GC2018: Day 3 Highlights

BARKER YN CIPIO’R AUR I DÎM CYMRU AR DDIWRNOD ARALL LLWYDDIANNUS

Elinor Barker o Gaerdydd yn ennill Ras Bwyntiau 25km y merched

Ail fedal aur i’r para-feiciwr sbrint James Ball

Medal efydd i Chloe Tutton yn y 200m dull brest

Cymru yn 8fed yn y table medalau (2 Aur, 3 Arian, 1 Efydd)


Roedd hi’n noson euraidd i Dîm Cymru wrth i Elinor Barker ennill y ras bwyntiau 25km i ferched ar drydydd diwrnod y cystadlu yng Ngemau’r Arfordir Aur 2018.

Yn ogystal â chipio’r fedal aur, y feicwraig 23 oed o Gaerdydd yw’r fenyw gyntaf o Gymru i ennill teitl Gemau’r Gymanwlad ar y trac ers Auckland ym 1990.

Mae hi’n awr wedi ennill pob un o’r prif deitlau – y Gemau Olympaidd, Pencampwriaethau’r Byd, Pencampwriaethau Ewrop ac yn awr, Gemau’r Gymanwlad.

Roedd ei buddugoliaeth yn un drawiadol wrth iddi dorri i ffwrdd i ennill y pumed sbrint, ac yna greu cyffro yn Felodrôm Anna Meares wrth iddi fynd ar y blaen o lap i sicrhau sgôr o 20 pwynt.

Gyda phwyntiau dwbl yn cael eu dyfarnu ar y sbrint olaf, sicrhaodd Barker na allai unrhyw un ei threchu trwy fod y gyntaf i groesi’r llinell a sgorio’r nifer fwyaf bosibl o bwyntiau. Gorffennodd gyda 40, 20 ar y blaen i’w gwrthwynebydd agosaf, sef Katie Archibald o’r Alban.

Chwaraeodd ei chyd-feicwyr Dani Rowe a Jessica Roberts ran mewn ras gyffrous a thactegol hefyd, wrth i Gymru ennill yr ail fedal aur yn ystod y Gemau.

Daeth rhieni a brodyr a chwiorydd Elinor i’w llongyfarch ar ochr y trac, yn cynnwys ei chwaer a’i chyd-feicwraig Megan, a oedd wedi teithio i Awstralia i’w chefnogi.

“Dyma’r tro cyntaf i’r chwech ohonom ni fod yn yr un ystafell ers blwyddyn a hanner felly mae’n arbennig iawn,” meddai.

“Mae ennill dros Gymru yn teimlo’n gwbl anhygoel.”

“Doeddwn i ddim yn hyderus cynt. Roeddwn i’n nerfus wrth gymryd rhan yn y pedwar sbrint cyntaf ac roedd hi’n fater o fynd amdani. Roeddwn i naill ai’n mynd i ennill y lap a bod ar y blaen neu chwythu fy mhlwc a byddai’r ras drosodd. Weithiau mae rhaid i chi fod yn fodlon mentro. Diolch byth mi dalodd hynny.”

Hefyd yn y beicio:

Yn gynharach, enillodd James Ball, ar y cyd â’i beilot Pete Mitchell, ei ail fedal arian yn y sbrint i athletwyr â nam ar eu golwg, ar ôl colli yn y ffeinal o 2-0 yn erbyn Neil Fachie a Matt Rotherham o’r Alban.

Meddai Ball: “Ennill dwy fedal oedd y targed yn y Gemau felly rwy’n falch iawn. Mi wnaethon ni ein gorau felly rwy’n fwy na bodlon.

“Mae ein tîm ni wedi bod yn anhygoel. Dydyn ni ddim wedi bod yn aros yn y pentref gyda’r chwaraeon eraill ond mae pawb wedi bod yn wych. Rwy mor hapus!”

Bu bron y dim i dîm sbrint y merched, Ellie Coster a Rachel James, ennill y fedal efydd ond colli o drwch blewyn i Loegr fu hi yn y diwedd.

Ddaru Lewis Oliva ddim ychwanegu at ei fedalau, gan iddo fethu â chymhwyso ar gyfer y rownd gynderfynol.

Gorffennodd Megan Barker, Manon Lloyd a Jessica Roberts, yn bumed yn ras tîm 4000m y merched a chymhwysodd Joe Holt ar gyfer ffeinal ras scratch 15km y dynion.

NOFIO

Enillodd Chloe Tutton fedal gyntaf Cymru yn y pwll nos Sadwrn mewn cystadleuaeth glos arall yng Nghanolfan Nofio’r Arfordir Aur.

Cipiodd y nofwraig 21 mlwydd oed o Rondda Cynon Taf y fedal efydd yn y ras 200m dull brest, y tu ôl i Tatjana Schoenmaker o Dde Affrica a Molly Renshaw o Loegr.

Meddai Tutton: “Roeddwn i wirioneddol eisiau gadael gyda medal felly rwy’n hapus. Ro’n i wedi gobeithio dod yn gyntaf, ond roedd y ras yn un galed.”

Yn gynharach gorffennodd Georgia Davies yn bumed yn y 100m dull cefn. Enillodd y fedal arian yn yr un ras bedair blynedd yn ôl, ond doedd hi ddim yn rhy siomedig.

“Rwy’n hapus gyda’r canlyniad,” meddai Davies, sydd yn ffafrio’r 50m dull cefn.

“Er nad ydw i wedi ennill medal, nid dyma’r gamp rwyf i gryfaf ynddi felly mae’n rhoi hwb i mi ar gyfer y nesaf. Mae’r gystadleuaeth yn agos ond rwy’n falch iawn o’r tîm am yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni yn y pwll hyd yma, ac mae llawer mwy i ddod.”

Daeth tîm cyfnewid 4x200m y merched yn bumed.

Cymhwysodd Alys Thomas ar gyfer ffeinal y ras 50m dull pili-pala, a bydd Xavier Castello yn dechrau yn y seithfed rhes, ar ôl cyrraedd rownd derfynol 50m dull cefn y dynion.

Mae Calum Jarvis allan ar ôl rownd gynderfynol y 100m dull rhydd.

PÊL RWYD

Cymru 47 – 51 Yr Alban

Ar ôl eu perfformiad dewr yn erbyn yr ail dîm yn y byd, Seland Newydd, ddydd Gwener roedd Cymru’n gobeithio manteisio ar eu cryfder yn erbyn yr Alban. Gyda’r ddwy ochr yn gobeithio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Gemau, roedd yn mynd i fod yn ornest danllyd o’r cychwyn.

Roedd yn ddechrau digon sigledig i Gymru ac roedd gan yr Alban y llaw uchaf yn fuan iawn yn y gêm wrth i’r Cymry golli methiant nifer o weithiau. Serch hynny, roedd Cymru’n benderfynol wrth ymosod ac er eu bod y tu ôl o ran canran y saethu cawsant y blaen ar gychwyn y gêm.

Roedd perfformiad Cymru’n fwy cyson ar gychwyn yr ail chwarter ac fe arhoson nhw ar y blaen am gyfnod. Ond doedd yr Albanwyr fyth ymhell y tu ôl ac roedd y sgôr yn agos iawn, 24 – 23 i Gymru, ar hanner amser.

Yn fuan ar ôl y toriad, llwyddodd yr Alban i frwydro’n ôl a chreu bwlch clir rhyngddyn nhw a Chymru. Gyda 10 munud i fynd, roedd yr Alban 9 pwynt ar y blaen. Ond llwyddodd Cymru i gau’r bwlch, a dim ond 4 pwynt oedd y gwahaniaeth erbyn diwedd y gêm.

Bydd y tîm yn ail-grwpio’n awr cyn eu gêm yn erbyn Lloegr ddydd Llun 9fed Ebrill. 

SBONCEN

Curodd Tesni Evans, pencampwr Prydain, ffefryn y gystadleuaeth, sef Laura Massaro. Trwy hynny mae’r Gymraes wedi cyrraedd rownd gynderfynol sboncen y merched yng Ngemau Awstralia.

Enillodd Evans yn erbyn Massaro o Loegr o 3-1 a bydd hi’n wynebu Saesnes arall, Sarah Jane-Perry, yn rownd y pedwar olaf.

Roedd gan Massaro dri phwynt gornest cyn i Evans gipio’r fuddugoliaeth ac ennill am y trydydd tro’n ddi-dor yn erbyn ei gwrthwynebydd.

Roedd Evans, o’r Rhyl, yn ennill o 2-0 am gyfnod ond brwydrodd Massaro yn ôl cyn i’r Gymraes ei threchu yn y diwedd.

“Roeddwn i’n teimlo fod llawer o bwysau ar fy ysgwyddau ac roedd yn rhyddhad dod trwy’r gêm yna,” ychwanegodd.

“Bydd ennill yn erbyn y ffefryn yn rhoi llawer o hyder i mi wrth fynd i’r rownd nesaf.

“Ond dwi ddim yn meddwl am ennill medalau, dwi’n canolbwyntio ar fynd o gêm i gêm.”

Bydd hi’n sicr o gael medal arian, o leiaf, os bydd yn ennill yn y rownd gynderfynol. 

Mae Joel Makin hefyd drwodd i’r pedwar olaf yn senglau’r dynion. Enillodd yn erbyn Alan Clyne o’r Alban o 3-2.

BOWLIO LAWNT

Roedd y trydydd diwrnod yn ddiwrnod allweddol wrth i Dîm Cymru anelu am fedalau yn ystod wythnos gyntaf y Bowlio Lawnt yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.

I gychwyn y diwrnod, roedd Laura Davies yn sicr o’i lle yn rownd go-gynderfynol senglau’r merched, ond roedd yn awyddus i barhau i berfformio’n gryf. Roedd yn frwydr galed i Laura ar ôl gorfod dychwelyd o 0-8 yn fuan iawn, a Caroline Brown o’r Alban ddaeth i frig y grŵp trwy ennill o 21-13.

Yn y rownd go-gynderfynol, roedd Laura’n wynebu Carmen Andersen o Ynysoedd Norfolk a ddaeth trwy Adran C heb ei churo. Cafwyd gornest agos iawn gyda Daniels o Gastell-nedd ar y blaen o 9-4 am gyfnod. Er i Andersen dynnu Laura yn ôl i 13-14, doedd dim trechu Pencampwr Pencampwyr y Byd ac enillodd y Gymraes y gêm o 21-13.

Roedd y gêm fwyaf allweddol ym mharau’r dynion yn fuan yn y dydd. Gwyddai

Dan Salmon a Marc Wyatt mai dim ond trwy ennill y bydden nhw’n sicrhau lle yn y rownd go-gynderfynol ar draul eu gwrthwynebwyr profiadol o Ogledd Iwerddon, Gary Kelly ac Ian McClure.

Cafwyd perfformiad anhygoel gan Dan a “Sparky” ac roedden nhw ar y blaen o 12-0 yn fuan iawn. Er i’w gwrthwynebwyr frwydro’n ôl i 14-8, daeth y ddau Gymro i’r brig gan ennill o 27-8 a sicrhau lle yn y sesiwn go-gynderfynol yn erbyn Seland Newydd yn nes ymlaen yn y dydd.

Ac nid dyna ddiwedd y newyddion da. Cafwyd perfformiad ardderchog i guro

Blake Signal a Shannon McIlroy o Seland Newydd. Gan ennill y blaen yn fuan iawn, a gyda’r gêm yn llithro oddi wrth y pâr o Seland Newydd, llwyddodd Dan o Benylan a Marc o Gaerffili i gipio buddugoliaeth o 20-7 a sicrwydd o fedal.

Gwyddai tîm triawdau’r dynion, fel Laura yn y senglau merched, bod lle yn y rownd go-gynderfynol yn bendant, ond roedden nhw eisiau parhau â’r momentwm yng ngêm olaf y grŵp yn erbyn Lloegr. Cafodd Ross Owen, Steve Harris a Jonathan Tomlinson gychwyn cadarn drwy gipio’r blaen o 8-3 ac yna 14-9 cyn i Loegr ddod yn ôl i ennill o flwch blewyn, 17-16.

Ond â hwythau’n ddiogel eu lle yn y rownd go-gynderfynol roedd sesiwn gyda’r nos yn erbyn yr Alban yn aros amdanynt.

Eto, aeth Ross, Steve a Tomo ar y blaen o 11-2 ar gychwyn y gêm. Fodd bynnag, buan y daeth y triawd o’r Alban – Ronnie Duncan, Derek Oliver a Darren Burnett – o hyd i’w traed yn ail hanner y gêm i gau’r bwlch i 11-8, ac yna orffen y gêm trwy gipio buddugoliaeth o 15-13.

Yn y cyfamser, parhaodd Julie Thomas & Gilbert Miles â’u hymdrechion i ennill medalau yn yn parau cymysg B6/B7 trwy ennill o 21-11 yn erbyn Lloegr. Mae ganddyn nhw 2 o gemau ar ôl yn y cam grwpiau a byddan nhw’n ceisio sicrhau lle yn y rownd gynderfynol trwy ennill yn erbyn Awstralia fore Sul.

Cafodd y dorf ei difyrru gan Jon Hubbard, Ray Lillicrop a Pauline unwaith eto yn nes ymlaen yn y dydd, y tro hwn yn erbyn De Affrica, ond roedd hi’n gêm galed a colli ddaru nhw o 21-4.

Gyda dau gyfuniad ar ôl yn y gystadleuaeth am fedalau yn wythnos gyntaf y bowlio lawnt, mae Cymru’n gobeithio am Sul buddugoliaethus yn Awstralia.

HOCI

Malaysia 3 – 0 Cymru

Cafodd dynion Cymru eu trechu gan Malaysia yn eu hail gêm ym Mhwll B. Enillodd Malaysia, sydd wedi’u rancio 12fed yn y byd, o 3-0.

Daeth hyn yn dilyn crasfa o 7-0 yn erbyn Lloegr, ond cawsant ddechrau cryf yn erbyn Cymru gan gymryd y blaen. Sgoriodd Saari fflic benalti ar ôl camchwarae gan geidwad gôl Cymru, David Kettle.

Yn yr ail gyfnod, llwyddodd Cymru i reoli’r meddiant a gweithiodd y tîm yn galed i ddod yn gyfartal. Wrth i ddiwedd yr hanner cyntaf, methodd ymgais y capten Luke Hawker i sgorio, gan adael y sgôr yn 1-0 i Falaysia ar hanner amser.

Dychwelodd momentwm Malaysia yn y trydydd gyfnod, gyda dau arbediad gwych gan Kettle. Ond ni allai atal y gwrthwynebiad rhag dyblu eu goliau, a sgoriodd van Huizen benalti o’r gornel i wneud y sgôr yn 2-0 wrth gychwyn ar y chwarter olaf.

Rhoddodd Malaysia stop i unrhyw obaith y deuai Cymru’n ôl trwy gipio trydedd gôl.

Meddai Capten Cymru Luke Hawker: “Mi ddaru ni greu llawer o gyfleoedd a chael y bêl yn y cylch sgorio ond ddaru pethau ddim gweithio o’n plaid. Mi ddaru ni adael gormod o dasg i ni’n hunain.”

“Rydyn ni’n chwarae’n erbyn India nos fory ac yna Lloegr. Dydi hynny ddim yn llawer o help i ni – mae’r ddau dîm yn gryf iawn. Dyma fydd y tro cyntaf i lawer o’n chwaraewyr ni chwarae yn erbyn timau o’r safon yna, felly mi wnawn nhw ddysgu llawer. Ond os gwnawn ni amddiffyn yn effeithiol a chymryd pob cyfle, does dim rheswm pam na allwn ni gystadlu.”

GYMNASTEG

Daeth Latalia Bevan a Maise Methuen yn gyd-chweched yn y gystadleuaeth gyffredinol.

TRIATHLON

Gorffennodd tîm Cymru – Non Stanford, Iestyn Harrett, Olivia Matthias a Chris Silver – yn chweched yn y ras gyfnewid tîm gymysg.


Am amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Sul 8fed Ebrill, ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm