Genero Group yw partner diweddaraf Tîm Cymru

Tîm Cymru yn croesawu’r Asiantaeth Cynhyrchu Digwyddiadau fel ei 13eg partner newydd

Mae Genero, sydd wedi’i leoli yn y Barri, yn adnabyddus am ei sgiliau technegol blaengar, gyda’r gallu i gyflwyno digwyddiadau cyfareddol ac uchel eu parch, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac mae gan yr asiantaeth restr drawiadol o gleientiaid preifat a chorfforaethol, o Guinness, ITV a Llywodraeth Cymru i Wobrau Cymru yr Academi Brydeinig.

Mae’r sefydliad medrus yn rheoli digwyddiadau byw, setiau a llwyfannu, arddangosfeydd, cynadleddau, a chreu a chynhyrchu seremonïau gwobrwyo mawr.

Dywedodd Nic Heslop, Cyfarwyddwr Masnachol Genero Group, ‘Rydyn ni wrth ein bodd i ddod yn bartner i Gemau’r Gymanwlad Cymru er mwyn cefnogi Tîm Cymru. Mae’r cydweithio hwn yn ein galluogi i gryfhau Clwb Busnes Tîm Cymru, a fydd yn gwella’r rhwydwaith cymorth i athletwyr Cymru trwy gyfrwng gwell cysylltiadau â busnesau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio ein harbenigedd o ran creu a rheoli digwyddiadau er mwyn dyrchafu chwaraeon Cymru. Mae ein tîm yn edrych ymlaen at gyfrannu at nodau hirdymor Tîm Cymru a chreu cyfleoedd i gefnogi eu llwyddiant ehangach.’

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru, ‘Mae Genero Group yn darparu digwyddiadau nodedig o ansawdd uchel ledled y wlad, ac mae eu hethos ar gyfer darparu gwasanaeth proffesiynol a deniadol yn sicr yn adlewyrchu ein hethos gwaith yma yn Nhîm Cymru. Mae ein sefydliad wedi symud tuag at gynnal mwy o ddigwyddiadau yn dilyn lansiad Clwb Busnes Tîm Cymru y llynedd, felly roedd y bartneriaeth hon yn gam amlwg ymlaen i ni, ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar ein digwyddiad cyntaf y mis nesaf yn Stadiwm Principality.”