.
“Mae yna stori ehangach y tu ôl i’r tabl medalau, gyda rhestr faith o oreuon personol a safleoedd uchel – perfformiadau gwell nag erioed. Llwyddodd llawer o’r athletwyr ieuengaf i gyrraedd y rowndiau terfynol yn eu Gemau cyntaf erioed, a llwyddodd eraill i ennill gyda sylw rhyngwladol sylweddol arnyn nhw.
“Mae’r cyrff llywodraethu cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, wedi paratoi’r athletwyr yn well nag erioed o’r blaen. Ac mae staff Tîm Cymru wedi gweithio’n galed i greu’r awyrgylch gorau bosibl i sicrhau llwyddiant ar yr Arfordir Aur.
“Mae’r perfformiadau anhygoel ar draws y chwaraeon yn dangos fod Cymru’n gallu cystadlu mewn mwy nag ambell i gamp.
“Er fod rhai o’r athletwyr yn hyfforddi ac yn cystadlu’n llawn amser, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwneud hynny ochr yn ochr â gweithio neu astudio. Yn ddi-eithriad, mae’r athletwyr wedi paratoi’n ddiflino ac wedi rhoi o’u gorau, a dyna’r cyfan oedd yn ofynnol ohonyn nhw.”
Meddai Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:
“Mae Tîm Cymru wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd cynhwysol. Mae hynny wedi cyfrannu at yr hyder a’r gefnogaeth y mae pawb, yn cynnwys y cenhedloedd eraill, wedi sylwi arno yn ystod y Gemau.
“Ein nod oedd ysbrydoli eraill i berfformio ac i gyflawni eu gorau, a thrwy hynny gryfhau’r diddordeb mewn chwaraeon yng Nghymru yn arbennig ymhlith pobl ifanc. Does gen i ddim amheuaeth ein bod wedi cyflawni hynny – trwy berfformiadau’r athletwyr wrth gystadlu a’u hagwedd a’u hymddygiad y tu hwnt i’r gystadleuaeth.
“Mae ein llwyddiant yng Ngemau’r Arfordir Aur 2018 yn brawf o’r arweinyddiaeth gref y mae Nicki fel ein Chef de Mission wedi’i dangos, a’r gefnogaeth ardderchog a gafwyd gan staff Gemau’r Gymanwlad Cymru a swyddogion Tîm Cymru.
“Daw’r llwyddiant hefyd yn sgil ymroddiad aruthrol gan yr athletwyr eu hunain a chefnogaeth gadarn gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol, hyfforddwyr a staff Chwaraeon Cymru.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n noddwyr CGI a Phrifysgol De Cymru, ac i Lywodraeth Cymru, sydd wedi’n cefnogi ar hyd y daith.”
Bydd athletwyr a staff Tîm Cymru yn dychwelyd adref ar ôl Seremoni Gloi Gemau’r Gymanlwad 2018 yn Stadiwm Carrara.
AUR (10) |
|
Athletau: |
|
Hollie Arnold |
Gwaywffon F46 y merched |
Olivia Breen |
Naid hir T38 y merched |
Beicio (trac): |
|
Elinor Barker |
Ras bwyntiau 25km y merched |
Bocsio: |
|
Sammy Lee |
81kg y dynion |
Lauren Price |
75kg y merched |
Bowlio lawnt: |
|
Daniel Salmon & Mark Wyatt |
Parau’r dynion |
Codi pwysau: |
|
Gareth Evans |
69kg y dynion |
Nofio: |
|
Alys Thomas |
200m dull pili-pala’r merched |
Saethu: |
|
David Phelps |
50m Prone Rifle y dynion |
Michael Wixey |
Trap y dynion |
ARIAN (12) |
|
Beicio (Ffordd): |
|
Jonathan Mould |
Ras ffordd y dynion |
Beicio (Trac): |
|
James Ball |
B&VI 1000m TT y dynion |
James Ball |
Sbrint B&VI y dynion |
Lewis Oliva |
Keirin y dynion |
Bocsio: |
|
Rosie Eccles |
69kg y dynion |
Bowlio Lawnt: |
|
Laura Daniels |
Senglau’r merched |
Gymnasteg (Artistig): |
|
Latalia Bevan |
Ymarferion llawr y merched |
Gymnasteg (Rhythmig): |
|
Laura Halford |
Cylch |
Nofio: |
|
Daniel Jervis |
1500m dull rhydd y dynion |
Reslo: |
|
Kane Charig |
65kg y dynion |
Saethu: |
|
Ben Llewellin |
Skeet y dynion |
Gaz Morris & Chris Watson |
Gwobr y Frenhines i barau |
EFYDD (14) |
|
Athletau: |
|
Olivia Breen |
100m T38 y merched |
Melissa Courtney |
1500m y merched |
Bethan Davies |
Ras Gerdded 20km y merched |
Beicio (Ffordd): |
|
Dani Rowe |
Ras Ffordd y merched |
Bocsio: |
|
Mickey McDonagh |
60kg y dynion |
Bowlio Lawnt: |
|
Julie Thomas & Gilbert Miles |
Parau B2/B3 cymysg |
Codi pwysau: |
|
Laura Hughes |
75kg y merched |
Nofio: |
|
Georgia Davies |
50m dull cefn y merched |
Chloe Tutton |
200m dull brest y merched |
Georgia Davies, Kathryn Greenslade, Alys Thomas & Chloe Tutton |
Ras gyfnewid 4x100m y merched |
Reslo: |
|
Curtis Dodge |
74kg y dynion |
Saethu: |
|
Sarah Wixey |
Trap y merched |
Sboncen: |
|
Tesni Evans |
Senglau’r merched |
Tenis Bwrdd: |
|
Joshua Stacey |
TT6-010 y dynion |