GC2018: Day 4 Highlights
NAID EURAIDD GAN BREEN WRTH I DÎM CYMRU GYRRAEDD 10 MEDAL
Heddiw, enillodd para-bencampwr y byd Olivia Breen fedal aur Gemau’r Gymanwlad ar ddiwrnod lle enillodd Tîm Cymru bedair medal i gyd. Enillodd Breen, sy’n 21 oed ac o Guildford, ffeinal naid hir T38 y merched yn fuan wedi i Bethan Davies gipio’r efydd yn y ras gerdded 20km. Enillodd Laura Davies y fedal arian yn y bowlio unigol i ferched, cyn i Laura Hughes sicrhau degfed medal Cymru – a’r bedwaredd i gael ei hennill gan y merched dydd Sul – wrth iddi ennill efydd yng nghategori 75kg codi pwysau’r merched.
ATHLETAU
Ar ôl gwallau yn rowndiau 1 a 2, daeth profiad y Paraolympiad Olivia Breen i’r amlwg wrth iddi osod record newydd ar gyfer y Gemau o 4.56m yn y drydedd rownd gan fynd ar y blaen i’w gwrthwynebwyr o Awstralia Cleaver a Doyle. Allai neb ddod yn agos i’r marc, a gyda medal aur yn barod wedi’i sicrhau, llwyddodd i neidio 4.86m yn y bedwaredd rownd – gan guro ei gorau personol a gosod record newydd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.
Roedd Cymru eisoes wedi cael bore llwyddiannus ar ôl i Bethan Davies ennill medal efydd yn nigwyddiad cyntaf y rhaglen athletau. Cynhaliwyd y Ras Gerdded 20km ar draeth Currumbin mewn gwres llethol, ond gyda chefnogaeth gref gan y Cymry.
Roedd Davies, sy’n gynorthwy-ydd ymchwil a niwro-wyddonydd ym Mhrifysgol Cymru, yn bedwerydd am lawer o’r ras ond daeth tro dramatig tua’r diwedd. Cafodd Claire Tallent o Awstralia a oedd ar y blaen ei gwahardd am gael tri cherdyn coch am fod â’i dwy droed oddi ar y llawr. Llwyddodd Davies, sy’n cystadlu gydag Academi Athletau Caerdydd, i aros ar y blaen i Khushbir Kaur o India, gan sicrhau’r fedal efydd.
“Rwyf wrth fy modd,” meddai Bethan. “Dyw pobl ddim yn gwybod llawer am rasio cerdded felly rwy’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i danio diddordeb yn y gamp. Roedd yna lawer o gefnogaeth i mi o amgylch y cwrs ac mae fy nheulu i allan yma sydd yn help mawr.
“Ro’n i’n ymwybodol fod na dipyn o gardiau tua’r blaen felly mi benderfynais gadw at fy nghyflymder fy hun a gweld beth fyddai’n datblygu. Ro’n i angen canolbwyntio ar fy ras fy hun rhag ofn i bethau fynd o chwith iddyn nhw ar y blaen, fel ddaru ddigwydd.”
Daeth Heather Lewis o Sir Benfro yn 7fed yn yr un ras.
Cystadlodd Osian Jones, deilydd record Cymru am daflu’r morthwyl, yn y gystadleuaeth gyntaf yn Stadiwm Carrara. Roedd nifer o’r taflwyr yn betrus yn y rowndiau cynnar am fod y cawell yn gul. Cychwynnodd Osian yn gadarn, gan daflu 69.44m yn y rownd gyntaf, ac yna 70.14m yn yr ail rownd – ddim ond yr ail waith erioed iddo daflu dros 70m.
Wrth i’r gystadleuaeth ddwysau, daeth Nick Miller o Loegr i’r brig gan osod record newydd ar gyfer y Gemau a Phrydain o 80.26m a chipio’r fedal aur. Fyddai Osian ddim wedi gallu gwneud ddim gwell, ond mae’n fodlon gyda’i berfformiad ac o ddod yn seithfed mewn cystadleuaeth mor galed.
BOWLIO LAWNT
Enillodd Laura Daniels o Sgiwen fedal arian ym mowlio unigol y merched yn Broadbeach.
Cafwyd perfformiad dewr gan Daniels, sy’n gyfrifydd llawn amser, a’i rhoddodd trwodd i ffeinal y merched, gan sicrhau medal arian o leiaf iddi ar ôl curo Kelly McKerihen o Ganada o 21-13.
Roedd Daniels, sy’n gyn-Bencampwr Bowlio Dan Do y Byd, yn wynebu Jo Edwards yn y rownd derfynol, a oedd yn amddiffyn teitl Gemau’r Gymanwlad.
Roedd Daniels yn ennill ar y cychwyn ond llwyddodd ei gwrthwynebydd o Seland Newydd i frwydro’n ôl ac i gipio ei thrydedd medal aur yn y Gemau.
Meddai Daniels: “Mi gychwynnodd pethau’n dda i mi ac mi lwyddais i fod ar y blaen ond ar y lefel yma rwy’n gwybod nad yw hynny’n para’n rhy hir. Rwy’n gwybod cystal yw calibr athletwraig fel Jo. Daeth yn ôl yn gryf a manteision ar ambell i wall gen i ac mi ddaru hynny golli’r fedal aur i mi yn fwy na thebyg.”
Yn ystod sesiwn y prynhawn, chwaraeodd Daniel Salmon a Marc Wyatt yn erbyn Ynysoedd Cook yn rownd gynderfynol parau’r dynion.
Doedd y gêm ddim yn un gwbl esmwyth i’r pâr o Gymru, ond fe lwyddon nhw i ennill o 21-14 gan sicrhau lle yn y ffeinal yn erbyn Yr Alban fore Llun (09.01 amser lleol).
Collodd y Parau Cymysg B2/B3 eu pedwaredd gêm yn Adran A yn ystod gêm gynta’r diwrnod, gan golli o 18-6 yn erbyn Awstralia.
BOCSIO
Mae Rosie Eccles o Gymru yn sicr o fedal efydd o leiaf ar ôl curo Magan Maka o Donga i ennill ei lle yn rownd gynderfynol categori 69kg y merched.
Ond dyna oedd yr unig newyddion da i’r Cymry ar ddiwrnod caled o gystadlu. Collodd Billy Edwards i Nkumbu Silungwe o Zambia yn yr 16 olaf, ac fe gollodd Lynsey Holdaway yn erbyn Kristina O’Hara o Ogledd Iwerddon yn rownd go-gynderfynol y merched.
NOFIO
Dywedodd Xavier Costelli ei fod yn hynod falch o orffen yn bedwerydd yn ffeinal y ras dull cefn 50m a gynhaliwyd heno. Llwyddodd i gyffwrdd y wal mewn 25.44 eiliad, ond Awstralia gipiodd y tri lle ar y podiwm.
Daeth Alys Thomas yn chweched yn ffeinal y 50m dull pili-pala.
Cymhwysodd Chloe Tutton ar gyfer y ffeinal 100m dull brest nos yfory trwy ddod yr wythfed gyflymaf gydag amser o 1.08.54. Methodd Beth Sloan â chyrraedd y rownd gynderfynol yn gynharach yn y dydd.
Ond mae Calum Jarvis hefyd drwodd i ffeinal y 100m dull pili-pala. Gorffennodd yn drydydd yn y rownd gynderfynol y tu ôl i’r Awstraliaid Grant Irvine a David Morgan a hynny mewn amser o 53.33.
Yn rhagbrofion olaf y bore, cafodd Jazz Carlin amser o 8:36.52 yn yr 800m dull rhydd gan orffen yn ail y tu ôl i Ariarne Titmus o Awstralia. Bydd yn cystadlu yn y ffeinal gydag Ellena Jones a gymhwysodd ar ôl dod yn bedwerydd gydag amser o 8:43.89.
Yn siomedig iawn, ni chymerodd Kathryn Greenslade ran yn rhagbrofion y 200m dull cefn na’r 100m dull rhydd oherwydd salwch.
SBONCEN
Rhoddwyd diwedd ar obeithion Joel Makin o gyrraedd ffeinal senglau’r dynion yn dilyn brwydr wych gan Paul Coll.
Enillodd Makin y ddwy gêm gyntaf, ond llwyddodd Coll, sy’n hynod gystadleuol, i lefelu’r gêm ac yna ennill. Y sgôr terfynol oedd 6-11, 9-11, 9-11, 11-2, 11-8.
Bydd Makin yn chwarae am y fedal efydd nos yfory.
“Roedd hon yn grasfa anodd, ond mae’n rhaid i mi symud ymlaen o’r gêm heddiw a chanolbwyntio ar roi popeth sydd gen i i’w roi yfory.”
Roedd yn stori debyg yn hanes Tesni Evans o’r Rhyl yn rownd gynderfynol senglau’r merched lle wynebai #1 Cymru chwaraewraig #1 Lloegr, Sarah-Jane Perry.
Dyw Evans erioed wedi curo yn erbyn S. J Perry ac felly roedd hi bob amser yn mynd i fod yn gêm galed.
Roedd y gêm gyntaf yn agos, ond Perry ddaeth i’r brig ar y cwrt gan ennill o 11 – 6.
O hynny ymlaen, daeth yn anoddach fyth i Evans wrth i Perry fanteisio ar unrhyw wendid yn ystod yr ornest.
Aeth y chwaraewraig o Loegr ymlaen i ennill y gemau nesaf yn gyfforddus (11-3, 11-8), sy’n golygu na fydd Evans yn cystadlu yn y ffeinal eleni.
Bydd Tesni’n cystadlu am y fedal efydd brynhawn yfory pan fydd yn wynebu Nicol David o Falaysia am 14.30 (amser lleol).
Mae’r fenyw 25 mlwydd oed yn dweud y bydd yn “ymladd am ei bywyd” i gael lle ar y podiwm yfory.
GYMNASTEG
Daeth dau aelod o dîm gymnasteg Cymru o fewn trwch blewyn i ennill medal yn rownd derfynol y gymnasteg cyfarpar unigol yn Coomera.
Daeth Holly Jones o Abertawe yn bedwerydd yn y llofnaid, ddim ond 0.033 o bwyntiau y tu ôl i enillydd y fedal efydd. Perfformiodd y fyfyrwraig Lefel A 17 oed yn hyderus o flaen torf fawr, gan lanio’n lân.
Felly hefyd yn hanes Jac Davies o Glwb Gymnasteg Abertawe. Cwblhaodd ei rwtîn yn erbyn y Pencampwr Olympaidd Max Whitlock a Rhys McClenaghan a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth. Ar ôl cyfrif sgôr y beirniaid, collodd allan ar yr efydd o ddim ond 0.067 pwynt.
“Dyma’r ail dro i mi ddod yn bedwerydd, ond dyna beth ydi cystadlu,” meddai. “Dyna un o’r sgoriau isaf i mi eu cael eleni.”
Yn gynharach, gorffennodd Jac yn seithfed yn ffeinal ymarferion llawr y dynion, a daeth Maisie Methuen a Latalia Bevan yn 7fed ac 8fed yn y barrau anwastad.
HOCI’R DYNION
Ar ôl gornest galed a 60 munud o chwarae, daeth siomedigaeth i dîm hoci’r dynion wrth golli o ddim ond 4-3 yn erbyn India – sydd wedi’u rancio y chweched yn y byd – yng Nghanolfan Hoci’r Arfordir Aur.
Roedd tîm dynion Cyrmu yn arbennig o awyddus i ennill ar ôl colli yn erbyn Malaysia yn yr ail gêm ym mhwll B, ac fe ddaru nhw frwydro’n galed. Cafwyd sawl penalti o’r gornel a fu’n allweddol o ran pennu canlyniad y gêm.
Roedd y ddwy ochr yn ddi-sgôr ar ddiwedd y rhan gyntaf.
Sgoriodd India eu gôl gyntaf ar ôl dim ond 40 eiliad yn yr ail chwarter gyda Dilpreet Singh yn saethu i gefn y rhwyd. Ar ôl tair penalti, sgoriodd Gareth Furlong y gôl gyntaf o dair a sgoriodd yn ystod y gêm. Roedd India yn dal ar y blaen ar hanner amser, ar ôl i Mandeep Singh sgorio o’r gornel dri munud cyn y toriad.
Ar ôl newid nifer o chwaraewyr yn y trydydd chwarter, daeth Cymru yn gyfartal yn y 44fed munud, gyda gôl arall gan Furlong.
Cafwyd tair gôl o fewn tri munud yn y chwarter olaf gyda, Harmanpreet Singh yn rhoi India ar y blaen yn y 56ed munud, cyn i Furlong sgorio ei drydedd gôl o’r gornel funud yn ddiweddarach. Sgoriodd SV Sunil y gôl fuddugol gyda dim ond munud a hanner ar ôl ar y cloc yn y chwarter olaf.
Bydd tîm hoci’r dynion yn chwarae eu gêm grŵp olaf yn erbyn Lloegr ddydd Mawrth 10fed o Ebrill.
BEICIO
Ar y noson olaf yn y Felodrôm, ni lwyddodd seiclwyr Cymru i ailadrodd llwyddiant y dair noson ddiwethaf.
Yng nghystadleuaeth keirin y merched, daeth Rachel James yn 9fed. Gorffennodd Manon Lloyd, Meg Barker ac Elinor Barker yn 9fed, 11eg a 12fed yn y ras scratch.
Yn y kilo (prawf amser 1000m), daeth Lewis Oliva yn 13eg ac Ethan Vernon yn 16fed.
Yn ras olaf y dydd, sef y ras bwyntiau 40km, daeth Jon Mould yn 7fed gyda 45 o bwyntiau, a Joe Holt a Sam Harrison yn 13eg ac 20fed.
SAETHU
Gorffennodd Coral Kennerley a Mike Bamsey yn bumed yng nghystadleuaeth 10m pistol aer y merched a 10m reiffl aer y dynion, tra’r oedd Ben Llewellin yn ail ar ddiwrnod agoriadol skeet y dynion.
Am
amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Llun 9fed Ebrill, ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm