GC2018: Day 2 Highlights
GARETH EVANS YN ENNILL Y FEDAL AUR GYNTAF I GYMRU
Hefyd heddiw:
Y beiciwr sbrint Lewis Oliva yn ennill Arian yng nghystadleuaeth y Keirin i ddynion
Tîm pêl-rwyd Cymru yn sgorio’r nifer fwyaf o goliau erioed yn erbyn y Silver Ferns
Tîm hoci’r merched yn colli o 5-1 yn erbyn Lloegr ynghanol glaw trwm
Cymru’n 9fed yn y tabl medalau erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, gydag 1 aur a 2 arian
Enillodd Gareth Evans y categori 69kg yn y codi pwysau gan sicrhau’r fedal aur gyntaf i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.
Cododd Gareth, sy’n 31 oed ac o Gaergybi, gyfanswm o 299kg gan ennill y gystadleuaeth a dod â thali medalau Tîm Cymru i fyny i 3 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ar yr Arfordir Aur.
Meddai: “Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn ers 20 mlynedd felly ro’n i’n barod. Mae wedi golygu llawer o waith caled ond roedd gen i ffydd y gallwn ennill. Alla i dal ddim credu’r peth ond dwi wrth fy modd. Dyma oedd fy nod o’r cychwyn: ennill Aur i Gymru.”
“Dwi’n methu stopio edrych ar y fedal – ond, mae cael y faner amdana i yn golygu llawn cymaint.”
“Y rhan anoddaf oedd disgwyl i godi’r pwysau am y tro olaf. Roedd y fedal aur o fewn cyrraedd ac roedd gen i gymaint o eisiau cipio’r fedal aur gyntaf i’r tîm.”
Daeth Evans, a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, yn bumed yn y categori 62kg yn Glasgow bedair blynedd yn ôl yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010.
Uchafbwyntiau eraill o’r codi pwysau:
Yn gynharach, gorffennodd Catrin Jones yn yr 11eg safle yng nghategori 53kg y merched, gan dorri tair record Gymreig ar hyd y ffordd.
Ychwanegodd y codwr pwysau 18 mlwydd oed 10kg at ei gorau personol drwy gyflawni cyfanswm o 165 kg gan dorri ei record ei hun yn y broses.
“Mae cael fy newis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wedi bod yn uchelgais gen i ers i mi gychwyn codi pwysau. Mae cynrychioli Cymru ar y llwyfan yma’n gyfle anhygoel.”
Cafodd Catrin ei henwi yn Athletwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2017, a does dim amheuaeth y bydd yn gobeithio am le ar y podiwm yng Ngemau Birmingham 2022: “Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn o ran perfformio o flaen cynulleidfa fawr felly dwi’n hapus efo’r canlyniad heddiw.”
Yn y ffeinal gyda’r nos, daeth Christie Williams o Aberdâr yn 7fed yn y categori 58kg ar ôl codi 75kg yn y snatch a 95kg yn y clean & jerk – cyfanswm o 170 kg.
BEICIO
Roedd yna ddathliadau emosiynol yn Felodrôm Anna Meares wrth i Lewis Oliva ennill y fedal arian yn y ffeinal ddramatig yng nghystadleuaeth Keirin y dynion.
Cychwynnodd Lewis, sy’n fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn y cefn ond amserodd ei symudiad tua’r blaen yn berffaith yn y lap olaf gan gipio’r fedal arian dri chanfed eiliad y tu ôl i’r ffefryn, Matt Glaetzer o Awstralia.
Cyrhaeddodd Oliva’r rownd derfynol ar ôl gorfod reidio ras ychwanegol yn y repechage am iddo fethu â chymhwyso’n awtomatig yn y rownd ragbrofol.
Ar ôl y ffeinal, cafodd ei longyfarch gan ei ddyweddi Ciara Horne, sydd hefyd yn rhan o garfan feicio Tîm Cymru, ac a lwyddodd i wella ei gorau personol yn gynharach yn y ras unigol.
Ymadawodd Oliva â rhaglen feicio GB ym Manceinion er mwyn symud yn ôl i Gymru i astudio meddygaeth a thargedu Gemau’r Gymanwlad.
Meddai: “Rwy’n teimlo fel mod i’n mynd i ddeffro ac mai breuddwyd oedd y cyfan. Dwi’n methu credu. Mae gwireddu uchelgais fel hyn – ac ennyn ffydd fy hyfforddwyr, fy nyweddi a fy nheulu – yn gwbl anghredadwy.”
“Roedd rhaid i mi ddyfalbarhau yn ystod y repechage a sicrhau mod i’n cael canlyniad cryf, wedyn crafu trwodd yn y semi, a rhoi popeth y gallwn i yn y rownd derfynol. Rwy wrth fy modd mod i wedi dod mor agos â hyn at ennill yr aur.
“Roeddwn i eisiau astudio yng Nghaerdydd ac mae’r Brifysgol wedi bod yn wych. Roedd gen i gynllun ar gyfer gweithio gyda fy hyfforddwyr, ac mae’r gefnogaeth rwy wedi’i chael gan Sefydliad Chwaraeon Cymru a phawb ym Meicio Cymru wedi bod yn ardderchog. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fy nyweddi sydd hefyd wedi wynebu heriau ei hun.”
Hyd yn oed cyn y fedal, roedd wedi bod yn ddiwrnod da ar y trac i Dîm Cymru, gyda goreuon personol gan Jessica Roberts, Hayley Jones, a Ciara Horne yn y 3000m unigol, Ellie Coster a Rachel James yn y sbrint, ac Ethan Vernon a Sam Harrison yn y 4000m unigol.
PÊL-RWYD
Llwyddodd Cymru i sgorio’r nifer fwyaf erioed o goliau yn erbyn y cewri, Seland Newydd, er iddyn nhw golli eu gêm agoriadol (Cymru 44 – 70 Seland Newydd).
Sgoriodd Chelsea Lewis gôl o fewn 10 eiliad, ond roedd yn gychwyn digon simsan i Gymru. Sgoriodd Maria Folau i’r Silver Ferns gan helpu’r Kiwis i achub y blaen, er i Gymru ddechrau dod o hyd i’w traed yn y chwarter cyntaf.
Yn yr ail chwarter, chwaraeodd Cymru yn gryf iawn gan amddiffyn yn fwy effeithiol a manteisio ar gyfleoedd. Cafwyd perfformiadau anhygoel gan Kelly Morgan a Nia Jones wrth i Gymru ennill yr ail chwarter o 13-9 – y tro cyntaf erioed iddyn nhw sgorio mwy o goliau na’r Silver Ferns mewn chwarter.
Ond daeth Seland Newydd, sydd ar hyn o bryd yn ail trwy’r byd, yn ôl yn gryf yn yr ail hanner gan drechu Cymru ar un pwynt o 10 i 1.
Ni ddaeth cyfle i Gymru gyflawni gystal â’r ail chwarter ond llwyddodd y tîm i gael sgôr hynod barchus – gan guro eu record o 39 gôl yn yr ornest hon. Roedd y gwahaniaeth o 26 pwynt yr isaf yn hanes gemau pêl rwyd Cymru yn erbyn Seland Newydd.
HOCI’R MERCHED
Cafodd Cymru eu curo yng Nghanolfan Hoci’r Arfordir Aur gan Loegr a lwyddodd i ennill yn gyfforddus o 5-1 a chyrraedd brig Pwll A.
Aeth Lloegr ar y blaen o ddwy gôl yn gynnar iawn yn y gêm diolch i Giselle Ansley a Susannah Townsend ond hanerwyd y gwahaniaeth gan Phoebe Richards yn yr ail chwarter a chafodd Cymru gyfle ar ôl y toriad i ddod yn gyfartal.
Ond doedd hynny ddim i fod a chafwyd goliau yn hwyr yn y gêm gan Hannah Martin, Sophie Bray a Grace Balsdon.
“Roedd yn ornest leol i ni felly roedd pawb yn barod am gêm fawr,” meddai Natasha Marke-Jones.
“Mi ddaru nhw ddangos eu cryfder ac roedden nhw’n glinigol iawn,” ychwanegodd. “Mi drion ni fynd am yr ail gôl yn syth bin, ond mi gawson nhw fomentwm ar ôl sgorio’u trydedd a ddaru ni ddim dod yn ôl wedi hynny.”
TENIS BWRDD
Methodd tîm merched Cymru â chyrraedd y rownd gynderfynol o drwch blewyn ar ôl colli yn erbyn Awstralia yn Stiwdios Oxenford.
Yn gynharach, enillodd Charlotte Carey, Chloe Thomas ac Anna Hursey yn erbyn Sri Lanka i sicrhau lle yn y rownd go-gynderfynol.
Curodd Carey o 3-0 ym mrwydr gyntaf y grŵp olaf, cyn i Anna Hursey arddangos unwaith eto y sgiliau sydd wedi denu cymaint o sylw gan y cyfryngau ar yr Arfordir Aur.
A hithau ddwy set y tu ôl i Ishara Manikku Badu, llwyddodd y chwaraewraig 11 oed o Gaerdydd i sgwario’r gêm cyn colli’r pumed set.
Parwyd Hursey gyda Chloe Thomas yn y dyblau, ac enillodd y pâr o 3-0 yn erbyn Hansani Kapugeeiyana a Manikku Badu.
Seliwyd buddugoliaeth gan Carey heb golli set i sicrhau lle yn yr wyth terfynol yn erbyn Awstralia, un o ffefrynnau’r rhag-dwrnamaint.
Enillodd Carey dros Gymru yn y rownd go-gynderfynol gan drechu Jian Fang Lay (4-1). Collodd Thomas o 3-0 yn erbyn Melissa Tapper yn y gêm nesaf, gan adael y frwydr yn gyfartal ar gychwyn y dyblau.
Y tro hwn, parwyd Hursey gyda Thomas ond doedden nhw’n ddim cystadleuaeth Miao Miao a Lay, a rhoddwyd diwedd i’r freuddwyd o gyrraedd y pedwerydd lle pan gollodd Carey yn y gêm derfynol.
Gyda’r gêm yn gyfartal o 1-1, roedd ar y blaen o 10-2 ond daeth Miao yn ôl i ennill o 13-11 gan blesio’r dorf gartref.
BOCSIO
Roedd teimladau cymysg yn y cylch paffio wrth i’r bocsio gychwyn yn Stiwdios Oxenford. Enillodd Rosie Eccles ei gornest agoriadol yn y Rownd o 16 69kg i ferched gan guro Aubiege Azangue o Gameroon.
Ond mae Kyran Jones allan o’r gystadleuaeth. Gorfododd ddyfarniad hollt yn erbyn Steven Donnelly ar ôl cychwyn araf yn yr ornest Rownd o 32 75kg i ddynion, ond roedd y dyfarniad yn bedwar i un o blaid y paffiwr o Ogledd Iwerddon.
SBONCEN
Parhaodd Pencampwr Prydain Tesni Evans i berfformio’n wych, gan ennill buddugoliaeth hawdd dros Aifa Azman o Falaysia yn y senglau merched, rownd o 16 yn y Ganolfan Sboncen.
Yn senglau’r dynion, llwyddodd Joel Makin i gyrraedd y rownd gogynderfynol, ar ôl curo Chris Binnie o Jamaica o 3-0.
GYMNASTEG
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus i gymnastwyr artistig ifanc Cymru wrth iddyn nhw gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol. Mae Maisie Methuen a Latalia Bevan drwodd i’r ffeinal gyffredinol unigol a bydd Holly Jones yn cystadlu yn ffeinal y llofneidio ddydd Sul. Llwyddodd Maisie a Latalia i gyrraedd y ffeinals ar gyfer y barrau anwastad a’r trawst, gyda Bevan ac Emily Thomas yn gwneud cynnydd ar y llawr.
BOWLIO LAWNT
Trechodd
tîm triawdau’r dynion Papua New Guinea o 27 – 10, ar ôl ennill yn erbyn India a
De Affrica ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu.
Daliodd Laura Daniels ati i ennill yn senglau’r merched, gan guro Rachel Macdonald o Jersey o 21-11 yn y bedwaredd rownd. Dyma ei thrydedd buddugoliaeth yn y twrnamaint, ar ôl ennill o 21 – 15 yn erbyn Lucy Beere o Guernsey, a enillodd senglau dan do yng Nghwpan y Byd yn ddiweddar, ac ennill o 21 – 10 yn erbyn Amaliaha Matali o Brunei.
Enilodd y parau cymysg B2/B3 o 13-7 yn erbyn yr Alban, ond collodd pedwarawd y merched o 22 – 10 yn erbyn yr Alban.
Trechwyd Cymru o 27 – 4 gan yr Alban yn Adran A Rownd 2 y Triawdau Agored B6/B7/B8. Ond roedd newyddion gwell i ddod wrth i Daniel Salmon a Marc Wyatt guro Jamaica o 33 – 4 yng nghystadleuaeth parau’r dynion.
NOFIO
Daeth Calum Jarvis yn 5ed yn ffeinal 200m y dynion yng Nghanolfan Nofio’r Arfordir Aur.
“Doeddwn i ddim ar fy ngorau, ond rwy’n hapus gyda’r canlyniad,” meddal. “Mae’r rowndiau terfynol bob amser yn llawer cyflymach na’r rhagbrofion a gall gymryd amser i addasu. Rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i mewn i’r pwll.”
Daeth Xavier Castelli yn agos at ennill medal hefyd, gan orffen yn y 5ed safle yn ffeinal 100m dull cefn y dynion. Meddai: “Rwy’n hapus gyda fy mherfformiad. Roedd y gystadleuaeth yn galed ac rwy’n falch o fod wedi cystadlu yn erbyn y goreuon yn y ffeinal.”
Daeth Alys Thomas yn 7fed yn 100m dull pili-pala y merched a hynny mewn glaw trwm, wrth i Awstralia gipio’r tri safle ar y podiwm.
Meddai Alys ar ôl y ras: “Roedd yn gychwyn araf i mi ac mi fethais â chael y cyflymder yn ôl. Ond mae bod yn y rownd derynol yn erbyn nofwyr more ardderchog â thîm Awstralia yn brofiad gwefreiddiol.”
Mae Georgia Davies drwodd i ffeinal y 100m dull cefn ddydd Sadwrn. Cymhwysodd fel y pumed cyflymaf ar gyfer y ras, lle enillodd y fedal arian yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.
Am
amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Sadwrn 7fed Ebrill,
ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm