Gemau’r Gymanwlad Cymru yn cyhoeddi aelodau Bwrdd newydd
Mae Gemau’r Cymanwlad Cymru (CGW) wedi cyhoeddi Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd cyn cylch Victoria 2026
Mae’r etholiad yn dilyn Gemau llwyddiannus Birmingham yn 2022, gyda 201 o athletwyr yn cynrychioli Tîm Cymru ar draws 15 o gampau yn yr 22ain Gemau.
Mae Cyfarwyddwr Cwpan Rygbi’r Byd Gareth Davies wedi’i benodi’n Gadeirydd y sefydliad a’r Cadeirydd ymadawol Helen Phillips MBE wedi’i phenodi’n Llywydd CGW.
Mae chwe aelod newydd y Bwrdd yn cynnwys cyn-gapten Cymru a chwaraewr rhyngwladol hoci Prydain Fawr Leah Wilkinson, a enillodd 183 o gapiau rhyngwladol nodedig dros Gymru, sy’n golygu mai hi yw’r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau yn hanes Cymru. Mae Leah, a fydd yn Athletwr Gyfarwyddwr Anweithredol newydd, wedi cystadlu mewn pedair Gemau’r Gymanwlad ac wedi ymddeol yn gynharach eleni yn dilyn ei Gemau olaf yn Birmingham 2022 yr haf diwethaf.
Bydd Tim Naylor a Zoe Davies yn ymuno fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol (NED) gyda Fiona Reid, Iwan Morgan, a Rhys Williams yn ymuno fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol etholedig.
Mae Tim Naylor yn Fargyfreithiwr profiadol gyda phrofiad helaeth o lywodraethu chwaraeon, tra bod Zoe Davies yn Bennaeth Diogelwch, Sicrwydd a Gwydnwch yn y BBC yn Llundain, gyda phrofiad o ddatblygu systemau rheoli cynaliadwy a chyfeillgar i fusnes.
Bydd Rhys Williams, cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a Rheolwr Datblygu Busnes presennol Undeb Rygbi Cymru’n ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol etholedig ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid, a’r Peiriannydd Siartredig Iwan Morgan, sy’n Rheolwr Gyfarwyddwr Rheoli Portffolio Ynni ac yn Gyfarwyddwr Ffermydd Gwynt Dogger.
Ychwanegodd Llywydd newydd CGW, Helen Phillips MBE, ’Mae’r broses ar gyfer dewis aelodau newydd y Bwrdd wedi bod yn drylwyr iawn. Mae’r safon a’r diddordeb a ddangoswyd yn y swyddi wedi bod yn aruthrol, ac rwy’n hyderus, gyda phrofiad ac arweinyddiaeth Gareth, a’r setiau sgiliau amrywiol o amgylch y bwrdd, bod dyfodol CGW mewn dwylo diogel iawn’. Rhaid manteisio ar y cyfle i ddiolch i Anne Ellis OBE, Jon Morgan OBE, yr Athro Nicola Phillips OBE a Craig Maxwell am eu cyfraniad sylweddol i Gemau’r Gymanwlad Cymru, a roddodd mor hael o’u hamser, eu gwybodaeth
a’u hangerdd i’n sefydliad ac mae eu cyfraniadau wedi creu seiliau cadarn y gellir adeiladu arnynt ymhellach.