GC2018: Day 9 Highlights
Arian i Charig yn y ffeinal reslo gyntaf i Gymru
Gymnasteg cylch yn dod ag arian i Halford
McDonagh yn hawlio efydd, a lle yn y ffeinal i ddau o’r bocswyr eraill
4ydd medal yn y saethu wrth i Wixey ennill y fedal efydd yn y gystadleuaeth trap olympaidd
Tîm hoci dynion Cymru yn curo De Affrica yn eu gêm olaf
Stacey yn wynebu gêm am y fedal efydd yn senglau TT6-10 y tennis bwrdd
Dim medal i bedwarawd bowlio’r dynion ar ôl colli yn erbyn Lloegr
Mae Cymru bellach wedi ennill 29 medal ar yr Arfordir Aur (7 Aur, 10 Arian, 12 Efydd) sy’n uwch na’r record flaenorol ar gyfer Gemau dramor a osodwyd yn Auckland yn 1990. Mae Cymru’n awr yn ddegfed yn y tabl medalau.
Meddai Chef de Mission Tîm Cymru Nicola Phillips:
“Mae ennill mwy na 25 medal yn llwyddiant arbennig ac rydyn ni’n gobeithio ychwanegu mwy yn ystod dyddiau ola’r cystadlu. Mae ein hathletwyr, ym mhob un o’r 15 o chwaraeon, wedi perfformio’n eithriadol ac maen nhw’n haeddu pob clod.
“Y nod a roddwyd i’r athletwyr oedd curo mwy o berfformiadau gorau personol nag erioed o’r blaen yn ystod y Gemau. Maen nhw wedi cyflawni’n ardderchog ac mae hynny’n awr yn cael ei adlewyrchu gan y bwrdd medalau.
“Mae’r tîm cyfan wedi perfformio gydag angerdd ac ymroddiad a hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu hymdrech. Gobeithio y bydd eu llwyddiant nhw yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. “
RESLO
Cafwyd moment hanesyddol heddiw wrth i Kane Charrig ddod y reslwr cyntaf o Gymru i gyrraedd rownd derfynol yng Ngemau’r Gymanwlad.
Enillodd Charrig, sy’n 26 oed, fedal arian yn y categori 65kg, ar ôl colli yn y rownd derfynol i Bajrang o India.
Yn gynharach, roedd Kane – a arferai fod yn jwodöwr rhif un Prydain – wedi perfformio’n dda yng nghamau cynnar y gystadleuaeth, gan guro’r reslwr o Loegr a enillodd y fedal efydd heb golli’r un pwynt.
Ailadroddodd y perfformiad hwnnw wrth hawlio buddugoliaeth yn y rownd gynderfynol yn erbyn Bandou o Mauritius.
Dyma’r tro cyntaf i reslwr o Brydain gyrraedd rownd derfynol yng Ngemau’r Gymanwlad ers 1994.
Ar ôl derbyn ei fedal arian, meddai Charrig yn emosiynol: “Rwy wedi rhoi popeth i sicrhau’r fedal hon. Rwyf wedi gweithio’n galed ac roeddwn i eisiau dod adref gyda rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.
“Rwyf ychydig yn siomedig gyda sut aeth y rownd defrynol. Roedd fy ngwrthwynebydd yn slic a medrus iawn.”
Dyma’r ail fedal i Dîm Cymru ei hennill yng Ngemau’r Arfordir Aur, yn dilyn y fedal efydd a gipiwyd gan Curtis Dodge ddoe.
“Mae ein llwyddiant yn deillio o’r undod sydd gennym fel tîm,” meddai Kane. “Heb Chwaraeon Cymru, a Sue ac Alan Jones (yr hyfforddwyr) ni fyddem yma. Rydyn ni’n tyfu o hyd ac mi fyddwn yn ôl y tro nesaf.
“Cyn belled ag y gallwn gadw’r system i fynd, a gweithio’n galed o hyn ymlaen, gall y gamp yng Nghymru dyfu. Mae ennill medalau yn gwneud pethau’n bosibl i bobl yn y dyfodol. Mae fel effaith pêl eira. “
GYMNASTEG
Enillodd Laura Halford fedal arian yn y gystadleuaeth unigol gyda’r cylch, gyda pherfformiad arbennig ganddi ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn y gymnasteg rhythmig.
Cafodd y gymnast 22 mlwydd oed o Gaerdydd, sydd bellach wedi ennill pedair o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad, sgôr o 14,000 i hawlio’r ail le, gyda’i chyd-aelod o’r tîm Gemma Frizelle yn wythfed.
Dywedodd Halford: “Rwy’n falch iawn o’r sgôr. Mae llawer o bwysau ac mae’n hawdd colli daliad neu dafliad, ond yn ffodus ddaru hynny ddim digwydd ac rwy’n mynd adref gyda’r fedal arian.”
Daeth Halford hefyd yn agos at fedal yn rownd derfynol y bêl a’r rhuban, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y ddwy gystadleuaeth.
BOCSIO
Bydd Sammy Lee a Rosie Price yn bocsio i ennill y fedal aur yfory, ar ôl perfformiadau trawiadol i ennill yn y rowndiau gynderfynol.
Enillodd Price, sydd hefyd â 52 o gapiau pêl-droed i Gymru, yn gyfforddus yn erbyn Tammara Thibault o Ganada a bydd yn brwydro am y teitl 75kg yfory.
Gwnaeth Sammy Lee, a enillodd fedal Aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad y llynedd, argraff hefyd yn rownd gynderfynol categori 81kg y dynion yn erbyn Clay Waterman o Awstralia.
“Rydw i mor falch o fod yn Gymro heno. Fyddwn i ddim yn dymuno bod o unrhyw genedl arall. Mae fy holl ffocws yn awr ar ddychwelyd i’r cylch bocsio yfory. Alla i ddim disgwyl.”
Mickey McDonagh oedd y bocsiwr Cymreig cyntaf ar waith yn rownd gynderfynol categori 60kg y dynion. Roedd yn erbyn Harry Garside o Awstralia ac er gwaethaf ymdrech wrol ni lwyddodd i drechu ei wrthwynebydd ag yntau â’r gynulleidfa gartref y tu ôl iddo. Bydd McDonagh yn derbyn ei fedal efydd yfory.
SAETHU
Enillodd tîm saethu Cymru fedal am y pedwerydd tro heddiw, wrth i Sarah Wixey ennill efydd yn y Trap Olympaidd i ferched.
Cymhwysodd yn y lle cyntaf ar ôl brwydr saethu a chludodd y momentwm hwnnw i’r rownd derfynol i hawlio’r efydd.
Gyda chyfanswm o bedair medal, dyma’r canlyniad mwyaf llwyddiannus erioed gan saethwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Bydd gŵr Sarah, Mike Wixey, yn gorffen cystadleuaeth trap y dynion yfory ochr yn ochr â Jon Davis. Gyda 75 o glai cymhwyso ar ôl i’w saethu, mae Mike yn gydradd bedwerydd. Nid yw Jon ond 3 o glai y tu ôl er gwaetha’r ffaith ei fod wedi anafu ei ben-glin.
Daeth y cystadlu i ben i Sian Corish ar ôl gorffen cystadleuaeth reiffl tri ystum y merched. Daeth Sian o fewn un pwynt i gymhwyso, a hynny’n erbyn gwrthwynebwyr cryf iawn. Er bod ei ‘bull shots’ wedi sgorio cyfrif ‘X’ uwch na rhai o’r rhai a oedd yn uwch na hi, doedd cyfanswm ei phwyntiau ddim yn ddigon i sicrhau lle yn y ffeinal.
Bydd Mike Bamsey yn cystadlu yn y gystadleuaeth 50m reiffl tri ystum i ddynion ar ddiwrnod olaf y cystadlaethau saethu ar yr Arfordir Aur yfory.
BOWLIO LAWNT
Bu’n dwrnamaint i’w gofio am i’r tîm bowlio lawnt er gwaetha’r ffaith fod pedwarawd y dynion wedi colli yng Nghlwb Bowlio Broadbeach brynhawn Gwener.
Byddant yn gadael yr Arfordir Aur gyda thair medal, sy’n fwy nag yr oedden nhw wedi’i ddisgwyl ar ôl siom yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.
Roedd her galed yn erbyn Lloegr yn wynebu pedwarawd Cymru – Ross Owen, Stephen Harris, Marc Wyatt a Jonathan Tomlinson – wrth iddyn nhw geisio ychwanegu medal efydd at eu casgliad.
Cychwynnodd y gêm yn gadarnhaol, ond llwyddodd Lloegr i hawlio buddugoliaeth o 15-9. Serch hynny dywed Arweinydd y Tîm, Hazel Wilson, ei fod yn hynod falch gyda’r hyn a gyflawnwyd yn Awstralia.
“Allwn i ddim bod yn hapusach – gobeithio fod ein llwyddiant ni wedi ysbrydoli pobl yn ôl adref i roi cynnig ar y gamp,” meddai.
“Rydyn ni wedi dod i’r Arfordir Aur ac wedi cystadlu yn erbyn y chwaraewyr gorau yn y byd a hynny’n gwbl hyderus. Rydyn ni wedi profi bod gennym lawn gymaint o le yn y gamp ag unrhyw un.”
SBONCEN
Methodd Tesni Evans a Deon Saffery â chyrraedd rownd gynderfynol dyblau’r merched a hynny o drwch blewyn.
Roedd yn ymddangos eu bod ar fin cipio buddugoliaeth yn y rownd go-gynderfynol yn erbyn Rachael Grinham a Donna Urquhart o Awstralia.
Enillodd Cymru’r gêm gyntaf o 11 – 9 gan ymddangos fel pe baen nhw’n ennill yr ail gêm hefyd ar ôl cymryd y blaen o 9 – 1.
Ond manteisiodd Awstralia ar gamgymeriadau a wnaed gan y ddwy Gymraeg, gan ddod yn ôl i gipio’r ail gêm o 11-10.
Roedd arwyddion fod y siomedigaeth honno wedi effeithio ar Evans a Saffery yn y gêm olaf.
Y tîm cartref oedd yn fuddugol ar ôl ennill y drydedd gêm o 11 – 3 gan fwrw Cymru o’r gystadleuaeth.
Meddai Evans, a enillodd y fedal efydd yn y senglau: “Doedd ein coesau ddim yn gweithio gryfed yn y gêm olaf ac mi gawson ni hi’n anodd. Rhaid cydnabod perfformiad Awstralia – mi ddaru nhw’n arbennig o dda i ddod yn ôl fel ddaru nhw.”
ATHLETAU
Gorffennodd Sally Peake yn 10fed yn rownd derfynol y naid polyn i ferched, gan neidio 4.30m, sef ei huchder gorau y tymor hwn. Llwyddodd Salli i glirio 4.00m, 4.15m a 4.30m cyn methu’r 4.40m deirgwaith.
Gwnaeth Morgan Jones yn arbennig o dda yn ystod ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad; gorffennodd yn 4ydd yn ffeinal 100m dosbarth T47 y dynion a hynny mewn 11.93 eiliad.
Cafwyd perfformiadau cryd gan Jon Hopkins a Ieuan Thomas yn
rownd derfynol y ras 3,000m traws gwlad fore Gwener. Gorffennodd Hopkins yn
chweched mewn 8:34 gydag Ieuan ychydig y tu ôl iddo yn 7fed mewn amser o 8:40.
Ymddangosodd dau athletwr o Gaerdydd, sef Tom Marshall a Rowan Axe, am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad a hynny yn rhagbrofion ras 1500m y dynion. Gorffennodd y ddau yn 8fed yn y rowndiau rhagbrofol sy’n golygu na fyddan nhw’n cystadlu yn y ffeinal yfory.
RYGBI 7 BOB OCHR
Cafodd tîm rygbi 7 bob ochr merched Cymru eu trechu gan Awstralia a Fiji yn Stadiwm Robina nos Wener.
Awstralia yw’r ffefryn mawr i ennill, gan ychwanegu at eu coron Olympaidd. Dangosodd y tîm eu crefft yn y gêm gyntaf gyda buddugoliaeth gyfforddus, gan lwyddo i sgorio chwe chais yn gêm agoriadol Grŵp B.
Fodd bynnag, rhoddodd y Cymry berfformiad ysblennydd a chawsant eu gwobrwyo gyda chais gan Jasmine Joyce tua diwedd y gêm.
“Roedd yn rhagorol. Mae cael cais yn erbyn tîm gorau’r byd yn adeiladu ein hyder,” meddai Sian Williams, chwaraewr rygbi benywaidd proffesiynol llawn amser cyntaf Cymru gyda’r RAF.
Sgoriodd Joyce, yr unig aelod o garfan Cymru i ymddangos yn ngharfan Team GB yng Ngemau Olympaidd Rio ddwy flynedd yn ôl, ail gais yn y gêm aflwyddiannus yn erbyn Fiji ddwy awr yn ddiweddarach.
Dechreuodd Fiji yn dda, gyda chais o fewn dau funud.
Ymdrechodd Gemma Rowlands yn galed i gael y bêl allan o hanner Cymru ond heb fawr o lwc, wrth i Fiji osod eu marc ar y gêm a sicrhau trosgais arall gyda phedwar munud i fynd yn yr hanner cyntaf.
Yn fuan wedyn gwnaeth Hannah Jones ymdrech anhygoel gan wibio tuag at linell gais Fiji, ond trechwyd hi gan amddiffyn cryf Fiji.
Ar hanner amser, roedd Cymru ar ei hôl hi o 19 pwynt i 0.
Digon tebyg fu’r ail hanner gydag ymosodiad Fiji yn llywodraethu a chawsant ddau gais arall. Daliodd Cymru ati a llwyddodd Joyce i sgorio ail gais y noson. Trechwyd Cymru er gwaethaf ymdrech glodwiw.
“Mae’n lot o addysg mewn amser byr i ni,” meddai hi wedyn.
“Ni yw’r unig dîm amatur yma, felly mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni gael chwarae yn erbyn timau o’r ansawdd hwn ac o flaen tyrfaoedd mawr fel hyn.”
TENIS BWRDD
Gyda lle yn rownd derfynol senglau TT6-10 y dynion ar gael, roedd gêm y rownd gyn-derfynol fore Gwener yn erbyn Ross Wilson o Loegr yn gêm bwysig i Joshua Stacey, sy’n 18 oed.
Mae Stacey’n hen law ar gystadlu ar y lefel uchaf, wedi cystadlu ddwywaith ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop, a dechreuodd yn gryf yn erbyn y Sais gan ennill y gêm gyntaf 12-10.
Er hynny daeth Wilson yn ôl yn gryf a chipio’r gemau a oedd yn weddill o 11-2, 14-12 ac 11-9.
Bydd Stacey’n brwydro am y fedal efydd yn erbyn Theo Cogill o Dde Affrica yfory.
HOCI
Hawliodd tîm Hoci Dynion Cymru’r 9fed safle yn nhwrnamaint yr Arfordir Aur gyda buddugoliaeth drawiadol 3-2 dros Dde Affrica.
Roedd Cymru ar ei hôl hi yn yr ail chwarter, ond daeth yn hafal eto diolch i gornel gosb Gareth Furlong cyn hanner amser.
Rhoddodd James Carson Gymru ar y blaen yn y 42ain munud ond dim ond pedwar munud y parodd hynny cyn i Dde Affrica ddod â’r sgôr yn ôl yn hafal.
Ond dri munud cyn y chwiban, teyrnasodd Carson unwaith eto gyda chornel gosb i hawlio’r gêm a dod ag ymgyrch Cymru i ben gyda buddugoliaeth haeddiannol iawn.
Meddai Carson: “Roedd yn berfformiad tîm da. Ni wnaethom ddechrau’n arbennig o dda, ond mi wnaethon ni lynu wrth ein hegwyddorion ac roeddem yn gwybod pe baem yn chwarae hyd eithaf ein gallu, yna byddai’r canlyniad yn gofalu amdano’i hun.
“Yn y gêm neu ddwy ddiweddaraf rydym wedi ildio goliau hwyr, felly daeth ein hawr ni i sgorio un.”
Ychwanegodd Gareth Furlong: “Rydyn ni wedi rhoi brwydr llawer anoddach i rai o’r timau gorau nag a wnaethom yn Glasgow. Roedden ni’n grŵp eithaf ifanc, ond mi ddaru ni weithio’n galed ar ôl Glasgow. Mae colli o ddim ond un gôl yn erbyn India (3-4) a Lloegr (2-3) yn dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod. Yr her i ni am y pedair blynedd nesaf yw gweld a allwn wneud hyd yn oed yn well. “
Dywedodd yr hyfforddwr Zac Jones: “Rwy’n credu ein bod ni wedi gwneud camau anferth dros y 18 mis diwethaf. I fod yn onest, rwy’n credu mai chwarae ar y lefel hon yn amlach yw’r gyfrinach i ni. Dydych chi ddim ond yn dysgu o fod yn y sefyllfaoedd hyn dro ar ôl tro. “
Am
amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Sadwrn 14eg Ebrill, ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm